Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Cynhadledd Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol (IEEC) 2022.
Mae'r IEEC yn fforwm blaenllaw ar gyfer trafodaethau gan arbenigwyr am ymgorffori mentergarwch yn y cwricwlwm a magu sgiliau myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn fwy entrepreneuraidd, yn ogystal â bod yn gynhadledd uchel ei bri'n fyd-eang ar gyfer addysgwyr mentergarwch ac entrepreneuriaeth.
Nid yw'r IEEC wedi cael ei chynnal yng Nghymru ers mwy na 10 mlynedd, felly bydd cyfle i Abertawe ddangos y datblygiadau gwych a gafwyd yn lleol ac yn rhanbarthol yn y cyfamser. Gerbron 300 o gynrychiolwyr, bydd Prifysgol Abertawe'n cael dangos pam yr enwyd Abertawe yn ddinas entrepreneuraidd gyntaf y byd gan UNESCO, ac y'i cydnabuwyd fel y lle gorau ond tri i gychwyn busnes yn y DU yn 2020.
Ar ran Llywodraeth Cymru, meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i gydweithio â'n partneriaid i feithrin diwylliant entrepreneuraidd yma yng Nghymru. Fel cenedl sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am gryfder ein haddysg entrepreneuriaeth, mae dulliau dysgu ac addysgu sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru'n bwysig wrth feithrin entrepreneuriaid y dyfodol.
“Rwy'n falch y bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal y gynhadledd hon, sy'n uchel ei bri'n rhyngwladol. Bydd yn rhoi cyfle gwych i ymarferwyr addysgu ledled Cymru ddysgu a rhannu arferion da ar y llwyfan byd-eang.”
Meddai Gareth Trainer, Cyfarwyddwr Enterprise Educators UK a Chadeirydd Pwyllgor Llywio IEEC2022:
“Rydym yn falch o gael cyfle i gynnal IEEC2022 ym Mhrifysgol Abertawe ac i groesawu ein cymuned fyd-eang gynyddol yn ôl i Gymru. Mae Prifysgol Abertawe, ochr yn ochr â gweddill y gymuned o addysgwyr mentergarwch addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru, wedi bod yn gyfrifol am rai o'r datblygiadau a'r cyflawniadau mwyaf arloesol ym maes addysg mentergarwch, drwy gymorth blaengar Llywodraeth Cymru.
“Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran fy nghydweithwyr i gyd drwy ddweud ein bod yn edrych ymlaen yn fawr at fynd â'r profiad dysgu gam ymhellach, gan fwynhau lletygarwch enwog Campws y Bae, lleoliad gwych Prifysgol Abertawe ger y traeth, ar yr un pryd.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Rydym yn falch mai Prifysgol Abertawe fydd yn cynnal Cynhadledd Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol 2022. Drwy strategaeth mentergarwch ein Prifysgol, rydym wedi llwyddo i ymgorffori mentergarwch ac entrepreneuriaeth ym mhob rhan o'n sefydliad, ac rydym yn ymrwymedig i helpu i gefnogi a datblygu entrepreneuriaid y genhedlaeth nesaf. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynrychiolwyr o bedwar ban byd i Gymru y flwyddyn nesaf.”
Mae Mentergarwch Myfyrwyr yn Abertawe wedi’i wreiddio’n rhan o’n diwylliant a’n cwricwlwm. Dechreuwyd dros 50 o fusnesau y llynedd yn unig ac mae busnesau newydd yn ffynnu yn Abertawe trwy ein Tîm Mentergarwch arobryn. Os hoffech chi gysylltu â’r Tîm, ewch i’n tudalen we.