Gwnaeth athletwyr o Brydain, gan gynnwys enillwyr medalau, ddefnyddio technoleg wisgadwy yn Tokyo a ddyluniwyd gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gyda gwresogydd inc carbon argraffedig i gadw eu cyhyrau'n gynnes cyn cystadlu.
Er mwyn sicrhau bod y dillad cysyniadol yn addas ar gyfer chwaraeon o'r radd flaenaf, gwnaeth tîm o Abertawe a oedd yn cynnwys arbenigwyr o Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) a Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Gymhwysol (A-STEM) gydweithio ag Athrofa Chwaraeon Lloegr (EIS), Haydale, Screentec a Newbury Electronics.
Gall cadw tymheredd cyhyrau ar lefel gyson ar ddiwrnod cystadleuaeth wella perfformiad athletwr, yn ôl ymchwil gan y tîm A-STEM. Ym myd chwaraeon o'r radd flaenaf, lle mae cyn lleied o wahaniaeth rhwng ennill a cholli, gall yr hwb lleiaf i berfformiad brofi'n hollbwysig.
Y broblem yw cadw cyhyrau athletwr yn gynnes hyd yr eiliad olaf. Yn hyn o beth, gwnaeth dyfeisgarwch technegol tîm WCPC a'r cydweithwyr eraill dalu ar ei ganfed. Gwnaeth WCPC ddyfeisio gwresogydd hyblyg argraffedig gan ddefnyddio inc graffîn estynadwy y gellir ei gysylltu'n uniongyrchol â ffabrig.
Mae'r syniad yn deillio o brosiect gan yr ymchwilydd Andrew Claypole fel myfyriwr yn Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe. Gwnaeth ddatblygu inciau carbon ac arian hyblyg i greu gwresogyddion y gellid eu cysylltu'n uniongyrchol â ffabrigau estynadwy.
Esboniodd Dr James Claypole o WCPC rai o'r heriau technegol:
“Roedd yn rhaid i'r dillad estynadwy fod yn ysgafn er mwyn peidio ag amharu ar symudiadau, a bod yn ddwrglos. Hefyd, roedd yn rhaid bod modd eu golchi mewn peiriant, a'u cynnal drwy fatri bach. Er mwyn gwneud hyn, roedd angen systemau electronig a rheoli pwrpasol, dull o integreiddio'r paneli yn y dillad a modd o gysylltu'r gwresogyddion argraffedig gwastad a meddal â deunydd electronig confensiynol.”
Er gwaethaf yr heriau hyn, gwnaeth y tîm o Abertawe, ochr yn ochr â'r cydweithwyr eraill, lwyddo i ddatblygu dilledyn ymarferol wedi'i wresogi. Cafodd y gwaith ei gefnogi gan raglen SMART Expertise Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag EIS. Mae ymchwilwyr A-STEM Dr Neil Bezodis, Dr Louise Burnie a'r Athro Liam Kilduff i gyd yn gweithio'n agos gydag EIS ar faterion sy'n ymwneud â pherfformiad athletwyr o'r radd flaenaf.
Meddai Dr Neil Bezodis o A-STEM, arweinydd ymchwil y prosiect:
“Dyma enghraifft wych o waith ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno arbenigedd o bob rhan o Brifysgol Abertawe i ddatblygu ateb arloesol a all atgyfnerthu'r effaith ar fater sy'n ymwneud â pherfformiad yn y byd go iawn.”
Meddai Dr Matt Parker, Cyfarwyddwr Arloesedd Perfformiad EIS:
“Mae'n wych gweld bod ymrwymiad a gwaith caled y tîm cyfan wedi arwain at ddillad sydd wedi cael eu defnyddio gan athletwyr o Brydain. Byddwn yn ceisio adeiladu ar hyn ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”
Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi:
“Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect cydweithredol hwn, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i berfformiad athletwyr ar y lefel uchaf. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”