Mae ymchwil gydweithredol newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen wedi nodi effeithiau amddiffynnol posib yn erbyn SARS-CoV-2 yn llaeth y fron a hylif amniotig.
Ariannwyd yr astudiaeth gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr EPSRC ym Mhrifysgol Cymru a chan fenter Sêr Cymru III Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19, a chafodd ei chyhoeddi yn Pediatric Allergy and Immunology.
Mae ACE2, CD26, CD147 ac NRP1 yn dderbynyddion wedi'u rhwymo gan bilenni sy'n hwyluso mynediad SARS-Cov-2 i'r gell.
Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu y gall ffurfiau toddadwy ar y protein ACE2 weithredu fel ffug dderbynyddion gan ddal y feirws mewn hylifau biolegol a'i rwystro rhag heintio celloedd
Gan ddefnyddio llaeth y fron a hylif amniotig a roddwyd gan fenywod a’u harchifo cyn Covid, mesurodd yr astudiaeth bresenoldeb y derbynyddion toddadwy hyn a gwelwyd crynodiad uchel.
Ar ôl delweddu'r proteinau, darganfu'r tîm fod gan y derbynyddion hyn isoffurfiau gwahanol, yr un moleciwl ond hydoedd gwahanol.
Gall presenoldeb llawer o'r derbynyddion toddadwy hyn yn llaeth y fron ac mewn hylif amniotig weithredu fel ffug dderbynyddion. Gall hyn helpu i esbonio'r tebygolrwydd isel o heintio ac effaith ddifrifol ymhlith ffetysau a babanod.
Meddai April Rees, myfyriwr PhD a Thiwtor Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae wedi bod yn ganfyddiad trawiadol bod babanod cyn ac ar ôl geni wedi'u hamddiffyn i raddau rhag SARS-CoV-2. Gall ein canfyddiadau yma daflu rhywfaint o oleuni ar y rheswm dros hynny.
"Mae'n ychwanegu at y ddadl bod bwydo ar y fron yn fwy buddiol, felly mae cymorth i helpu mamau i fwydo ar y fron yn hanfodol."
Meddai'r Athro Stephen Turner, paediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Plant Brenhinol Aberdeen ac Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberdeen: "Mae rhestr hir o rhesymau da pam dylai mamau fwydo eu baban ar y fron lle bynnag y bo modd a bellach gallwn ychwanegu amddiffyn y baban yn erbyn Covid-19 at y rhestr. Gall menywod beichiog amddiffyn eu hunain a'u baban hefyd drwy gael eu brechu yn erbyn Covid-19."
Gall deall proses y gwytnwch hwn yn erbyn effaith ddifrifol Covid-19 ymhlith menywod beichiog a babanod newydd-anedig fod yn hollbwysig wrth sicrhau gwyliadwriaeth barhaus mewn gofal a thaflu goleuni ar ei effeithiolrwydd posib yn erbyn heintiau feirysol eraill.
Mae'r tîm ymchwil yn gobeithio ynysu'r isoffurfiau amrywiol er mwyn nodi pa rai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer rhwymo'r feirws, gan werthuso a yw llaeth y fron a hylif amniotig yn atal feirws rhag treiddio i gelloedd.