Mae chwe ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i archwilio materion sy'n amrywio o bolisïau diogelwch mewn ysgolion cynradd, i effaith Covid-19 ar bobl sy'n dioddef o epilepsi.

Mae chwe ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i archwilio materion sy'n amrywio o bolisïau diogelwch mewn ysgolion cynradd, i effaith Covid-19 ar bobl sy'n dioddef o epilepsi.

Mae'r prosiectau llwyddiannus o Abertawe ymysg 23 o ddyfarniadau cyllid newydd a gyhoeddwyd gan HCRW, a fydd yn werth cyfanswm o fwy na £6.3m yn y pen draw.

Mae'r holl ymchwilwyr o Abertawe'n gweithio yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol. Mae dau o'r categorïau y mae HCRW yn eu defnyddio i ddyrannu dyfarniadau yn eu cynnwys.

Dyfarniadau i Brifysgol Abertawe

Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol

Yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar unigolion talentog i ddod yn ymchwilwyr annibynnol wrth ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Dr Simon Read, Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe:
    Pennu arfer gofal cymdeithasol ataliol gorau yng nghyd-destunau pobl hŷn sy'n derbyn gofal a chefnogaeth yn y cartref a'r rhai sy'n byw gyda dementia


Cynllun Cyllido Ymchwil: Grantiau Ymchwil Iechyd

Cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy'n amlwg yn berthnasol i angen iechyd a llesiant a/neu drefnu a darparu gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

  • Dr Richard Fry, Joe Hollinghurst:
    Mapio smotiau oer y gwasanaeth o gyfnodau clo Covid-19
  • Dr Mari Jones a'r Athro Deb Fitzsimmons, Canolfan Economeg Iechyd Abertawe:
    Dysgu o reolaeth genedlaethol y pandemig: Effaith economeg iechyd Covid-19 ar ofal a chefnogaeth i bobl dros 65 oed
  • Dr Julie Peconi, Uned Dreialon Abertawe:
    Diogelu rhag yr Haul: Gwerthusiad dulliau cymysg o bolisïau diogelwch haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
  • Dr Owen Pickrell, Yr Athro Richard Chin (Caeredin)
    Effaith Covid-19 ar gydraddoldeb iechyd a marwolaeth mewn pobl ag epilepsi yng Nghymru
  • Dr Rebecca Thomas a'r Athro David Owens, Grŵp Ymchwil Diabetes:
    Effaith rhoi’r gorau i sgrinio ar gyfer clefyd llygaid diabetig ar bobl â diabetes yn ystod pandemig Covid-19

Meddai Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Fel bob amser, roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn eleni. Rydym yn falch o'r ystod o feysydd pwnc pwysig y mae'r dyfarniadau hyn yn eu cynnwys, gan gynnwys ymchwiliadau i effaith pandemig Covid-19 mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae buddsoddi mewn ymchwil a'n hymchwilwyr yn hanfodol i'n nod, sef hybu iechyd a ffyniant pobl Cymru.”

Meddai'r Athro Gareth Jenkins, Deon Cysylltiol (Ymchwil, Arloesi ac Effaith) yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd:

“Mae'n wych gweld bod staff y gyfadran wedi cael chwe dyfarniad ymchwil newydd gan HCRW. Mae HCRW yn bartner cyllido allweddol wrth gefnogi ein huchelgeisiau ymchwil ac mae'r dyfarniadau hyn yn dangos bod y bartneriaeth gref honno'n parhau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r dyfarniadau hyn gan HCRW yn deillio o'r gwaith sylweddol a wnaed gan yr unigolion dan sylw a staff ategol yn y gwasanaethau proffesiynol, yn enwedig yn yr hyb ymchwil. Llongyfarchiadau i bawb.” 

Rhannu'r stori