Mae fframwaith newydd a lansiwyd gan Undeb Rygbi Lloegr (RFU) i ddatblygu chwaraewyr rygbi ar bob lefel wedi defnyddio arbenigedd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe.
Mae'r fframwaith yn amlinellu'r hyn y mae ei angen er mwyn sicrhau bod chwaraewyr yn manteisio i'r eithaf ar eu hamser yn y gamp, boed hynny ar lefel ryngwladol neu leol. Ei nod yw sicrhau bod pwyslais ar yr unigolyn, er ei fod yn rhan o un neu sawl tîm o bosib.
Mae'r Athro Camilla Knight o Brifysgol Abertawe yn arbenigo mewn rhwydweithiau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan ym maes chwaraeon, yn enwedig rôl rhieni.
Roedd ei gwaith ar y prosiect hwn yn cynnwys casglu data oddi wrth chwaraewyr yr RFU yn ystod gwersylloedd hyfforddiant gwahanol dros sawl blwyddyn, gan weithio gyda thîm llwybrau chwaraewyr yr RFU a Dr Ross Roberts ac Alexandra Turner o Brifysgol Bangor.
Gwnaeth canfyddiadau'r ymchwil hon – ochr yn ochr â degawd o waith ar gyfraniad rhieni a rhwydweithiau cymorth yn y byd rygbi a champau eraill – helpu i lywio fframwaith yr RFU, a'r rhannau sy'n ymwneud â nodweddion seicogymdeithasol a chymorth cymdeithasol yn benodol.
Un o nodau'r fframwaith yw sicrhau y bydd pob chwaraewr, ni waeth beth yw ei safle, yn meistroli tair egwyddor y gamp: ymosod, amddiffyn a chystadlu, yn ogystal â magu sgiliau penodol i'w safle.
Mae rhaglen ddatblygiadol yn diwallu anghenion penodol chwaraewyr. Gwneir pob penderfyniad er eu lles ac er eu datblygiad hirdymor, gyda chystadlu'n gynhwysol, yn amrywiol ac yn cynnwys rhoi cynnig ar sawl safle o bosib.
Bydd egwyddorion datblygu corfforol yn paratoi chwaraewyr ar gyfer unrhyw gamp ac oes o weithgarwch corfforol.
Meddai'r Athro Camilla Knight o Brifysgol Abertawe:
“Mae'r fframwaith eisoes yn cael ei roi ar waith, gan helpu chwaraewyr i ddatblygu. Ar hyn o bryd, rwyf yn arwain y broses o gyflwyno rhannau ohono yn holl academïau rygbi Lloegr a chyda thimau dan 18 oed a dan 20 oed Lloegr.
Gan weithio gyda Martin McTaggart a chydweithwyr, rydym hefyd yn llunio cyfres o adnoddau addysg ar-lein i helpu hyfforddwyr i ddysgu a datblygu yn y maes hwn, a gyflwynir dros y 12 mis nesaf.
Mae fy nghyfraniad innau at y prosiect hwn yn deillio o'r ffaith fy mod wedi gweithio ers tua phum mlynedd gyda Don Barrell, arweinydd llwybrau chwaraewyr Undeb Rygbi Lloegr. Mae'n dangos sut gall cyrff chwaraeon a gwyddonwyr chwaraeon gydweithio i sicrhau gwelliannau i bawb sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, ar unrhyw lefel.”
Meddai Don Barrell, Pennaeth Rhaglenni a Llwybrau Perfformiad Undeb Rygbi Lloegr:
“Gwnaethom greu'r fframwaith hwn er mwyn cyfleu gweledigaeth glir o'r hyn sy'n bwysig i Undeb Rygbi Lloegr o ran datblygu chwaraewyr.
Yn aml iawn, bydd rhan o'r llwybr hwnnw'n cael ei chyfleu ond y llwybr cyfan a'r ffordd y mae'n cael ei gydlynu sy'n bwysig. Nid oes dim ateb syml o ran datblygu chwaraewyr gan fod llwybr pawb yn unigryw, felly mae angen deall y fframwaith cyfoes a rhai o'i egwyddorion sylfaenol.
Rydym yn ymwybodol iawn hefyd fod angen i'r profiad ychwanegu gwerth er mwyn cadw chwaraewyr yn y gamp a meithrin eu brwdfrydedd drosti gan y bydd hynny o fudd i rygbi'n gyffredinol.”