Mae'r hyfforddiant rhagorol y mae Prifysgol Abertawe'n ei gynnig i nyrsys wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngwobrau Student Nursing Times.
Yn ogystal â'r ffaith bod dau fyfyriwr yn cystadlu am anrhydeddau o fri, mae rhestr fer y categori Profiad Gorau i Fyfyrwyr yn cynnwys Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr a Rhaglen Arweinyddiaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd cyfarwyddwr yr academi, Beryl Mansel, fod yr enwebiad yn destun balchder: “Dyma drydedd flwyddyn yr academi ac rydym yn falch o'n llwyddiant, sydd wedi ysgogi Prifysgol Gorllewin Lloegr i seilio ei rhaglen arweinyddiaeth ar ein rhaglen ninnau.
“Mae'r enwebiad hwn, sy'n cynnwys adborth a gwerthusiadau cadarnhaol gan fyfyrwyr, yn adlewyrchiad dymunol arall o lwyddiant yr academi ac rydym yn ddiolchgar iawn i fod ar y rhestr fer.”
Mae Gwobrau Student Nursing Times – sydd yn eu degfed flwyddyn erbyn hyn – yn mynd ati i ddathlu a chefnogi cyflawniadau nyrsys dan hyfforddiant ledled y DU. Gan ganmol y nyrsys, y darparwyr addysg a'r mentoriaid talentog a gymerodd ran, gwnaeth y beirniaid gydnabod bod y proffesiwn wedi wynebu heriau dros y 18 mis diwethaf, yn ogystal â llongyfarch y rhai llwyddiannus.
Roedd y rhain yn cynnwys Simon James o Brifysgol Abertawe, sy'n cystadlu am ddau anrhydedd – Nyrs dan Hyfforddiant: Oedolyn a Nyrs Fwyaf Ysbrydoledig, a enillwyd gan Matt Townsend o Brifysgol Abertawe y llynedd.
Ers iddo ennill lle yn yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr, mae Simon wedi magu'r hyder i arwain drwy ysbrydoli eraill, dylanwadu arnynt a'u cefnogi. Yn ogystal â mentora pedwar myfyriwr yn eu blwyddyn gyntaf, cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr y Council of Deans of Health, sef #150leaders.
Pan oedd y pandemig yn ei anterth, symudodd i lety'r brifysgol am 15 wythnos er mwyn diogelu ei deulu wrth iddo weithio fel nyrs cymorth gofal iechyd dan hyfforddiant ar ward i bobl a oedd wedi cael strôc. Gwnaeth hefyd gydlynu tîm o nyrsys dan hyfforddiant o bob rhan o'r DU i greu cyfres o ganllawiau call ar ffurf fideo.
Meddai Simon, sydd newydd gymhwyso a dechrau gweithio yn y gymuned: “Mae'n anrhydedd aruthrol i gyrraedd rhestr fer y ddwy wobr. Mae'r enwau ar y rhestr yn bobl wirioneddol ysbrydoledig. Ar ôl popeth sydd wedi digwydd yn ystod fy nghwrs gradd, rwy'n hynod falch o gynrychioli Prifysgol Abertawe ac o gael cyfle i ennill.”
Ochr yn ochr ag ef ar restr fer y categori Nyrs dan Hyfforddiant yw Stuart Michael John Denman. Meddai: “Mae'n anrhydedd mawr cyrraedd rhestr fer y wobr hon. Drwy gydol fy nghyfnod fel nyrs dan hyfforddiant yn Abertawe, rwyf wedi bod yn ffodus i gael llawer o gyfleoedd, profiadau a chymorth gan y brifysgol, ei chysylltiadau, y staff, y myfyrwyr eraill a chleifion ein GIG.
“Mae'r cwbl wedi fy llywio wrth i mi gymhwyso fel nyrs adran damweiniau ac achosion brys. Diolch.”
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn Llundain ddydd Iau, 4 Tachwedd.