Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg mannau gwyrdd gorau'r wlad unwaith eto.
O ganlyniad i waith caled tîm tiroedd y Brifysgol, bydd y Faner Werdd uchel ei bri'n parhau i chwifio ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.
Y Faner Werdd yw'r arwydd rhyngwladol sy'n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon, gan gydnabod cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i gyflwyno mannau gwyrdd o ansawdd gwych.
Eleni, mae'r Brifysgol hefyd wedi sicrhau Achrediad Safle Treftadaeth Gwyrdd am y tro cyntaf. Mae'r dyfarniad arbennig hwn, a gymeradwyir gan yr asiantaeth CADW, yn cydnabod safleoedd o bwys hanesyddol sy'n bodloni meini prawf y Faner Werdd.
Meddai Paul Edwards, y rheolwr tiroedd: “Ar ôl cyfnod heriol i bawb, rwy'n falch ein bod wedi cadw'r Faner Werdd yn ogystal â sicrhau statws Safle Treftadaeth.
“Mae nodweddion hanesyddol Parc Singleton yn rhan bwysig o'r campws sy'n cael eu dathlu ac sydd wedi cael eu mwynhau gan fyfyrwyr, ymwelwyr a'r cyhoedd fel ei gilydd ers blynyddoedd lawer.
“Mae dealltwriaeth fanwl aelodau'r tîm tiroedd o'r nodweddion gwreiddiol hyn yn sicrhau y byddant yn parhau i gadw ac atgyfnerthu'r asedau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Lleolir safle hanesyddol y Brifysgol ym Mharc Singleton mewn parcdir hyfryd ac mae’r tiroedd hirsefydlog yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gyda glaswelltiroedd, coetiroedd aeddfed, ardaloedd sydd wedi’u plannu a phyllau, gan helpu i gefnogi bywyd gwyllt helaeth.
Mae Campws y Bae, sydd gyferbyn â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, yn cynnig cynefinoedd glan môr a digon o le i fynd ar grwydr.
Meddai'r Athro Paul Boyle, yr Is-ganghellor: “Rydym yn hynod falch bod campws gwych ein Prifysgol wedi sicrhau statws y Faner Werdd unwaith eto. Rydym yn deall pwysigrwydd ein tiroedd i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd ac yn gwybod bod ganddynt rôl allweddol wrth gefnogi lles ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned leol. Rydym yn ymrwymedig i ddangos parch a gofal wrth eu rheoli, gan roi cynaliadwyedd wrth wraidd pob datblygiad.
“Ar ôl heriau'r flwyddyn ddiwethaf, mae Prifysgol Abertawe'n falch o allu croesawu pobl yn ôl i'n campysau i fwynhau'r mannau gwyrdd arbennig hyn.”
Mae'r Brifysgol ymysg 248 o barciau a mannau gwyrdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd eglwysi – i gael eu cydnabod gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, drwy gymorth Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd wirfoddoli eu hamser ar ddechrau'r hydref i farnu safleoedd yn erbyn wyth maen prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chynnwys y gymuned.
Wrth longyfarch yr enillwyr i gyd, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod mannau gwyrdd yn allweddol i les meddyliol a chorfforol.
Meddai: “Mae gan y tirweddau hyn rôl allweddol wrth sicrhau ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chadarn.”
Meddai Lucy Prisk, ar ran Cadwch Gymru'n Daclus: “Mae'r pandemig wedi dangos bod parciau a mannau gwyrdd o safon yn hollbwysig i'n cymunedau. Wrth i fwy o ymwelwyr nag erioed fwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch staff a gwirfoddolwyr am y gwaith caled sydd wedi cynnal safonau ardderchog y safleoedd hyn.”
Ceir rhestr o holl enillwyr y dyfarniadau drwy fynd i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.