Mae'r Athro Emily Shepard, sy'n arbenigo yn ecoleg symudedd anifeiliaid gwyllt, wedi ennill Medal Gwyddoniaeth uchel ei bri Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL), i gydnabod ei gwaith ymchwil rhagorol.
Cyflwynir Medal Gwyddoniaeth ZSL am gyfraniadau rhagorol gan ymchwilydd gyrfa gynnar. Cyflwynir hyd at dair medal bob blwyddyn.
Mae gwaith yr Athro Shepard yn canolbwyntio ar effaith llif awyr ar ehediad adar, gan ddefnyddio technolegau biogofnodi yn y maes, gwaith arbrofol mewn twneli gwynt, a modelau damcaniaethol o lif awyr a mecaneg hedfan.
Mae'r ymchwil arloesol hon wedi cyfuno data olrhain adar â'r defnydd o ddeinameg hylifau gyfrifiadol i fodelu llif awyr ar raddfa leol. Mae hi wedi edrych ar y ffordd y mae llif awyr yn effeithio ar gyrchfannau adar, y gallu i lanio, a lleoliadau nythu adar môr.
Yn ogystal, mae defnydd yr Athro Shepard o ddata tagio amlder uchel wedi cynnig dealltwriaeth hynod ddiddorol o strategaethau hedfan condoriaid. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys defnyddio synwyryddion amlder uchel i fesur am faint o amser roeddent yn chwifio eu hadenydd, a phryd a ble mae adar yn tynnu ynni o'r awyr drwy gylchdroi mewn tynfeydd thermol neu hedfan ar hyd llethrau ar ochr y gwynt.
Meddai'r Athro Shepard: “Mae derbyn Medal Gwyddoniaeth ZSL yn fraint fawr. Mae hi hefyd wedi bod yn bleser ymuno â chydweithwyr o feysydd bioleg, meteoroleg a pheirianneg, sydd wedi bod wrth wraidd rhan helaeth o'r gwaith hwn.”
Mae Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL), a sylfaenwyd ym 1826, yn elusen wyddonol, gadwraethol ac addysgol ryngwladol sy'n ceisio hyrwyddo a sicrhau cadwraeth anifeiliaid a'u cynefinoedd yn fyd-eang.
Ar gyflwyno'r wobr i'r Athro Shepard, meddai ZSL: “Cydnabyddir bod Emily yn arweinydd byd-eang yn y maes ymchwil hwn, ac ni ellir anwybyddu ei chyfraniadau at y llenyddiaeth wyddonol. Credir eisoes fod llawer o'i phapurau'n gampweithiau, ac maent yn sicr o fod yn gyflawniadau arhosol ym maes darganfyddiadau gwyddonol sŵolegol.”