Bydd ymchwil Prifysgol Abertawe i ddulliau therapiwtig o drin canser yr ofari yn cael sylw cynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein rithwir yr wythnos nesaf.
Gwahoddwyd Dr Lewis Francis, athro cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, yn ôl i ymuno â'r rhestr o brif siaradwyr yn Uwchgynhadledd Rithwir SelectScience ar Faterion Biofferyllol, sy'n dechrau ddydd Mawrth, 9 Tachwedd.
Mae'n rhan o'r Grŵp Ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol (RBGO) ac mae'n arwain rhaglenni ymchwil bioffiseg ac epigeneteg y grŵp.
Bydd Dr Francis yn trafod gwaith ymchwil cyffrous sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddulliau newydd o gyflwyno cyffuriau ar raddfa nano, sydd wedi'u teilwra i'r heriau o gyflwyno cyffuriau i drin canser yr ofari.
Meddai: “Mae'r gwaith yn deillio o'n cydweithio parhaus â Gofal Canser Tenovus ac mae'n enghraifft gyffrous o'r ymchwil drawsddisgyblaethol sy'n cael ei gwneud yn y grŵp a chan y Ganolfan NanoIechyd.”
Bydd yr uwchgynhadledd yn dod ag arbenigwyr ynghyd o bedwar ban byd i archwilio'r datblygiadau mawr diweddaraf o ran ymchwil i faterion biofferyllol. Bu Dr Francis yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad agoriadol llwyddiannus a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr y llynedd ac roedd yn awyddus i gymryd rhan eto.
Meddai: “Mae'r pandemig byd-eang wedi effeithio ar allu academyddion ac ymchwilwyr i deithio, gan ei gwneud hi'n anos rhannu syniadau a dod â'r gymuned ynghyd.
“Fodd bynnag, mae twf uwchgynadleddau a chynadleddau rhithwir wedi ateb y broblem honno a'n gwneud ni i gyd yn gyfforddus â dulliau rhithwir.
“Mae'n gyffrous ein bod yn cael cyfle i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwil ac i ryngweithio â gwyddonwyr eto, gan ddilyn y digwyddiad llwyddiannus a difyr a gynhaliwyd y llynedd.”
Mae'r pynciau ar agenda'r uwchgynhadledd am ddim yn cynnwys datblygiadau o ran bioddadansoddi, therapïau celloedd a genynnau, awtomeiddio, ymchwil i Covid-19 a nanofeddyginiaethau.
Cewch weld y rhestr o siaradwyr a chadw eich lle am ddim heddiw yma