Enwyd arbenigwr diabetes ym Mhrifysgol Abertawe fel enillydd deirgwaith mewn gwobrau mawr gofal iechyd yn y DU.
Cafodd Dr Rebecca Thomas, sy'n uwch swyddog ymchwil ac yn arwain gwybodeg gyda'r Grŵp Ymchwil Diabetes ac sydd wedi ei lleoli yn yr Ysgol Feddygol, ei hanrhydeddu am ei pharodrwydd i fynd y tu hwnt i hynny wrth gefnogi ac addysgu pobl sy'n byw gyda diabetes.
Cafodd Dr Thomas, cyfarwyddwr rhaglen ar y cyd MSc Ymarfer Diabetes, ei henwi fel addysgwr rhagorol mewn diabetes yng Gwobrau Diabetes Ansawdd mewn Gofal (QiC) eleni.
Hefyd, roedd yn rhan allweddol o Dîm Diabetes 101, cydweithrediad unigryw wnaeth ennill y wobr arwr di-glod ac a enwyd yn brosiect cydweithredol diabetes y flwyddyn.
Dechreuodd y gymuned hon o 19 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o'r timau diabetes amlddisgyblaethol ar draws y DU i weithio gyda'i gilydd ar ddechrau'r pandemig fesul WhatsApp.
Ei nod oedd cefnogi pobl sy'n byw gyda diabetes gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn gallu cyrchu gwybodaeth berthnasol yn ystod y pandemig ond eu bod hefyd yn gwybod sut mae dehongli cyngor y llywodraeth.
Meddai Dr Thomas: “Gofynnwyd i mi ymuno oherwydd fy niddordeb arbenigol mewn retinopathi diabetig a'r posibilrwydd o lefel uwch o bryder ynghylch effaith Covid-19 a chyfnodau clo ar iechyd llygaid yn y gymuned diabetes.
“Yn ogystal ag ateb ymholiadau, darparais sesiynau addysg fesul sesiwn drydar a sgwrs fyw a recordiwyd ac a oedd ar gael ar sianel YouTube Diabetes 101.
“Fe wnes i gymryd hyn ymhellach a chreais ffeithluniau ynghylch sut y gall diabetes effeithio ar lygaid a’r hyn y gall pobl ei wneud i leihau’r risgiau ynghyd ag ymuno â Diabetes UK Cymru i dynnu sylw at effaith diabetes ar y llygaid yn ystod ymgyrchoedd Iechyd Llygaid Cenedlaethol.”
Disgrifiodd beirniaid y gystadleuaeth Diabetes 101 fel “arloesol, gafaelgar a grymusol” a dywedwyd ei fod yn “enghraifft wych o weithio ar draws timau.”
Dywedodd Dr Thomas ei bod wedi synnu'n fawr at ei llwyddiant. “Roedd yn gymaint o anrhydedd cael fy enwebu. Rwyf bob amser wedi teimlo y byddai darparu gwybodaeth i bobl am gymhlethdodau llygaid mewn modd dealladwy, gan ddefnyddio iaith gadarnhaol yn dileu rhai o'r ofnau a'r stigma sy'n bodoli.
“Fe wnaeth gweithio trwy Covid-19 gyda Diabetes 101 wneud i mi sylweddoli bod gwir angen addysg yn y maes hwn. Mae cael cydnabod y gwaith hwn yn y gwobrau’n anhygoel. Rydw i wedi fy synnu ac wrth fy modd.”
Roedd un o fyfyrwyr Dr Thomas ar y cwrs MSc hefyd ymhlith yr enillwyr. Derbyniodd Chris Cottrell nyrs arbenigol, Wobr GIG Cymru am gyfraniad rhagorol am wasanaethau mewn diabetes.
Dywedodd Chris, sy’n arwain rhaglen addysg diabetes Think Glucose gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydw i wrth fy modd. Mae mor hyfryd cael fy nghydnabod gan fy nghyfoedion. Dydych chi ddim yn gwneud y gwaith ar gyfer y gwobrau, rydych chi'n ei wneud oherwydd eich bod chi eisiau gwella gwasanaethau a dyna pam y daeth yn syndod llwyr i mi.”
Derbyniodd ei thystysgrif gan Dr Rose Stewart sy'n darlithio ar y cwrs Ymarfer Diabetes ac a wnaeth ennill y wobr y llynedd.