Bydd Gŵyl Being Human 2021 yn cael ei chynnal o 11 i 20 Tachwedd a bydd Prifysgol Abertawe'n un o bedwar hyb yn y DU am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain sy'n arwain Being Human, sef unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mae'r bartneriaeth hon yn tynnu ynghyd y tri phrif gorff sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil i'r dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.
Nod yr ŵyl yw dathlu a dangos ym mha ffyrdd y mae'r dyniaethau yn ein hysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau'n feunyddiol, ac yn ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthnasoedd â phobl eraill, a'r heriau rydym yn eu hwynebu mewn byd sy'n newid. Bob blwyddyn, mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â chymunedau lleol a phartneriaid diwylliannol er mwyn creu digwyddiadau a phrosiectau cyffrous a fydd o ddiddordeb ac yn llawn hwyl i bawb. Mae Being Human yn ŵyl genedlaethol sy'n cynnal digwyddiadau'n lleol ledled y DU.
Dan y thema ‘adnewyddu’, mae rhaglen hyb Prifysgol Abertawe, dan arweiniad y Sefydliad Diwylliannol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn gwahodd pobl i ystyried adnewyddu cymunedau ac amgylcheddau, atgofion a safbwyntiau, drwy weithgareddau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, anableddau, amlddiwylliannaeth a dinasyddiaeth yn yr 21ain ganrif.
Mae uchafbwyntiau'r rhaglen llawn digwyddiadau am ddim yn cynnwys prosiect dogfen sy'n ystyried effeithiau'r diwydiant glo ar Gwm Dulais, podlediad newydd sy'n seiliedig ar atgofion o weithio mewn swyddi diwydiannol ac ym maes gweithgynhyrchu, a gweithgareddau megis coginio ar y cyd, creu baneri a thorchau, sesiynau Cymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid a naratifau digidol ar newid yn yr hinsawdd.
Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Arbennig, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Rydym yn falch ein bod yn un o'r pedwar hyb ar gyfer Gŵyl Being Human 2021 ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ein rhaglen hybrid o ddigwyddiadau. Mae'r ŵyl yn parhau i fod yn rhan fawr o'n calendr blynyddol ac mae'r thema ‘adnewyddu’ yn cynnig cyfle i ni archwilio amrywiaeth o bynciau pwysig. Diolch yn arbennig i'n holl bartneriaid sy'n cefnogi'r rhaglen eleni.”