Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi enwi'r Athro Lyn Evans, y ffisegydd adnabyddus o Gymru, yn Gymrawd er Anrhydedd ar gyfer 2021.
Mae'r Athro Evans yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniadau parhaus a chlodwiw at ddylunio, adeiladu a gweithredu systemau cyflymu gronynnau, yn enwedig y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, ac am arwain y gwaith hwnnw.
Y Sefydliad Ffiseg (IOP) yw'r corff proffesiynol a'r gymdeithas ddysgedig ar gyfer ffiseg a'r prif gorff ar gyfer ffisegwyr sy'n gweithio yn y DU ac Iwerddon. Y gymrodoriaeth er anrhydedd yw'r dyfarniad uchaf y mae'r sefydliad yn ei gyflwyno ac mae'n adlewyrchu gwasanaethau eithriadol unigolyn i ffiseg.
Mae pob aelod o gymuned enwog o gymrodorion er anrhydedd yr IOP wedi cyfrannu'n sylweddol at hyrwyddo ffiseg drwy amrywiaeth o ddulliau, ac maent yn gweithredu fel llysgenhadon dros ffiseg, ffisegwyr a'r IOP.
Graddiodd yr Athro Evans o Brifysgol Abertawe ym 1966 gyda gradd mewn Ffiseg a chwblhaodd ei PhD yn yr un pwnc ym 1970.
Ers derbyn gradd er anrhydedd gan y Brifysgol yn 2002, mae'r Athro Evans wedi cadw ei gysylltiadau ag Abertawe, gan gydweithio â staff, croesawu grwpiau o'r Brifysgol sy'n ymweld â'r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN), ac ymuno yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn 2020 fel gwestai arbennig.
Meddai'r Athro Lyn Evans: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi'n Gymrawd er Anrhydedd gan y Sefydliad Ffiseg.
“Rwy'n falch o ymuno â grŵp mor ysbrydoledig o ffisegwyr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Sefydliad Ffiseg er mwyn hyrwyddo ei genhadaeth i ysbrydoli pobl i feithrin eu gwybodaeth am ffiseg a'u dealltwriaeth a'u mwynhad ohoni.”
Wrth longyfarch cymrodorion er anrhydedd eleni, meddai'r Athro Sheila Rowan, Llywydd y Sefydliad Ffiseg: “Mae ein cymrodorion er anrhydedd yn grŵp anhygoel o ffisegwyr sydd wedi cael dylanwad ar ein maes fel unigolion ac ar y cyd.
“Maent i gyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i'n dealltwriaeth o ffiseg, a'n hymdrechion i'w hyrwyddo, ac maent yn enghraifft o'r hyn y gallwn ei gyflawni fel cymuned.
“Ar ran y Sefydliad Ffiseg, rwy'n estyn llongyfarchiadau gwresog iddynt hwy i gyd.”