Mae'r sŵn sy'n deillio o symudiadau'r Ddaear wedi cael ei ddefnyddio er mwyn llunio darlun manwl o'r amodau daearegol o dan len iâ'r Ynys Las a'r effaith ar lifoedd iâ, ar gyfer ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
Astudiodd y tîm donnau Rayleigh – tonnau seismig wedi'u cynhyrchu gan symudiadau megis daeargrynfeydd – er mwyn creu delweddau cydraniad uchel o'r creigiau o dan y llen iâ, gan helpu i nodi pa ardaloedd sydd fwyaf agored i lifoedd iâ cyflymach.
Llen Iâ'r Ynys Las yw'r gronfa dŵr croyw fwyaf ond un ar y Ddaear. Fodd bynnag, mae màs iâ'n cael ei golli chwe gwaith yn gyflymach na'r sefyllfa ym 1991, sy'n gyfrifol am oddeutu 10% o'r cynnydd diweddar yn lefel y môr yn fyd-eang.
Mae'r amodau daearegol o dan len iâ neu rewlif yn ddylanwad hollbwysig ar lifoedd iâ. Mae'r ffactorau allweddol yn cynnwys: cyfansoddiad haenau creigiau; tymheredd cramen y ddaear oddi tanynt; a swm y dŵr sy'n bresennol ar ffurf hylif rhwng creigiau ac iâ gan ei fod yn iraid sy'n achosi’r hyn a elwir yn llithriad gwaelodol ac yn cyflymu llif iâ.
Fodd bynnag, y broblem yw sut gellir asesu'r hyn sy'n digwydd yn ddwfn o dan y ddaear, o ystyried pa mor anghysbell y mae'r Ynys Las a'r ffaith bod trwch oddeutu 2.5km o iâ'n gorchuddio'r tir.
Yn 2009, sefydlwyd rhwydwaith parhaol o orsafoedd monitro seismig ledled yr Ynys Las, a ddefnyddiwyd i wneud gwaith ymchwil blaenorol. Fodd bynnag, mae'r astudiaethau hyn wedi cynnig dealltwriaeth gyfyngedig o'r rheolaethau daearegol ar y llen iâ.
Yn hyn o beth y bydd yr ymchwil newydd yn berthnasol. Llwyddodd y tîm i fapio'r hyn sy'n digwydd hyd at 5km drwy fesur tonnau Rayleigh a oedd yn deillio o sŵn y Ddaear. Mae'r tonnau seismig hyn yn teithio ar hyd arwyneb y Ddaear ac maent yn sensitif i briodweddau’r Ddaear. .
Drwy fesur cyflymder, siâp a hyd y tonnau, mae ymchwilwyr yn gallu cadarnhau: pa ddeunydd y maent yn teithio drwyddo; priodweddau mecanyddol y creigiau, megis anhyblygedd a dwysedd; haenau'r creigiau a phriodweddau ffisegol arwyneb y pridd.
Mae tonnau Rayleigh yn teithio mewn patrwm eliptigol a'r nodwedd benodol a aseswyd gan yr ymchwilwyr oedd cymhareb symudiadau gronynnau yn y tonnau o'r llorweddol i'r fertigol.
Daethant o hyd i'r canlynol:
• Rhannau lle roedd gwres geothermol uchel yn cyd-fynd â lleoliad hanesyddol arfaethedig trywydd folcanig Gwlad yr Iâ
• Swbstradau gwaddodol meddal o dan rewlifoedd all-lifol mawr yn gyflym, a ddatgelwyd gan donnau a oedd yn symud yn arafach
• Mae rhai rhewlifoedd all-lifol yn agored iawn i lithriadau gwaelodol, gan gynnwys Jakobshavn, Helheim a Kangerdlussuaq
• Gall cynhesu geothermol a meddalu iâ gwaelodol effeithio ar ddechrau llifoedd iâ cyflymach yn rhewlif Petermann a llif iâ gogledd-ddwyrain yr Ynys Las.
Meddai Dr Glenn Jones o Brifysgol Abertawe, a fu'n arwain y gwaith ymchwil fel rhan o'i Gymrodoriaeth Ymchwil Sêr Cymru II:
“Mae'r ymchwil hon yn dangos pwysigrwydd cysylltiadau rhwng y ddaear solet a deinameg llenni iâ. Mae rhyngweithiadau â daear solet yn rheoli deinameg llen iâ'r Ynys Las yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Mae ein techneg o ddefnyddio siâp eliptigol tonnau Rayleigh yn golygu y gallwn lunio darlun llawer manylach nag o’r blaen o adeiledd y 5km uchaf o dan y llen iâ.
Bydd yn rhoi dealltwriaeth well i ni o'r prosesau sy'n cyfrannu at gyflymu gollyngiadau iâ i'r cefnfor a'r cynnydd canlyniadol yn lefel y môr.”
Yn ogystal â rhewlifegwyr Prifysgol Abertawe, roedd y tîm ymchwil yn cynnwys arbenigwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Lisboa (Lisbon), Prifysgol Tasmania, Sefydliad Gwyddorau Daear Barcelona, ac Istituto Nazionale di Geofisica e Vulcanologuia yn Bologna.