Mae Prifysgol Abertawe a'r elusen maeth iechyd cyhoeddus annibynnol First Steps Nutrition Trust wedi lansio prosiect gwyddoniaeth gymunedol gydweithredol a ddatblygwyd rhwng rhieni ac ymchwilwyr i asesu diogelwch technegau paratoi llaeth fformiwla powdwr i fabanod yn y cartref.
Bydd y prosiect Finding the right formula, sydd wedi cael cyllid gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), yn sefydlu cymuned ar-lein o 200 o gyfranogwyr i rannu eu profiadau a galluogi'r tîm ymchwil i ddysgu mwy am eu dulliau arferol o baratoi llaeth fformiwla powdwr i fabanod. Caiff y canlyniadau eu rhannu gyda'r cyhoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi.
Meddai Dr Aimee Grant, uwch-swyddog ymchwil yn y Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Drosi (LIFT) ac arweinydd y prosiect:
“Rydym yn falch o gael y cyllid hwn; mae cynnwys y cyhoedd ym maes gwyddoniaeth fel cyd-ymchwilwyr yn dod â syniadau newydd i'r amlwg. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun llaeth fformiwla i fabanod, gan fod rhieni a gofalwyr yn meddu ar gymaint o ddealltwriaeth a phrofiad ohono.”
Yn y DU, mae'r mwyafrif o fabanod yn bwydo ar laeth fformiwla, ac mae bron tri chwarter ohonynt yn ei gael yn ystod eu chwe wythnos gyntaf. Nid yw llaeth fformiwla powdwr i fabanod yn ddiheintiedig, felly mae'n rhaid defnyddio dŵr sydd o leiaf 70°C i'w baratoi. Y rheswm dros hynny yw na ellir diheintio llaeth fformiwla powdwr i fabanod wrth iddo gael ei gynhyrchu a gall bacteria megis cronobacter a salmonela oroesi os na ddefnyddir dŵr digon poeth i baratoi'r llaeth fformiwla.
Mae mwy na 3,000 o fabanod yn mynd i'r ysbyty yn y DU bob blwyddyn oherwydd heintiadau gastroberfeddol ac mae meddygon yn y gymuned yn adolygu 10,000 o achosion eraill. Ar ben hynny, gall heintiadau sy'n deillio o salmonela a bacteria cronobacter arwain at lid yr ymennydd, sepsis a hyd yn oed marwolaeth mewn achosion prin.
Gwnaeth tîm LIFT arolygu mwy na 300 o rieni sy'n defnyddio llaeth fformiwla powdwr i fabanod a chanfod nad yw traean ohonynt yn hyderus eu bod yn ei baratoi'n ddiogel. Nid yw un o bob 12 ohonynt yn dilyn y cyfarwyddiadau bob amser; er enghraifft, maent yn berwi dŵr, yn ei oeri yn yr oergell ac yn defnyddio'r dŵr oer i gwblhau'r llaeth fformiwla yn nes ymlaen, a all gyfrannu at yr heintiadau bacterol sy'n gysylltiedig â babanod sy'n bwydo ar laeth fformiwla powdwr.
Meddai Dr Sara Jones, rheolwr yr astudiaeth ac un o ymwelwyr iechyd LIFT:
“Ein gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn helpu i feithrin dealltwriaeth well o bwysigrwydd paratoi poteli yn unol â chanllawiau'r GIG, er mwyn lleihau'r risg y bydd babanod yn cael eu heintio. Mae hyn yn golygu paratoi'r poteli yn ôl yr angen, gan ddefnyddio poteli a diferyddion diheintiedig a dŵr sydd o leiaf 70°C. Ein nod yw y bydd y cyfranogwyr yn rhannu eu profiadau o baratoi poteli llaeth fformiwla gartref er mwyn i ni feithrin dealltwriaeth well o'r rhwystrau i ddilyn canllawiau'r GIG yn ymarferol.”
Bydd yr astudiaeth hefyd yn ystyried diogelwch y peiriannau paratoi llaeth fformiwla a'r tegelli llaeth fformiwla amrywiol i fabanod sydd ar y farchnad, yn sgil pryderon am ddiogelwch y dyfeisiau hyn.
Meddai Dr Vicky Sibson o First Steps Nutrition:
“Bydd yr astudiaeth hon yn ein galluogi i ddeall mwy ynghylch defnydd teuluoedd o ddyfeisiau paratoi llaeth fformiwla a'r rhesymau dros eu defnyddio, ac i archwilio eu diogelwch. Rydym yn credu bod hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau y defnyddir llaeth fformiwla powdwr mewn modd mwy diogel yn y DU.”