Mae myfyriwr rhyngwladol wedi graddio gydag anrhydedd o Brifysgol Abertawe, er bod cyfyngiadau COVID-19 wedi'i atal rhag teithio i'r Deyrnas Unedig ar ddechrau ei gwrs gradd.
Cafodd Martin Tarkpor, 31, gynigion gan nifer o brifysgolion, ond penderfynodd astudio MA mewn Datblygu a Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe o ganlyniad i'w brofiadau yn ei famwlad, sef Liberia.
“Ar ôl byw drwy ryfel cartref a oedd wedi para am 14 o flynyddoedd, gan orfodi ein cymdeithas i ymdopi â llu o achosion o dramgwyddo hawliau dynol a'n gadael mewn sefyllfa fregus oherwydd diffyg datblygu enbyd, roedd modiwlau'r cwrs gradd hwn yn ddeniadol iawn i mi,” meddai.
“Roeddent yn adlewyrchu union natur yr heriau sy'n wynebu fy ngwlad wrth i ni ymdrechu i iachau ein cenedl adfeiliedig.”
Roedd Martin yn gwybod y byddai'r broses o gyflwyno cais am Ysgoloriaeth Chevening yn heriol ac yn gystadleuol, ond bu'r pandemig yn destun cymhlethdodau ychwanegol.
“Ar un adeg, pan fu cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion o COVID-19 a'r cyfraddau marw, dechreuais deimlo'n bryderus ac roedd arnaf ofn mawr y byddai'r cwrs yn cael ei ganslo.
“Fodd bynnag, roedd yr Ysgrifenyddiaeth a Llysgenhadaeth Prydain yn fy ngwlad wedi parhau i'm cefnogi wrth i ni wynebu rhwystrau COVID-19.”
Oherwydd y pandemig, ni allai Martin gyrraedd y DU mewn pryd i ddechrau'r rhaglen; yn hytrach na hynny, ymunodd yn nosbarthiadau ar-lein o'i gartref yn sir Nimba.
“Roedd hi'n heriol gan nad yw holl ddatblygiadau technolegol y byd gorllewinol wedi cyrraedd ein gwlad eto,” cyfaddefodd Martin.
“Serch hynny, cefais fy ysbrydoli gan y ffaith y gallwn ymuno yn y sesiynau a chael mynediad da at drafodaethau, ar lawer o achlysuron, er y tarfwyd arnynt ar adegau.
“Oherwydd hynny, dechreuais deimlo bod fy ngwlad ar y trywydd iawn ac y gallem wneud hyd yn oed yn well pe bai mwy o fyfyrwyr o Liberia'n cael astudio mewn prifysgolion fel Abertawe, er mwyn deall deinameg datblygu, gwrthdaro arfog a hawliau dynol o safbwynt rhyngwladol.”
Yng nghanol ei dymor cyntaf, cafodd Martin ganiatâd i deithio i Abertawe, er bod y cyfyngiadau'n golygu nad oedd llawer o gysylltiad rhyngddo a'i gyd-fyfyrwyr ac iddo gael ei addysgu ar y campws am un awr yn unig bob wythnos.
Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd hyn, gwnaeth Martin ymaddasu'n wych a rhagori yn ei astudiaethau, gan gadw ei deulu mewn cof bob amser.
“Fy nheulu fu fy mhrif gymhelliant; fi yw'r un cyntaf i gael addysg mewn coleg, heb sôn am deithio mor bell i ddilyn gradd ôl-raddedig mewn sefydliad rhyngwladol.
“Pan oedd fy mam yn ddifrifol wael ym mis Ionawr 2021, roedd pethau'n heriol iawn i mi; dechreuais ddigalonni a phenderfynais fynd adref i fod gyda hi, ond dywedodd hi wrthyf mai dim ond pe bawn yn aros ac yn disgleirio wrth ennill fy ngradd y byddai'n hapus.
“Dywedodd y byddwn yn destun balchder i'm teulu ac yn ysbrydoliaeth i'r rhai ifanc sy'n fy nilyn.”
Un o’r pethau sy’n destun balchder mawr i Martin yw’r gwaith a wnaeth ar ei draethawd hir hynod wreiddiol ar y Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r ffaith nad yw'n gweithredu yn unol â hawliau dynol rhyngwladol bob amser.
“O ystyried bod gan fy ngwlad hanes hir o geisio grantiau a benthyciadau gan sawl sefydliad ariannol rhyngwladol, gan gynnwys y gronfa, penderfynais ymchwilio i oblygiadau amodau rhai o'r benthyciadau i hawliau dynol.”
Mae Martin yn gobeithio y bydd ei waith caled yn cael effaith gadarnhaol ar ei famwlad ac mae eisoes wedi rhoi cynlluniau ar waith i gyflawni hyn.
“Rwyf wedi dweud erioed nad yw unigolyn wedi cyflawni dim os nad yw wedi cael effaith gadarnhaol ar ei gymuned a'r bobl o'i gwmpas; felly, byddaf yn dychwelyd i'm gwlad i gyfrannu at y broses o'i hailadeiladu.
“Byddaf yn dychwelyd fel cynorthwy-ydd ymchwil ar brosiect dan arweiniad un o'm darlithwyr o Brifysgol Abertawe,” meddai Martin.
“Bydd y prosiect yn asesu effaith creu llwybr i feiciau modur er mwyn galluogi ffermwyr mewn trefi a phentrefi anghysbell ledled Liberia i werthu eu cynnyrch lleol mewn marchnadoedd yn y wlad a'r tu hwnt iddi.
“Rwyf hefyd yn gobeithio ceisio cyfleoedd i gael cyflogaeth gan sefydliadau sy'n hyrwyddo gwaith datblygu a hawliau dynol yn fy ngwlad – UKaid, USAID, IRC ac ati.
“Fodd bynnag, fy nod yn y pen draw yw sefydlu corff cyflawn i fireinio sgiliau arwain pobl ifanc fy ngwlad – yr arweinwyr sy'n dod i'r amlwg – ac i hyrwyddo rhagoriaeth academaidd drwy gystadlaethau academaidd megis dadleuon, ysgrifennu traethodau, trafodaethau panel, yn ogystal ag esbonio prosesau cyflwyno ceisiadau am ysgoloriaethau.
“Rwyf am helpu pobl eraill i fagu sgiliau i'w paratoi am swyddi a phrosesau cyflwyno ceisiadau, a sicrhau y cânt yr un cyfle i astudio mewn sefydliad ag y cefais innau ym Mhrifysgol Abertawe.”