Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.
Ar gyfer efallai'r diwrnod mwyaf yng nghalendr y myfyrwyr, mae Varsity Cymru’n ŵyl chwaraeon lle mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau, gan gynnwys gemau rygbi'r dynion a'r menywod a gaiff eu chwarae ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.
Mae Varsity Cymru wedi bod yn rhan hollbresennol o galendr chwaraeon Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd ers i'r ŵyl ddechrau ym 1997 ac mae wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Bydd y digwyddiad chwaraeon blaenllaw'n dathlu ei chwarter canmlwyddiant ddydd Mercher 26 Ebrill, wrth i fwy na 10,000 o fyfyrwyr gefnogi eu timau ym mhrifddinas Cymru.
Canslwyd Varsity Cymru yn 2020 a 2021 o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, ond dychwelodd mewn modd hynod lwyddiannus yn 2022 yn Lôn Sgeti yn Abertawe a Stadiwm Swansea.com.
Meddai Olivia Evans, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletau Prifysgol Caerdydd: “Mae'n hynod gyffrous croesawu Varsity Cymru yn ôl i Gaerdydd ar ôl bwlch o bedair blynedd ac rwy'n siŵr y bydd Tîm Caerdydd ar ei orau wrth i'r cystadlaethau hollbwysig hyn gael eu cynnal ar dir cartref. Eleni byddwn ni'n rhoi gwedd wahanol ar dro Caerdydd i gynnal y digwyddiad ac mae rhai datblygiadau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer y diwrnod. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyhoeddi'r rhain yn ystod yr wythnosau i ddod.”
Meddai Jonathan Davies, Swyddog Chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae Varsity Cymru eleni'n destun cyffro mawr i ni ac mae'n siŵr o fod yn ddiwrnod arbennig. Mae ein timau'n edrych yn wych ac maen nhw’n barod i wynebu Caerdydd am ddiwrnod mawr arall i chwaraeon myfyrwyr yng Nghymru.”
Bydd gŵyl 2023 yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Pharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Caerdydd am gadw gafael ar y darian am flwyddyn arall, ar ôl ei hadennill yn Abertawe y llynedd.
Mae un o uchafbwyntiau'r diwrnod yn cynnwys gemau rygbi'r menywod a'r dynion, a fydd yn cael eu cynnal eleni ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Menywod Prifysgol Caerdydd am barhau â'r momentwm yn dilyn eu buddugoliaeth y llynedd yn Stadiwm Swansea.com, a bydd Dynion Abertawe yn ceisio ennill y cwpan am yr ail flwyddyn yn olynol.