Person â llaw y tu ôl i’w glust.

Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.

Mae'r astudiaeth, a arweinir gan Dr Emma Richards a'r Athro Andrea Tales o Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia'r Brifysgol (CADR) yn cael ei chefnogi drwy Her Heneiddio'n Iach, Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), sy'n ceisio annog pobl i barhau'n actif, yn gynhyrchiol, yn annibynnol ac wedi'u cysylltu'n gymdeithasol ar draws cenedlaethau am gyhyd â phosib.

Dros bum mlynedd, bydd yr her yn buddsoddi hyd at £98 miliwn mewn busnesau galluogi heneiddio'n iach, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, i ddatblygu a chyflwyno cynnyrch, gwasanaethau a modelau busnes buddiol.

Fel rhan o hyn, bydd y tîm yn Abertawe'n gwella dealltwriaeth o'r anawsterau y mae pobl sydd wedi colli clyw yn eu hwynebu, megis clywed sgyrsiau mewn amrywiaeth o leoedd swnllyd sy'n gallu tynnu sylw, megis siopau, caffis a chludiant cyhoeddus.

Byddant yn edrych ar sut mae sŵn yn effeithio ar glyw ond hefyd sut mae'n cael effaith ar sylw, gwybyddiaeth, lles a rhyngweithio cymdeithasol.

Bydd y dystiolaeth hon yn sail i fynd i'r afael â'r broblem, codi ymwybyddiaeth o'r mater ymysg y cyhoedd, y sector manwerthu a theithio, a'r angen i wneud newidiadau sy'n ymwneud â cholli clyw i amgylchoedd.

Meddai Dr Emma Richards, Uwch-swyddog Ymchwil  yn CADR: "Erbyn hyn caiff colli clyw ei gydnabod fel y ffactor risg addasadwy mwyaf o ran datblygu dementia, gydag 8% o'r holl achosion o ddementia yr adroddir amdanynt o ganlyniad i golli clyw.

"Gall colli clyw yn hŷn mewn oedolaeth arwain at ynysu ac unigrwydd, a gall fod yn arbennig o anodd clywed sgyrsiau mewn amgylchoedd swnllyd, gan arwain at amharodrwydd i fynd i leoedd a mannau o'r fath.

"Gellir dadlau y gall colli clyw gael ei wella gyda chymhorthion clyw, gyda thystiolaeth yn nodi y gall hefyd leihau'r risg o ddementia, ond mewn gwirionedd, mae hyn yn methu'n aml gan nad ydynt yn effeithiol mewn llawer o amgylchoedd swnllyd.

"Mae hyn yn lleihau gallu oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw i barhau i fod yn actif, yn gynhyrchiol, yn annibynnol ac wedi'u cysylltu'n gymdeithasol, ac mae hyn ynghyd â cholli clyw yn risg wrth ddatblygu nam gwybyddol a dementia".

Ychwanegodd yr Athro Andrea Tales, Cyd-gyfarwyddwr CADR: "Mae cynnal trafodaethau ag awdiolegwyr a phobl sy'n mynychu eu clinigau'n datgelu bod amgylchoedd swnllyd yn broblem i bobl sydd wedi colli eu clyw, hyd yn oed pan fyddant yn defnyddio cymhorthion clyw.

"Mae diffyg tystiolaeth sy'n seiliedig ar ymchwil i arwain y newidiadau y mae eu hangen ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw, y mae'r astudiaeth hon, diolch i gyllid gan UKRI, yn gobeithio cael effaith gadarnhaol arni".

Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn chwil am gyfranogwyr ar gyfer yr astudiaeth, gan gynnwys:

  • Unigolion dros 50 oed sydd wedi colli eu clyw (mae croeso i bartneriaid cyfathrebu hefyd ddod).
  • Pobl sy'n gweithio yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a thrafnidiaeth, gyda'r gallu i ddylanwadu ar eu hamgylchedd gwaith.

I gael gwybod mwy, e-bostiwch Dr Emma Richards E.V.Richards@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori