Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023, a fydd yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth, yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd yn y lleoliad.
Mae'r digwyddiad, a lansiwyd yn wreiddiol yn 2019, yn gyfle mawr i fanwerthwyr, busnesau rhanbarthol, prosiectau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw i godi eu proffil a gwneud cysylltiadau. Y llynedd, denodd y digwyddiad fwy na 120 o arddangoswyr a mwy na 2,500 o gynrychiolwyr wrth iddo gael ei gynnal yn Arena Abertawe am y tro cyntaf.
Gwahoddir busnesau, ymgyrchwyr, cyflogwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Abertawe i ddod i'r digwyddiad eleni, a fydd yn cynnwys newyddion a chyhoeddiadau am brosiectau presennol a phrosiectau'r dyfodol i wella'r ddinas, yn ogystal â'r cyfle i glywed gan yr arweinwyr arbenigol a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau sy'n llywio dyfodol Abertawe.
Cynhelir y gynhadledd gan 4theRegion, clymblaid aelodau sy'n gweithio i sicrhau newid cadarnhaol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.
Meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4theRegion:
“Rydyn ni'n falch o lansio Cynhadledd Canol y Ddinas eleni, sy'n sicr o fod yr un fwyaf a gorau hyd yn hyn. Y llynedd, dangoswyd mai Arena Abertawe yw'r lleoliad perffaith i'r digwyddiad, felly rydyn ni'n falch o ddychwelyd yno am ail flwyddyn.
“Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol y Ddinas yn dod â phawb ynghyd sy'n uchelgeisiol ynghylch dyfodol Abertawe, o entrepreneuriaid i bobl greadigol, arloeswyr ac ymgyrchwyr. Mae'n gyfle i wneud cysylltiadau, dathlu cryfderau ac asedau niferus Abertawe, a helpu i lunio'r weledigaeth am ddyfodol ffyniannus a llwyddiannus.”
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned leol ac yn falch o noddi Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe eleni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at arddangos amrywiaeth eang o'n prosiectau, a all gynnig buddion go iawn i fusnesau a sefydliadau lleol, yn y digwyddiad eleni.
“Rydyn ni'n cynnig arbenigedd a chymorth eang: o'n gweithgarwch seiberddiogelwch, ein gwaith o ran treftadaeth leol a rhaglen allgymorth Oriel Science, i'n cyrsiau arweinyddiaeth i fusnesau a'n partneriaethau sy'n rhan o’r Fargen Dinas-ranbarth. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle gwych i feithrin perthnasoedd ar draws sectorau ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnwys ein cymuned leol ac archwilio sut gallwn ni – gyda'n gilydd – helpu ein dinas, ein rhanbarth a'n pobl i ffynnu yn y dyfodol.”
Cyflwynir y gynhadledd mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.
Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
“Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu popeth sy'n wych am Abertawe, o'n busnesau lleol gwych i'r prosiectau mawr sy'n trawsnewid y ddinas.
“Oherwydd y cyfuniad o'n busnesau a'n hentrepreneuriaid a'r gwaith adfywio sydd eisoes wedi cael ei gwblhau, sydd wedi dechrau neu sydd yn yr arfaeth, rydyn ni mewn sefyllfa gref i ymateb i effaith economaidd y pandemig.
“Mae buddsoddiad mawr gan y sectorau cyhoeddus a phreifat yn golygu bod y datblygiadau sydd eisoes ar waith yn cynnwys 71/72 Ffordd y Brenin, adeilad Theatr y Palas, Neuadd Albert, yr hyb cymunedol ar hen safle BHS, yr adeilad bioffilig a llawer mwy, ynghyd ag adeiladu ar Arena Abertawe a phrosiectau eraill sydd eisoes wedi cael eu cyflawni.
“Mae'r prosiectau sydd yn yr arfaeth yn cynnwys gwella Gerddi Sgwâr y Castell yn sylweddol a thrawsnewid lleoliadau megis y Ganolfan Ddinesig a hen safleoedd Canolfan Siopa Dewi Sant.
“Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023 yn galluogi busnesau a sefydliadau i rwydweithio, codi eu proffil a dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a fydd yn sicrhau bod y ddinas yn cyfuno cyfleusterau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang â swyddi a chyfleoedd o'r radd flaenaf i fodloni dyheadau pawb.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Gellir cofrestru yma