Rhes o geir mewn tagfa draffig gyda’r nos gyda mygdarth ceir yn codi i’r awyr o’u cwmpas.

Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

Comisiynodd yr ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Gorllewin Lloegr sefydliad arolygu annibynnol i ofyn cyfres o gwestiynau i 2157 o bobl ledled y DU. Ar hap, derbyniodd pob person set o gwestiynau a gyfeiriodd at yrru ceir, neu set o'r union un cwestiynau ond gydag ambell air wedi'i newid, fel yr oeddent yn gofyn am yr un egwyddorion sylfaenol, ond heb gyfeirio at yrru.

Dangosodd y canlyniadau y gallai pobl newid o gytuno â syniad i anghytuno ag ef, yn seiliedig ar ddim byd ond a oedd gyrru’n rhan o’r sefyllfa ai peidio. Er enghraifft, roedd 75% o gyhoedd y DU yn cytuno â'r datganiad ‘ni ddylai pobl smygu mewn ardaloedd poblog iawn lle mae pobl eraill yn gorfod anadlu mwg sigarennau’. Fodd bynnag, dim ond 17% a oedd yn cytuno â'r datganiad pan newidiwyd dau air i ddweud: 'Ni ddylai pobl yrru mewn ardaloedd poblog iawn lle mae pobl yn gorfod anadlu mygdarthau ceir.' 

"Mae'n wirion dweud bod gorfodi pobl i anadlu aer gwenwynig yn broblem pan ddaw o sigarét ond ei bod hi'n iawn gorfodi pobl i anadlu aer gwenwynig pan ddaw o gar," meddai'r Athro Ian Walker o Brifysgol Abertawe. "Mae'r un egwyddor sylfaenol yn berthnasol, ond doedd y bobl yn ein hastudiaeth ddim yn defnyddio'r un safonau wrth lunio barn am y ddau fater.

"Cafwyd canlyniad tebyg wrth drafod dwyn. Os ydych chi'n gadael eich 'eiddo' yn y stryd ac mae'n cael ei ddwyn, dim ond 37% o bobl sy’n meddwl dylai'r heddlu wneud rhywbeth amdano. Ond, os ydych chi'n gadael eich 'car' yn y stryd ac mae'n cael ei ddwyn, yna mae 87% o bobl yn meddwl dylai'r heddlu wneud rhywbeth - er mai dim ond rhan o'ch eiddo yw eich car.

"Gwelwyd y gwahaniaethau enfawr hyn yn sgîl newid un neu ddau air yn unig yn y cwestiynau. Amheuwyd ers amser hir bod pobl yn gallu newid yn ddiarwybod i ddefnyddio safonau gwahanol wrth feddwl am yrru, sy'n achosi iddynt gyflawni twyllresymeg o'r enw 'pledio arbennig'. Bwriad ein hastudiaeth oedd datgelu'r ffenomen hon a dangos pa mor sylweddol gall yr effeithiau hyn fod.

Mae hyn yn bwysig am reswm penodol yn ôl y tîm - hynny yw nid y cyhoedd yn unig sy'n meddu ar ragfarn ddiarwybod mewn perthynas â gyrru - mae gwleidyddion ac aelodau'r proffeswn meddygol sy'n dylanwadu ar iechyd cyhoeddus yn ei rhannu hefyd. Pan fydd lluniwr polisi'n tybio'n awtomatig bod teithio o fan i fan yn cynnwys gyrru, gall niweidio iechyd y cyhoedd drwy wneud gyrru'n haws. Yn yr achos hwn, gall ei ddallbwynt greu polisïau sy'n cynyddu llygredd aer ac yn gwneud teithio'n fwy anodd a pheryglus i'r holl bobl sy'n defnyddio dulliau cludiant eraill - neu a hoffai eu defnyddio.

"Tasech chi'n gofyn i wleidydd a ddylai ysbyty newydd fod yn anhygyrch i bumed ran o'r boblogaeth, 'na ddylai' fyddai'r ateb yn amlwg," meddai'r Athro Alan Tapp o Brifysgol Gorllewin Lloegr. "Ond tasech chi'n gofyn i'r un gwleidydd a ddylai ysbyty gael ei adeiladu ar gyrion tref, mae'n debygol na fyddai llawer yn gweld y broblem, os yw'n meddu ar y math o feddylfryd rydyn ni'n ei astudio. Ond ni fyddai effaith ymarferol adeiladu'r ysbyty y tu allan i dref yn wahanol i'w wneud yn anhygyrch pan nad oes car gan bumed ran o'r holl aelwydydd. 

"Yn aml rydym yn gweld penderfyniadau polisi - o leoliad amwynderau i ddyluniad strydoedd - sy'n anwybyddu anghenion pobl nad ydynt yn gyrru, gan orfodi'r bobl hyn yn aml i deithio pellteroedd hirach neu wynebu peryglon er lles y bobl sy'n gyrru. Rydym yn awgrymu bod y tybiaethau cyffredin a ddangoswyd yn ein hastudiaeth - 'motornomativity' yw ein henw am hyn - yn rhan fawr o'r rheswm pam mae'r problemau hyn yn cael eu hesgeuluso."

Yn eu papur ‘Motonormativity: How social norms hide a major public health hazard’, dywed y tîm ein bod i gyd wedi ein hamgylchynu gan amgylcheddau sy'n hwyluso gyrru ac yn tanbrisio'r canlyniadau negyddol mewn ffordd systematig. Mae'r amgylcheddau hyn yn amrywio o groesfannau pelican sy'n gorfodi cerddwyr i aros am ganiatâd i groesi'r heol gan roi golau gwyrdd yn awtomatig i yrwyr, i hysbysebion a chyfryngau sy'n normaleiddio ac yn esgusodi gyrru gwrthgymdeithasol a pheryglus. 

"Os nad ydych chi erioed wedi profi dim byd gwahanol na byd sy'n rhoi blaenoriaeth i anghenion gyrwyr, mae'n debygol y byddwch yn dechrau deall mai dyna'r ffordd 'normal', neu hyd yn oed y ffordd 'gywir', o drefnu pethau," meddai Dr Adrian Davis, hefyd o Brifysgol Gorllewin Lloegr. "Gwelon ni dystiolaeth o hynny yma. Wrth i ni ganolbwyntio ar y bobl yn ein harolwg nad oeddent yn gyrru, gwelon ni fod hyd yn oed y bobl hyn yn defnyddio safonau gwahanol pan ofynnwyd y cwestiynau am yrru. Roedd eu hatebion yn tueddu i ailadrodd yr hyn roedd y gyrwyr yn ei ddweud, sy'n golygu nad hunan-les yn unig sydd ar waith yma. Mae'n rhaid bod rhywbeth dyfnach ar waith, rhywbeth â'i wreiddiau yn ein diwylliant."

Wrth gloi eu hadroddiad, mae'r ymchwilwyr yn galw ar lunwyr penderfyniadau i ddechrau cydnabod eu rhagfarn ddiarwybod am y pwnc hwn, ac i roi systemau ar waith a fydd yn gwneud llunio penderfyniadau am gludiant yn fwy rhesymegol. 

"Mae angen i bawb sy'n llunio penderfyniadau ddod i arfer â gofyn iddyn nhw eu hunain 'Beth yw'r egwyddor sylfaenol rydym yn ei hystyried yma, ac a fyddwn i'n fodlon ar y penderfyniad o hyd pe bawn ni'n trafod rhywbeth heblaw am gludiant ar y ffordd?'" meddai'r Athro Walker. "Yna, efallai byddwn ni'n rhoi'r gorau i wneud pethau sy'n gyffredin ar hyn o bryd, ond sydd, mewn gwirionedd, yn achosi problemau wrth i chi feddwl amdanynt o safbwynt mwy haniaethol, fel addysgu plant bod ganddynt gyfrifoldeb am ddiogelu eu hunain rhag oedolion a allai eu brifo". 

Cyhoeddir yr astudiaeth yn International Journal of Environment and Health. Mae fersiwn cyn argraffu o'r astudiaeth hon ar gael yn PsyArXiv.

Rhannu'r stori