Albatros ffroenfelyn yr Iwerydd yn hedfan dros Gefnfor y De

Albatros ffroenfelyn yr Iwerydd yn hedfan dros Gefnfor y De. Mae albatrosiaid ffroenfelyn yr Iwerydd wedi ymaddasu i hedfan mewn gwyntoedd cryfion, ond daeth ymchwilwyr o hyd i un o'r rhywogaeth hon yn hedfan i lygad drycin. Credyd: Peter Ryan

Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae rhywogaethau adar môr gwahanol yn defnyddio strategaethau gwahanol i ymdopi â seiclonau gyda rhai ohonynt yn hedfan yn uniongyrchol tuag at y storm ac eraill yn defnyddio tactegau osgoi.

Mae cryn dipyn o waith ymchwil wedi canolbwyntio ar effaith bosib gwres eithafol ar anifeiliaid, ond mae llai o wybodaeth am y ffordd y mae anifeiliaid yn ymateb i wyntoedd eithafol. Roedd Elham Nourani, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck a phrif awdur yr astudiaeth, yn awyddus i ddeall sut mae rhywogaethau adar môr yn ymateb i wyntoedd tebyg i seiclon ac a yw adar yn osgoi gwyntoedd o gyflymderau penodol neu'n eu ffafrio.

Gyda chymorth 300,000 awr o ddata hedfan gan 18 rhywogaeth wahanol, ymchwiliodd Elham ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i amrywiadau yn nodweddion hedfan rhywogaethau gwahanol.

Dangosodd y canfyddiadau fod adar sy'n byw mewn amgylcheddau mwy gwyntog, megis albatrosiaid, yn hedfan yn gyflymach. Mae hyn yn gwneud synnwyr, gan fod yn rhaid i bob aderyn hedfan yn gyflymach na'r gwynt er mwyn pennu ei gyfeiriad ei hun, yn hytrach na dibynnu ar fympwy cyfeiriad y gwynt. Felly, mae albatrosiaid yn hedfan yn gyflymach na rhywogaethau trofannol megis adar trofannol cynffongoch sy'n wynebu gwyntoedd cymharol araf bob dydd.  

Esboniodd yr Athro Emily Shepard o Brifysgol Abertawe: “Mae'r sefyllfa'n fwy chymhleth pan fyddwn ni'n dechrau ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn stormydd gan fod y gwyntoedd cryfaf yn digwydd dros y trofannau, nid Cefnfor y De. Felly, er y gall albatrosiaid hedfan yn ystod bron yr holl amgylchiadau y maen nhw'n eu hwynebu, rhaid i rywogaethau trofannol feddu ar strategaethau i ymdopi â seiclonau, pan all gwyntoedd fod ddwywaith mor gryf â’r rhai maen nhw’n gallu hedfan ynddyn nhw. Mae hyn yn ychwanegu at dystiolaeth arall bod adar môr trofannol yn debygol o osgoi digwyddiadau eithafol o bellter.”

Er syndod iddynt, darganfu'r ymchwilwyr lond llaw o enghreifftiau pan wnaeth albatrosiaid osgoi’r gwynt. Roedd hyn yn arbennig o annisgwyl gan fod yr albatrosiaid wedi osgoi gwyntoedd o gyflymderau roeddent yn gallu hedfan ynddynt mewn sefyllfaoedd eraill.

Un achos o'r fath oedd un o’r albatrosiaid ffroenfelyn yr Iwerydd a gafodd eu holrhain yn yr astudiaeth hon. Yn wyneb storm oddi ar arfordir Uruguay ym mis Tachwedd 2014, gwnaeth yr aderyn osgoi gwyntoedd 68 cilomedr yr awr drwy hedfan i lygad y ddrycin lle roedd y gwynt yn llawer arafach, oddeutu 30 cilomedr yr awr. Hedfanodd yn llygad y ddrycin am 12 awr cyn gadael y llygad ar ôl i'r storm symud oddi ar yr arfordir.

“Rydyn ni'n gwybod bod adar fel albatrosiaid sydd wedi ymaddasu i wyntoedd yn hedfan mewn gwyntoedd cryfion iawn. Yr hyn a wnaeth fy synnu fwyaf oedd bod hyd yn oed y rhywogaethau hyn yn osgoi gwyntoedd cryfion o bryd i'w gilydd, ac y gallan nhw wneud hynny drwy hedfan i lygad y ddrycin,” esboniodd Elham.

Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y gall hon fod yn strategaeth y maent yn ei defnyddio er mwyn osgoi cael eu dargyfeirio i rywle nad ydynt am fynd iddo.

Daeth Elham i'r casgliad canlynol: “O ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd, bydd stormydd yn fwy mynych ac yn gryfach. Felly, y cwestiwn yw sut bydd hyn yn effeithio ar adar môr. Mae deall cyflymderau'r gwynt y gall rhywogaethau gwahanol ymdopi ynddyn nhw'n rhan allweddol yn hyn o beth. Mae albatros yn wynebu gwyntoedd bron bob dydd a fyddai'n ymddangos yn eithafol i rywogaeth drofannol, felly mae angen amrywio ein diffiniad o amodau eithafol, gan ddibynnu ar y rhywogaeth dan sylw.”

Darllenwch y papur gwreiddiol 'Seabird morphology determines operational wind speeds, tolerable maxima, and responses to extremes' yn Current Biology. 

Rhannu'r stori