Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei chanlyniad gorau erioed ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, gan ddringo 14 o safleoedd i rif 12 yn y DU yn gyffredinol.
Bob blwyddyn, mae Stonewall yn cyhoeddi rhestr o'r 100 cyflogwr gorau, sy'n cael ei llunio drwy’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – yr adnodd meincnodi mwyaf blaenllaw yn y DU o ran cynnwys pobl LGBT+ yn y gweithle.
Mae cymryd rhan yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ymarfer gwirfoddol sy'n galluogi cyflogwyr i fesur a gwella eu hymdrechion i fynd i'r afael â gwahaniaethau a chreu gweithle cynhwysol ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LGBT+).
Yn ogystal â chyrraedd ei safle uchaf erioed yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, mae Prifysgol Abertawe:
- Ar y brig yn y DU ymysg cyfranogwyr o'r sector addysg.
- Wedi cadw dyfarniad y safon aur, sy'n cydnabod bod y Brifysgol wedi gwreiddio cydraddoldeb i bobl LGBT+ ym meysydd craidd ei gwaith ar y lefel uchaf.
- Wedi derbyn Dyfarniad Grŵp Rhwydwaith Uchel ei Glod Stonewall am ei Rhwydwaith Staff LGBT+.
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor: “Mae Prifysgol Abertawe a'n Rhwydwaith Staff LGBT+ wedi cydweithio i wneud Abertawe mor gynhwysol â phosib, ac mae gwella ein safle yn y tabl, derbyn dyfarniad grŵp rhwydwaith uchel ei glod Stonewall a chadw dyfarniad y safon aur yn dangos ein bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos ein sefyllfa bresennol ac, yn bwysig iawn, i ba gyfeiriad rydyn ni'n mynd, a byddwn ni'n adeiladu ar hyn yn y dyfodol wrth i ni barhau i roi newid ar waith, yn ogystal â darparu gwybodaeth a digwyddiadau ar y cyd ag aelodau o rwydwaith ein staff, ein cyfeillion a'r gymuned ehangach.
“Rydyn ni’n falch bod Prifysgol Abertawe'n parhau i ddathlu ein gwerthoedd drwy ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, sy'n rhan gynhenid o'n Prifysgol.”
Gweler Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn ei gyfanrwydd.