Mae Katie Harris o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi'n Brentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eleni.
Fe'u cynhaliwyd ar Gampws Tycoch y Coleg ac fe'u cyflwynwyd gan gyflwynydd chwaraeon y BBC, Ross Harries, ac roedd y gwobrau'n dathlu cyflawniadau prentisiaid, cyflogwyr a thiwtoriaid yng Nghymru a Lloegr.
Cafodd Katie, sy'n Gydlynydd Prosiect Cymorth wedi'i Dargedu gydag Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe, ei chydnabod am ei gwaith caled a'i hymroddiad wrth gwblhau ei Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd.
Ar ei llwyddiant, meddai Katie:"Rwyf wedi mwynhau fy amser yn fawr yn cwblhau fy mhrentisiaeth gyda Choleg Gŵyr. Mae wedi rhoi'r cyfle i mi ddiweddaru fy sgiliau drwy fy rôl a datblygu fy ngwybodaeth a'm profiad. O ganlyniad, rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus ac mae gennyf fwy o hyder yn fy ngallu i gymryd heriau a chyfleoedd newydd".
Astudiodd Katie ei diploma drwy Raglen Prentisiaethau Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Meddai Katie: "Rwy'n hynod falch fy mod wedi ennill y wobr hon ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle a gefais drwy gyllid y llywodraeth, oherwydd efallai na fyddwn wedi gallu cwblhau'r brentisiaeth fel arall".
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe (ACA): "Rydym mor falch bod Katie'n cael ei chydnabod gyda'r wobr hon!
"Mae prentisiaethau'n ddull effeithiol i staff ddatblygu eu sgiliau a'u profiad mewn ffordd hwylus ynghyd â'u gwaith. Maen nhw hefyd yn annog myfyrio'n naturiol, sy'n hanfodol i'r hyn rydym yn ei wneud yn ACA.
"Mae'n bwysig ein bod yn cyflawni'r hyn rydym yn ei annog ymysg y myfyrwyr a'r graddedigion rydym yn eu cefnogi, gan wneud datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol yn y sector gyrfaoedd.
"Mae llawer o staff ACA wedi cyflawni prentisiaethau NVQ Lefel 4 a Lefel 6 drwy Goleg Gŵyr dros y blynyddoedd, ac mae'n wych gweld Katie'n rhagori ac yn cael ei chydnabod yn y ffordd hon".
Enwebwyd Katie am y wobr gan gydlynydd masnachol Coleg Gŵyr Abertawe, Einir-Wyn Hawkins a'r tiwtor/aseswr Judith Lyle.
Dyma a ddywedodd Judith am waith Katie: "Roedd Katie'n fyfyriwr rhagorol, ac roedd ei gwaith ysgrifenedig ar yr un lefel â rhywun ar gymhwyster lefel 6.
"Rwy'n gobeithio y bydd Katie'n cwblhau lefel 6, oherwydd byddai hynny'n gwbl haeddiannol".
I weld rhestr lawn o'r enillwyr, ewch i wefan Coleg Gŵyr Abertawe.