Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i nodi sut gellir gwella un o'i modelau arwynebedd tir, gan hwyluso rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Journal of Geophysical Research: Biogeosciences, wedi cael ei llunio ar y cyd gan Lewis Palmer, myfyriwr MSc Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd.
Cynhaliodd Lewis yr ymchwil hon, sef testun ei draethawd hir, ar ôl ennill lleoliad gwaith SPIN (Rhwydwaith Interniaethau â Thâl Abertawe) gyda'r Swyddfa Dywydd drwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe.
Ymchwiliodd y prosiect i ffyrdd gwahanol o ddefnyddio model JULES (Joint UK Land Environment Simulator), sy'n rhagfynegi prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cylchoedd carbon a dŵr.
Mae cymharu amcangyfrifon JULES o ddidoli isotopau carbon (Δ13C) â mesuriadau o gylchoedd pren yn helpu i wella efelychiadau, gan arwain at ragamcanion mwy cywir o weithrediadau ecosystemau dan hinsoddau gwahanol.
Ymhelaethodd Lewis ar y broses: “Gwnaethon ni gymharu data isotopau carbon cylchoedd pren a gasglwyd gan astudiaethau eraill â rhagamcanion y model o’r un data o ran y duedd gyffredinol dros amser, yr amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn ac effaith yr hinsawdd.”
Canfu'r ymchwil fod JULES wedi rhagfynegi cylchoedd pren Δ13C yn gywir yn 8 o 12 safle yn y DU dros 38 o flynyddoedd, gan wrthbwyso gwerthoedd cymedr hyd at 2.6%, ond amcangyfrifodd amrywiadau Δ13C o flwyddyn i flwyddyn yn rhy isel ym mhob safle.
Nododd JULES ddylanwad newidiadau amgylcheddol ar gylchoedd pren Δ13C yn eithaf da, er bod ymatebion y coed ar safleoedd unigol yn amrywio.
Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu bod angen gwella JULES er mwyn lleihau ansicrwydd o ran rhagfynegi cylchoedd carbon a dŵr ac o ganlyniad i hynny lunio rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.
Ers cwblhau ei waith gyda'r Swyddfa Dywydd, mae Lewis wedi sicrhau rôl gyda darparwr annibynnol mwyaf y DU o ran gwasanaethau ymgynghori amaethyddol ac amgylcheddol, datblygu gwledig a chyngor polisi.
Meddai Lewis: “Rhoddodd lleoliad gwaith SPIN gyfle i mi ddysgu iaith godio R sy'n cael ei defnyddio i reoli a dadansoddi allbynnau modelau, cylchoedd pren a data am yr hinsawdd. Yn ogystal, rhoddodd ef gyfle i mi ddeall sut i gyflawni ymchwil wyddonol o safon uchel a chyfuno'r canlyniadau mewn papur o ansawdd cyhoeddi.
“Gwnaeth popeth a ddysgais i yn ystod yr amser hwn fy helpu i gael swydd fel ymgynghorydd amgylcheddol gydag ADAS, a bydda i'n ddiolchgar am byth am gymorth fy nghyd-awduron, y Swyddfa Dywydd a'r staff yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe.”
Meddai Dr Iain Robertson, un o gyd-awduron y papur a goruchwyliwr traethawd hir Lewis: “Mae ein holl draethodau hir ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno ar ffurf papurau ac adroddiadau gwyddonol er mwyn helpu i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion, ond ychydig iawn sy'n cael eu cyhoeddi ar y lefel hon.
“Mae gwaith Lewis eisoes yn creu effaith fawr, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef ar y prosiect hwn. Bydd y canlyniadau'n helpu'r gymuned wyddonol i nodi a gwella meysydd penodol ym model JULES y Swyddfa Dywydd a modelau amgylcheddol eraill.”
Ariannwyd yr ymchwil hon drwy Grant Lleoliadau Gwaith SPIN, Rhaglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Ymchwil Ewrop, Academi'r Ffindir a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.