Invent for the Planet: creodd Abertawe bedwar tîm (yn y llun). Mae gan bob tîm 48 awr i ymchwilio i'w bwnc, creu prototeip a datblygu cyflwyniad cryno a’i gyflwyno i banel o feirniaid.

Invent for the Planet: creodd Abertawe bedwar tîm.  Mae gan bob tîm 48 awr i ymchwilio i'w bwnc, creu prototeip a datblygu cyflwyniad cryno a’i gyflwyno i banel o feirniaid. 

Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi dyfeisio pwmp sy'n gwneud dŵr afonydd llygredig yn ddiogel i'w yfed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ddylunio fyd-eang, a gynhelir yn Nhecsas ym mis Ebrill.

Enw'r gystadleuaeth yw "Invent for the Planet”.  Prifysgol Texas A&M sy'n cynnal y gystadleuaeth a gwahoddwyd 21 o brifysgolion o 15 gwlad ledled y byd i gymryd rhan.   Prifysgol Abertawe oedd yr unig brifysgol yn y DU a gafodd ei gwahodd i gymryd rhan.

Mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau lleol ac yn dewis pwnc o restr o heriau byd-eang;  roedd rhestr eleni'n cynnwys mynediad at ddŵr glân, tai dros dro mewn parthau trychineb a lleihau gwastraff bwyd.

Wedyn mae gan bob tîm 48 awr i ymchwilio i'w bwnc, creu prototeip a datblygu cyflwyniad cryno a’i gyflwyno i banel o feirniaid. 

Creodd Abertawe bedwar tîm.  Roedd y tîm buddugol - o'r enw H2Grow - yn cynnwys pedwar myfyriwr o beirianneg a ffiseg. Yn briodol ar gyfer y gystadleuaeth fyd-eang hon, roedd tîm H2Grow yn dîm rhyngwladol, gyda dau aelod  - Alex Henson ac Oli Leslie-Golding - o'r DU a dau aelod - Rachel Simms a Matthew Coomes - o UDA.

Mae H2Grow yn un o chwe thîm yn unig a gafodd eu dewis ar gyfer y rownd derfynol, a gynhelir rhwng 18 a 20 Ebrill yn Nhecsas. Mae'r timau eraill o UDA, Pacistan, Gwlad Thai a Qatar. Dyma'r eildro mewn pedair blynedd y mae tîm o Abertawe wedi'i ddethol ar gyfer y rownd derfynol.

Syniad buddugol y tîm oedd pwmp gwrthdroi-osmosis a all droi dŵr gwenwynig o afonydd yn ddŵr y gellir ei yfed i gymunedau ffermio gwledig.  

Yn ôl Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, nid oes gan 2.2 biliwn o bobl ledled y byd ddŵr yfed diogel ar hyn o bryd. Felly mae dyfeisiau syml a fforddiadwy sy'n tynnu llygredd ac yn gwneud dŵr yn lanach yn hanfodol.

Yn ystod y gystadleuaeth gwnaeth y tîm greu prototeip cynnar o'r pwmp ac roedd y beirniaid o'r farn bod ganddo'r potensial i fod yn gynnyrch dichonol. Bydd tîm Mentergarwch y Brifysgol, sydd â hanes cadarn o gefnogi cwmnïau cychwynnol myfyrwyr, hefyd yn gallu cynnig cyngor ar ddatblygu'r syniad ymhellach.  

Dywedodd Rachel Simms, aelod o dîm buddugol H2Grow:

"Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi pa mor gefnogol roedd pawb, ac roedd y mentoriaid yn hynod gymwynasgar. Mwynheais i'n fawr gael y cyfle i gystadlu yn Abertawe a chael profiad ymarferol o ymagwedd hynod gydweithredol pawb."

Dywedodd Abdulalhad Abdoulraouf, sy'n aelod o un o'r timau ail orau ac yn fyfyriwr peirianneg fecanyddol yn ei flwyddyn gyntaf:   

"Mae Invent for the Planet wedi datblygu fy sgiliau cyflwyno a'm sgiliau gweithio mewn tîm. Mae hefyd wedi fy helpu i feithrin fy nghysylltiadau a'm rhwydweithiau. Roedd yn un o'm profiadau mwyaf cofiadwy ers dod i Brifysgol Abertawe."

Mae llwyddiant y tîm yn y gystadleuaeth hon yn gynnyrch arall sydd wedi deillio o'r bartneriaeth ffyniannus y mae Prifysgol Abertawe wedi'i meithrin â phrifysgolion yn Nhecsas, megis A&M.   Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau cyfnewid myfyrwyr a chydweithrediadau ymchwil mewn meysydd megis nanofeddygaeth.

Dywedodd Dr Caroline Coleman-Davies, arweinydd Prifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Strategol Tecsas a chyd-drefnydd Invent for the Planet:

"Mae Texas A&M yn brifysgol o fri rhyngwladol y mae ganddi berthynas hirsefydlog ag Abertawe ac mae Invent for the Planet yn rhoi i'n myfyrwyr gyfle gwych i weithio gyda myfyrwyr o bynciau, disgyblaethau a grwpiau blwyddyn eraill, yn ogystal â rhyngweithio â chyfranogwyr a mentoriaid o bedwar ban byd.   Rwyf wrth fy modd bod Abertawe wedi'i dewis unwaith eto ar gyfer y rownd derfynol yn Nhecsas ac rwy'n siŵr y byddan nhw a phawb yn Abertawe yn falch o'u cyflawniadau!"

Dywedodd Kelly Jordan, Uwch-Swyddog Mentergarwch yn Abertawe a chyd-drefnydd Invent for the Planet:

"Mae Invent for the Planet yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, rhoi ar waith yr wybodaeth am beirianneg a gwyddoniaeth y maent wedi'i meithrin yn ystod eu hastudiaethau yn Abertawe ac ymbaratoi i gael effaith gadarnhaol ar y byd. Dyma un enghraifft yn unig o'r digwyddiadau y mae'r tîm mentergarwch yn eu cynnal i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd a bydd eu cyflwyniadau terfynol yn dangos cymaint y gallant ei ddysgu mewn 48 awr yn unig."

Dywedodd un o'r beirniaid, Nick Laird sy'n Gymrawd Engineers in Business:

"Roedd y timau a welon ni ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer Invent for the Planet yn ardderchog. Roedd eu hymagwedd nhw at arloesedd yn holl gyfannol, gan ystyried sawl safbwynt. Mewn ychydig ddyddiau yn unig, gwnaethant greu cysyniadau a oedd i bob pwrpas yn bosib ac yn gredadwy, gan ystyried llwybrau i’r farchnad. Roedden nhw'n griw o unigolion talentog a dangosodd eu cyflwyniadau y buddion sy’n gysylltiedig â gweithio mewn tîm, ochr yn ochr â mewnbwn gan unigolion"

Noddwyd digwyddiad eleni gan Engineers in Business Fellowship.  Cafodd ei ddarparu gan dîm ar draws y Brifysgol gan gynnwys arbenigwyr o'r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi, Partneriaethau Academaidd ac o Beirianneg, Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth. 

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys academyddion o Brifysgol Abertawe a Dr Laura Baker, a raddiodd o Brifysgol Abertawe ac sydd bellach yn bennaeth datblygu cynnyrch yn Tata Steel UK.

I gael gwybod rhagor am ein partneriaeth â Tecsas

 

Rhannu'r stori