Mam yn dal baban newyddanedig yn ei breichiau

Mae cydweithrediad ymchwil newydd sydd â'r nod o sbarduno galluoedd a gwella ymchwil i iechyd mamau a babanod wedi derbyn hwb ariannol gwerth £1.4m.

Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi dyfarnu'r grant i bartneriaeth MIREDA (Dadansoddi Data Electronig Ymchwil i Famau a Babanod), dan arweiniad Canolfan Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe

Mae'r bartneriaeth yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd o Abertawe, Prifysgol Caeredin, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Birmingham a Sefydliad Ymchwil Iechyd Bradford. 

Mae tlodi, anfantais a'r iechyd gwael cysylltiedig yn aml yn dechrau yn nyddiau cynnar bywyd wrth i ymddygiadau megis defnyddio cyffuriau ac alcohol effeithio ar ddatblygiad babanod cyn ac ar ôl iddynt gael eu geni. Gall y goblygiadau bara am oes. 

Nod MIREDA yw gwella iechyd mamau a babanod, yn enwedig ymysg grwpiau difreintiedig, drwy ddatblygu adnoddau a dulliau ymchwil newydd sy'n defnyddio data a gesglir yn rheolaidd. 

Mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau yn y gymdeithas sydd ohoni'n dechrau gyda gwella iechyd mamau a babanod newyddenedigol. O ystyried yr heriau cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys y cynnydd mewn gordewdra, costau byw sy'n cynyddu, anghydraddoldeb a’r ffaith bod rhannau mawr o'n cymdeithas yn wynebu tlodi ac amddifadedd, mae'n bwysicach nag erioed i ni allu deall y ffordd orau o ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol. 

Bydd MIREDA yn llywio dealltwriaeth ac ymyriadau drwy wneud y canlynol:

  • Creu adnodd yn y DU sy'n cynnwys data cyson am iechyd carfanau mamau a babanod o adeg geni sy'n gysylltiedig â setiau data lleol ynghylch iechyd y cyhoedd, iechyd babanod newyddenedigol, delweddu, gofal sylfaenol ac ysbytai;
  • Creu cydweithrediad amlddisgyblaethol i ddadansoddi pob carfan heb yr angen i symud y data;
  • Datblygu dulliau o safoni data a rheoli data mewn ffordd gyffredin ar draws setiau data a rhoi meddalwedd ar waith i awtomeiddio dulliau astudio epidemiolegol;
  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu gallu ymchwil a meithrin rhwydweithiau yn y maes, gan ddefnyddio gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb, seminarau, cynadleddau a chyfarfodydd grwpiau datblygu ymchwil i rannu gwybodaeth a sgiliau; a
  • Darparu arian sefydlu i gefnogi ymchwilwyr sydd ar i fyny a chydweithrediadau rhyngwladol o ran iechyd mamau a babanod. Bydd y bartneriaeth hefyd yn manteisio i'r eithaf ar gyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil i wella gofal mamau a chanlyniadau babanod.

Meddai'r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth: “Mae'r Ganolfan yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru wrth wraidd datblygu galluoedd iechyd y boblogaeth ac ymchwil i iechyd mamau a babanod. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n partneriaid dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a chyflawni gwaith MIREDA. 

“Mae amseru'r bartneriaeth hon yn bwysicach nag erioed. Wrth i anfantais ac amddifadedd ddod yn broblemau cymdeithasol mwyfwy difrifol, mae'n fwyfwy pwysig lliniaru'r risgiau i iechyd mamau a babanod sy'n gysylltiedig â nhw. 

“O ganlyniad i'r cynnydd o ran data mawr, mae llawer o setiau data am famau a babanod ledled y DU y gall ymchwilwyr eu cysoni, eu dadansoddi a'u cymharu. Ond mae mynediad, llywodraethu, gallu cyfrifiadol a'r sgiliau dadansoddi sy'n ofynnol i gyd yn rhwystrau difrifol.

"Bydd MIREDA yn datblygu'r adnoddau, yr isadeiledd a'r arbenigedd angenrheidiol i chwalu'r rhwystrau hyn – gan alluogi ymchwilwyr yn y DU i ddatblygu ymchwil i iechyd mamau a babanod – er mwyn gwella canlyniadau gydol oes a helpu i dorri cylch tlodi.” 

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydyn ni'n falch bod y bartneriaeth arloesol a chyffrous hon yn rhoi iechyd mamau a babanod wrth wraidd gallu ymchwil yng Nghymru, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld partneriaeth MIREDA yn datblygu gyda chydweithwyr ledled y DU a chyda chymorth i’w groesawu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, er mwyn gwella canlyniadau go iawn o ran iechyd mamau a babanod.”

 

Rhannu'r stori