Prin yw'r wybodaeth yn aml i fenywod sy'n defnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn wrth fwydo ar y fron.
Mae adolygiad systematig newydd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â ConcePTION, prosiect a ariennir gan yr IMI (Innovative Medicines Initiative), wedi galw am gamau gweithredu i wneud y canlynol:
- monitro babanod am adweithiau niweidiol posib i gyffuriau ar ôl dod i gysylltiad â meddyginiaethau drwy laeth o'r fron, er bod problemau'n brin o bosib.
- clustnodi cymorth ychwanegol i gleifion sy'n bwydo babanod ar y fron y mae eu meddyginiaethau'n effeithio ar eu gallu i wneud hynny o bosib.
- darparu data tymor hir sy'n seiliedig ar y boblogaeth am ddigwyddiadau niweidiol i fabanod sy'n dod i gysylltiad â meddyginiaethau drwy laeth o'r fron ac am gyfraddau bwydo ar y fron os byddant yn lleihau.
Yn y papur, a gyhoeddwyd yn PLOS ONE, nododd ymchwilwyr fod 10 cronfa ddata sefydledig yn unig yn cofnodi bwydo ar y fron, meddyginiaethau a chanlyniadau i fabanod: nid oedd yr un yn cofnodi deilliannau addysgol.
Mae ymchwilwyr yn argymell y dylid bellach flaenoriaethu cynnwys data am fwydo ar y fron a'r meddyginiaethau a ddefnyddir gan fenywod yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd ac wrth roi genedigaeth mewn cronfeydd data sy'n seiliedig ar y boblogaeth, ochr yn ochr â data am ganlyniadau tymor hir dilynol, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, fel y gellir cynnal ymchwil ystyrlon i fuddion a niweidiau defnyddio meddyginiaethau wrth fwydo babanod ar y fron.
Meddai'r Athro Sue Jordan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol, a fu'n arwain yr ymchwil:
“Mae hepgor data am fwydo ar y fron o'r rhan fwyaf o gronfeydd data sy'n seiliedig ar y boblogaeth yn dangos mai prin yw'r data i roi gwybod i gleifion sy'n bwydo babanod ar y fron a'r rhai sy'n bwriadu gwneud hynny am effaith bosib meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar laethu, a sut bydd meddyginiaethau'n effeithio ar fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron. I elwa o’r buddsoddiad mewn cronfeydd data gofal iechyd sy'n seiliedig ar y boblogaeth, dylai fod gan epidemiolegwyr ffarmacolegol ddata o safon i archwilio cysylltiadau rhwng dod i gysylltiad â meddyginiaethau, bwydo ar y fron a’r canlyniadau i fabanod yn y tymor byr a'r tymor hir.”
Meddai un o gyd-awduron yr adolygiad, Dr Sandra Lopez-Leon, epidemiolegydd o Brifysgol Rutgers a'r cwmni meddyginiaethau Novartis:
“Mae angen brys i gael gafael ar ddata cysylltiedig o safon uchel am feddyginiaethau, canlyniadau tymor hir i blant a ffactorau risg y gellir eu haddasu, gan gynnwys bwydo ar y fron, er mwyn gwneud gwaith dadansoddi cadarn ar fuddion a niweidiau sy'n ymwneud â meddyginiaethau, a fydd yn y pen draw yn galluogi menywod i wneud penderfyniadau gwybodus ar eu triniaethau meddygol eu hunain a bwydo ar y fron.”