Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi canfod y gall cyffur a ddefnyddir yn gyffredin i drin diabetes helpu i drin anhwylderau awtoimiwnedd o bosib.
Mae academyddion yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol wedi canfod y gellid defnyddio'r cyffur, sef canagliflozin (a adwaenir fel Invokana hefyd), i drin anhwylderau awtoimiwnedd megis arthritis gwynegol ac erythematosus lwpws systemig gan ei fod yn targedu celloedd T, sy'n rhan hanfodol o'r system imiwnedd. Mae canagliflozin yn gyffur sy'n rheoli lefelau siwgr gwaed pobl â diabetes math 2, ond mae ymchwilwyr wedi canfod rôl annisgwyl i'r cyffur sy'n ymwneud â system imiwnedd pobl.
Mae ymchwil flaenorol wedi nodi bod targedu metaboledd celloedd T mewn awtoimiwnedd yn gallu arwain at fuddion therapiwtig. Mae celloedd T yn fath o gelloedd gwyn y gwaed sy'n helpu'r corff i frwydro yn erbyn heintiau a chlefydau, ond fe'u gwelwyd yn ymosod ar feinweoedd iach mewn clefydau awtoimiwnedd.
Mae'r astudiaeth newydd, a gafodd ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Cell Metabolism, wedi canfod bod canagliflozin yn lleihau'r broses o actifadu celloedd T, gan awgrymu y gellid newid diben y cyffur i drin awtoimiwnedd sy'n seiliedig ar gelloedd T.
Meddai Dr Nick Jones, uwch-awdur a fu'n arwain yr astudiaeth: “Mae ein canfyddiadau'n arwyddocaol gan iddyn nhw gynnig sail i ddatblygu canagliflozin yn glinigol i drin clefydau awtoimiwnedd penodol. Gan fod y cyffur eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth a bod ganddo broffil diogelwch hysbys o ran pobl, mae’n bosib y gallai gyrraedd clinigau'n gynt nag unrhyw gyffuriau newydd sy'n cael eu datblygu a chynnig buddion gwerthfawr, a hynny’n gyflymach, i gleifion ag anhwylder awtoimiwnedd.”
Meddai Ben Jenkins, prif awdur ac ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Abertawe: “Mae nodi rolau newydd ar gyfer cyffuriau sydd eisoes yn cael eu defnyddio i drin clefydau eraill yn faes ymchwil cyffrous. Gan fod ein hymchwil yn targedu metaboledd celloedd y system imiwnedd, rydyn ni'n gobeithio y bydd buddion therapiwtig posib ein canfyddiadau'n berthnasol i amrywiaeth eang o gyflyrau.”
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd canagliflozin yn cael ei dreialu'n glinigol i drin anhwylderau awtoimiwnedd penodol yn y dyfodol.