Mae casgliad o lithograffau gan yr artist uchel ei fri o Gymru Ceri Richards, a ysbrydolwyd gan gerddi Dylan Thomas, yn cael eu harddangos yn barhaol yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Ystyrir bod Ceri Richards, a anwyd yn Nynfant ym 1903, yn un o artistiaid Prydeinig pwysicaf yr 20fed ganrif ac ef oedd artist Cymreig mwyaf llwyddiannus y cyfnod. O ddechrau'r 1930au, gwnaeth archwilio swrrealaeth a defnyddio themâu rheolaidd golau a thywyllwch fel trosiadau ar gyfer y cyflwr dynol.
Roedd cerddi Dylan Thomas ymysg ei ffynonellau ysbrydoliaeth niferus. Ym 1943, wedi'i ysbrydoli gan y cerddi hyn, dechreuodd Richards greu paentiadau a gouaches, gan arwain at gyfres o lithograffau o'r enw Twelve Lithographs for Six Poems by Dylan Thomas. Heb os, gellir eu hystyried ymysg uchafbwyntiau ei yrfa.
Mae'r lithograffau'n ategu'r cerddi i'r dim, gan ddangos eu harddwch, eu hangerdd a'u dyfnder. Mae arddull unigryw Ceri Richards yn rhoi gwedd newydd ar y cerddi, gan greu dehongliad gweledol sy'n afaelgar ac yn bryfoclyd.
Argraffwyd 70 set o'r lithograffau yn wreiddiol gan The Curwen Studio, ond dros amser mae'r setiau wedi'u gwahanu gan amlaf wrth i'r printiau gael eu gwerthu ar wahân.
Bellach, bydd ymwelwyr yn gallu gweld pob un o'r 12 print gyda'i gilydd yn Neuadd Fawr y Brifysgol ar Gampws y Bae am ddim.
Meddai'r Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae Twelve Lithographs for Six Poems by Dylan Thomas gan Ceri Richards wedi bod yn rhan hynod boblogaidd o gasgliad celf Prifysgol Abertawe ers blynyddoedd, ac mae'n destun cyffro i ni i rannu'r casgliad hwn â'r cyhoedd yn ehangach gan y bydd yn rhoi cyfle unigryw i ymwelwyr dystio'r croestoriad rhwng barddoniaeth a chelf mewn ffordd ddwys ac emosiynol. Mae'r gosodwaith celf diweddaraf yn y Neuadd Fawr yn ychwanegu at gyfoeth diwylliannol y Brifysgol ac yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo celf a diwylliant yn y gymuned.”
Y lithograffau yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o gysylltiadau rhwng y Brifysgol a Dylan Thomas. Gwobr Dylan Thomas flynyddol Prifysgol Abertawe yw un o'r gwobrau rhyngwladol mwyaf clodfawr i lenorion ifanc dan 39 oed, sy'n ceisio annog doniau craidd pobl dalentog ledled y byd. Ochr yn ochr â'r wobr, mae rhaglen DylanED yn cyflwyno byd llenyddiaeth i bobl ifanc ac yn eu hannog i feithrin eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hunain. Mae Archifau Richard Burton y Brifysgol yn dal pumed nodiadur ‘coll’ enwog Thomas a sawl proflen brin o'i waith. Yn ogystal, lansiwyd prosiect arloesol rhwng Prifysgol Abertawe a Chanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas yn Austin, wedi'i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Dylan Thomas, yn 2021 i sicrhau bod miloedd o eitemau a oedd yn ymwneud â Dylan Thomas ar gael am ddim ar-lein.
Ceir rhagor o wybodaeth am gasgliad celf Prifysgol Abertawe drwy e-bostio Mr Mark Heycock, Rheolwr yr Oriel.