Golwg agos ar fenyw oedrannus yn yfed te gyda ffrindiau.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio’n fanylach i’r cyfraniad y gall gwaith atal ei wneud at wella gofal cymdeithasol y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Mae gweithredu'n gynt i leihau canlyniadau gwael o ran iechyd a lles wrth wraidd polisïau gofal diweddar y DU, yn enwedig wrth i ni wynebu gofynion poblogaeth sy'n heneiddio. 

Fodd bynnag, mae Dr Simon Read, o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn datgan bod yr hyn sy'n gysylltiedig â gwaith atal, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, yn fater cymhleth, yn enwedig i sefydliadau llywodraeth leol sydd dan straen ariannol yn ystod argyfwng costau byw. Yn y cyd-destun hwn, mae Dr Read a'i gyd-ymchwilwyr wedi archwilio agenda'r polisi ataliol mewn erthygl ar gyfer The British Journal of Social Work. 

Yn seiliedig ar werthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'r erthygl yn archwilio sut mae gwaith atal yn cael ei drafod gan lywodraeth leol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar adeg cyni.

Daeth y Ddeddf i rym yn 2016 ac mae'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, a thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Meddai Dr Read: “Mae gwaith atal bellach yn un o gonglfeini polisi'r DU ar iechyd a gofal cymdeithasol, ond does dim dealltwriaeth gyflawn o hyd o'r ffordd orau o roi agenda gofal cymdeithasol ataliol ar waith. 

“Un o'r pryderon craidd sy'n sail i'r ymchwil hon yw bod gofal a chymorth ataliol yn gallu cael dylanwad pwerus ar fywydau pobl, ond bod y dylanwad hwn yn anodd ei amgyffred drwy'r mathau o fetrigau ledled y boblogaeth y mae llywodraethau'n tueddu i'w ffafrio.” 

Canfu'r ymchwilwyr gyfuniad o egwyddorion ynghylch gwaith atal, gan ddod â syniadau sy'n seiliedig ar werthoedd megis annibyniaeth, lles a gwneud y ‘peth cywir’ ynghyd â syniadau o gynaliadwyedd ariannol a rheoli cyllidebau llai. 

Er bod egwyddorion trosfwaol y Ddeddf wedi cael eu croesawu gan ymarferwyr proffesiynol a'r cyhoedd, mae cyfyngiadau ariannol wedi cael effaith ar y ffordd y darperir gwaith atal mewn gwirionedd ar lefel leol, yn enwedig gan fod ei fuddion yn rhai tymor hir yn eu hanfod yn aml. 

Wrth wynebu dewisiadau anodd ynghylch pa fentrau i'w hariannu, mae'r ffaith ei bod yn fwy anodd mesur mentrau gofal a chymorth ataliol yn gwanhau eu sefyllfa o'u cymharu â mentrau lle mae'r effeithiau'n hysbys ac mae'n haws mesur a deall y mentrau hynny. 

Mae Dr Read yn un o Gymrodyr Ymchwil Gofal Cymdeithasol Iechyd a Gofal Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n edrych ar yr arferion gofal cymdeithasol ataliol gorau ar gyfer pobl hŷn sy'n derbyn rhyw fath o ofal neu gymorth, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia. 

Meddai: “Pan geir cyllidebau llai, mae hanes yn dangos i ni fod mentrau ataliol ystyrlon iawn yn gallu cael eu torri o gyllidebau, gan gael effaith niweidiol. Mae fy nghymrodoriaeth yn ceisio esbonio’r syniad o ofal cymdeithasol ataliol mewn modd cliriach, taflu goleuni ar arferion gorau ledled Cymru ac ystyried y ffordd orau o gynnal y gwelliannau hyn.”

 

Rhannu'r stori