Mae academyddion o Abertawe yn chwarae rhan allweddol wrth archwilio sut y gall Cymru gyflymu'r broses o newid i sero net a helpu i ddiwygio ei tharged i 2035 o 2050.
Ac nawr maen nhw am glywed barn, syniadau a phrofiadau'r cyhoedd i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu llunwyr polisi Cymru.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 wrth i bryderon am yr argyfwng hinsawdd gynyddu. Nod y grŵp yw archwilio ffyrdd o gyflymu'r broses o gyflawni ymrwymiadau Cymru o ran newid yn yr hinsawdd, gan fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru megis diogelwch bwyd ac ynni, bywoliaethau gwledig a chyfleoedd economaidd.
Mae'r grŵp, dan arweiniad cyn Weinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, yn cynnwys 25 aelod annibynnol, di-dâl. Mae'r rhain yn cynnwys yr Athro Gavin Bunting, Cadeirydd Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol Cymru, yr arbenigwr mewn cyfraith amgylcheddol, yr Athro Karen Morrow, a Dr Jennifer Rudd, Uwch-ddarlithydd mewn cynaliadwyedd, sy'n dod ag arbenigedd o bob rhan o'r brifysgol, gan adlewyrchu ymagwedd ryngddisgyblaethol y grŵp.
Meddai'r Athro Bunting, o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ei bod yn bleser ganddo fod yn rhan o'r grŵp: "Mae'r grŵp yn cydnabod pwysigrwydd yr economi gylchol wrth leihau allyriadau - dim ond 7.2 y cant o fwy na 100 biliwn tunnell o ddeunyddiau a echdynnir bob blwyddyn sy'n cael eu hailddefnyddio. Drwy ymgorffori'r economi gylchol a dyblu'r gyfradd gylchredol hon, drwy brosesau fel estyn oes, effeithlonrwydd deunyddiau, ac ailddefnyddio cydrannau, mae potensial i leihau allyriadau 39 y cant.
"Fy uchelgais ar gyfer y grŵp yw ysbrydoli newid trawsnewidiol, sy'n croesawu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i gyflawni newid cynaliadwy a chyfiawn. Gall Cymru, unwaith eto, arwain y ffordd a dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo gwir ymrwymiad ac uchelgais gref."
Meddai'r Athro Morrow o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Apêl y grŵp hwn yw ei fod yn deall pwysigrwydd ymgorffori'r gyfraith mewn gwaith Sero Net o'r cychwyn cyntaf. Drwy ystyried bod newid yn yr hinsawdd yn cynnwys materion gwyddonol, technegol ac economaidd a phryderon cymdeithasol hefyd, mae'r grŵp yn mabwysiadu ymagwedd byd go iawn at yr heriau hinsawdd sylweddol sy'n ein hwynebu yng Nghymru.
"Mae ystyried cyfiawnder, tegwch, ac ystyriaethau cyfreithiol ymarferol yn chwarae rhan hanfodol mewn ymagwedd sy'n ystyried yn fras 'sut' yn ogystal â 'beth', 'ble' a 'pham' fel rhan annatod o lunio cynlluniau, deddfau, polisïau a chamau gweithredu effeithiol ar gyflymder er mwyn galluogi Cymru i ymateb i'r heriau cymhleth niferus a ddaw yn sgîl gwresogi byd-eang.”
Meddai Dr Rudd, o'r Ysgol Reolaeth: "Rydym yn dod yn fwy ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a'r hyn y mae'n ei olygu i ni, ond mae syrthni cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn drech. Mae'r Grŵp yn bodoli i ddychmygu'r dyfodol drwy hybu celfyddyd y posibl.
"Rydyn ni'n grŵp o feddylwyr beiddgar, a'n nod yw cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru a fydd yn newid yn sylfaenol sut rydyn ni'n gweld ein dyfodol, gyda chanlyniadau dilynol ledled y byd gobeithio. Drwy gyflymu'r targed sero net yn ddamcaniaethol i 2035, rydyn ni'n gobeithio tanio fflam o obaith ymhlith poblogaeth Cymru a Llywodraeth Cymru bod sero net o fewn ein cyrraedd ac y bydd yn dod â dyfodol disglair a beiddgar i ni."
Nawr mae'r grŵp eisiau i gymunedau o bob cwr o Gymru a'r byd rannu eu profiadau a'u syniadau am fynd i'r afael â chyfres o heriau allweddol. Croesewir adborth tan 28 Mehefin ar y cyntaf o'r rhain, sef Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
Yr heriau sero net 2035 eraill y bydd y grŵp yn eu harchwilio yw:
- Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 wrth gael gwared yn raddol ar danwyddau ffosil?
- Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
- Sut y gallai pobl a lleoedd gael eu cysylltu ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut olwg allai fod ar addysg, swyddi a gwaith ar draws Cymru erbyn 2035?
Cyhoeddir dyddiadau lansio'r rhain maes o law a disgwylir y bydd gwaith y grŵp yn parhau tan haf 2024.
Rhagor o wybodaeth am y Grŵp a'i waith