Academydd o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen gwerth £31m sydd â'r nod o sicrhau bod deallusrwydd artiffisial y dyfodol yn gyfrifol ac yn ddibynadwy.
Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio dyfodol deallusrwydd artiffisial. Mae'r Athro Matt Jones o Ffowndri Gyfrifiadol y brifysgol yn aelod o'r tîm sy'n arwain cydweithrediad ledled y DU – a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) – sydd â’r nod o wneud y DU yn gyrchfan ac yn arweinydd byd-eang ym maes deallusrwydd artiffisial sy'n gweithio er budd y ddynolryw.
Yn ogystal ag Abertawe, mae'r consortiwm yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o brifysgolion Southampton, Nottingham, Caergrawnt, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol y Frenhines Belfast, Caeredin a Glasgow. Dros bum mlynedd y rhaglen, bydd y tîm yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled y DU. Bydd yn meithrin ymchwil sy'n helpu i ddeall hanfod deallusrwydd artiffisial cyfrifol a dibynadwy, sut i'w ddatblygu, sut i'w wreiddio mewn systemau presennol a pha effeithiau bydd yn eu cael ar gymdeithas.
Bydd y tîm yn gweithio gyda llunwyr polisi i ddarparu tystiolaeth i gefnogi canllawiau, deddfwriaeth a rheoleiddio effeithiol. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys rhaglenni ymchwil ar raddfa fawr, cydweithrediadau rhwng academyddion a busnesau, a phapurau gwyn i bennu ymagweddau'r DU ac ymagweddau byd-eang.
Meddai’r Athro Jones:
“Dyma fuddsoddiad mawr amserol a chyffrous gan UKRI ac rydw i'n falch y bydd Abertawe'n cymryd rhan ynddo. Sefydlwyd y Ffowndri Gyfrifiadol yn Abertawe i hyrwyddo gwerthoedd dynol ym maes arloesi digidol, a byddwn ni'n defnyddio ein harbenigedd mewn deallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio ar bobl a systemau sy'n seiliedig ar ddata er mwyn helpu i fwrw ymlaen â’r rhaglen.”
Ceir rhagor o fanylion ynghylch y rhaglen yma.