Mae cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd wedi datgelu bod modd canfod pobl sy'n agored iawn i niwed cyn i'r heddlu ymwneud â hwy. Nawr, mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n datgan y gallai rhannu a chysylltu data helpu i leihau nifer y galwadau ar yr heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.
Nod yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health ac a arweiniwyd gan Ganolfan Iechyd y Boblogaeth, oedd dangos dichonoldeb a buddion cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd.
Yn ôl Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, sy'n ceisio atal troseddu, rhaid i'r heddlu, llywodraeth leol a'r GIG gydweithredu ar strategaethau ar y cyd i leihau troseddu, gan gynnwys rhannu data i lywio ymatebion a dargedir. Mae data unigolion yn cael ei rannu ond yn anaml mae'r potensial i rannu set ddata asiantaeth gyfan a'i chysylltu â data sefydliadau eraill yn cael ei archwilio'n llawn.
Arsylwodd y tîm ymchwil ar ddata hanesyddol i gadarnhau'r ffactorau sy'n gysylltiedig â rhagweld derbyniad meddygol brys yn dilyn cyflwyno atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd ar gyfer rhywun sydd wedi cyflawni trais domestig.
Roedd y grŵp astudio'n cynnwys 8,709 o breswylwyr yn ne Cymru a fu’n destun atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd rhwng 12/08/2015 a 31/03/2020. Ffurfiwyd dau grŵp: y dioddefwyr hynny a fu'n destun derbyniad meddygol brys neu a fu farw o fewn blwyddyn ar ôl atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd, a phawb arall.
Defnyddiodd yr astudiaeth Fanc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) yn y Brifysgol, sy'n cynnwys cofnodion iechyd electronig ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae SAIL hefyd yn meddu ar ddata gweinyddol a demograffig a chofnodion marwolaethau sy'n cael eu coladu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ar gyfer yr astudiaeth hon, cyflwynwyd i SAIL ddata wedi'i lunio gan yr heddlu i greu cofnodion atgyfeiriadau diogelu'r cyhoedd.
Fel rhan o'r ymchwil, defnyddiodd y tîm ddadansoddiad coeden benderfynu i nodi ffactorau sy'n gysylltiedig â risg y byddai’r dioddefwr yn cael ei dderbyn ar frys yn y dyfodol.
12 mis ar ôl i atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd gael ei gyflwyno yn y lle cyntaf, o'r 8,709 o gyfranogwyr, roedd 3,544 o ddioddefwyr wedi cael eu derbyn i adran damweiniau ac achosion brys, ac roedd cyfanswm o 48 o farwolaethau.
Roedd y ffactorau allweddol a oedd yn gysylltiedig â derbyn y dioddefwr ar frys i gael cymorth meddygol o fewn 12 mis ar ôl atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd yn cynnwys:
- Defnyddio gwasanaethau gofal iechyd brys fwy na theirgwaith mewn tair blynedd;
- Bod yn iau na 19 oed, neu'n hŷn na 70 oed;
- Bod yn smygwr sigaréts, neu’n derbyn cyngor ar roi'r gorau i smygu (ymddygiad caeth);
- Dioddef anaf yn y lleoliad;
- Cyffuriau wedi'u rhagnodi i drin y brif system nerfol
- Cyffuriau wedi'u rhagnodi i drin heintiau; a
- Menyw feichiog ar yr aelwyd.
Canfu'r tîm fod arsylwi ar ddata gofal iechyd o un i dair blynedd cyn atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd yn dangos mai derbyniadau brys oedd y ffactor mwyaf allweddol ar gyfer rhagweld pa ddioddefwyr fyddai'n cael derbyniadau brys eraill.
Gellid rhannu'r dioddefwyr yn grwpiau o risg amrywiol; roedd y grŵp risg uchaf yn adnabyddus iawn i'r gwasanaethau gofal iechyd brys, roedd y grŵp nesaf yn llai adnabyddus i'r gwasanaethau gofal iechyd brys, ond yn adnabyddus i'r heddlu, ac nid oedd aelodau'r grŵp olaf yn hysbys i'r gwasanaethau gofal iechyd na'r heddlu, ond roeddent yn hysbys i'w meddygon teulu.
Meddai Dr Tash Kennedy, un o'r prif ymchwilwyr: “Mae cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd wedi dangos bod modd canfod unigolion sy'n agored iawn i niwed mewn sawl set ddata cyn ymwneud â'r heddlu. Mae ein gwaith yn nodi ac yn rhestru'r ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig â derbyniadau meddygol brys yn dilyn yr alwad gyntaf o ran atgyfeiriad diogelu'r cyhoedd.
Mae'r ymchwil yn dangos y gallai rhannu a chysylltu data leihau nifer yr achosion o alw ar yr heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.”
Meddai'r Athro Sinead Brophy, prif ymchwilydd a chyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth: “Mae ein hastudiaeth yn dangos pŵer rhagfynegol ac ataliol rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Gall rhannu data ganiatáu ar gyfer dyrannu adnoddau'n effeithlon mewn modd a dargedir – o safbwynt yr heddlu drwy atal galwadau yn y dyfodol ac o safbwynt gofal iechyd drwy atal ymweliadau o ganlyniad i anafiadau, gan leihau'r straen ar y GIG.
“Fel Canolfan, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r heddlu, gwasanaethau gofal iechyd a phartneriaid eraill i ddatblygu'r ymchwil hon a rhannu data'n well.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ben Rowe, o Heddlu De Cymru: “Mae'r ymchwil hon yn dangos y potensial i ddiogelu'r rhai hynny sydd mewn perygl yn well. Rhaid i ni ddefnyddio'r canfyddiadau hyn i wella'r ffordd rydyn ni'n cydweithio ar gysylltu data a bod yn arloesol wrth rannu gwybodaeth pan fydd yn gymesur er mwyn diogelu pobl rhag niwed.”