Mae myfyrwraig sy'n gobeithio cystadlu yn y rasys bobsled am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026 yn dathlu cwblhau ei hastudiaethau israddedig mewn Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Abertawe.
Dechreuodd taith Éire Rowland-Evans i fyd bobsled a hithau yn ei harddegau pan roddodd ei rhieni gyfle iddi gael diwrnod rhagflas ym maes ymarfer uchel ei fri trefnwyr bobsled Prydain Fawr (Great Britain Bobsleigh) ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Gan ragori yn y gamp, cyn bo hir cynrychiolodd Dîm Prydain Fawr yng Nghystadleuaeth Cyfres Ieuenctid OMEGA yn 2019/20, gan gychwyn gyrfa athletaidd anhygoel.
Wrth ddewis prifysgol, chwiliodd Éire am rywle a fyddai'n ei galluogi i barhau i ddatblygu ei huchelgeisiau ym myd chwaraeon.
“Gyda chyfleusterau chwaraeon eithriadol a bonws ychwanegol cwrs o'r radd flaenaf, o ran boddhad myfyrwyr ac addysgu, roeddwn i'n gwybod mai Abertawe oedd y dewis cywir,” meddai Éire, 21 oed, o Gaerloyw.
Fodd bynnag, roedd taro’r cydbwysedd cywir rhwng ei hymarfer a'i hymrwymiadau academaidd yn dalcen caled.
Dan ei hyfforddwr, Rob Jones, bu Éire yn ymarfer yn ddiwyd bedair gwaith yr wythnos, gan ganolbwyntio ar waith gwibio, hyfforddiant cryfder a phlyometreg. Yn ogystal, aeth i sesiynau ychwanegol yn y gampfa ac o bryd i'w gilydd teithiodd i Gaerfaddon i gael hyfforddiant gwthio.
“Doedd hi ddim yn hawdd rheoli fy ymarfer, fy ymrwymiadau academaidd a'r dyddiadau cau. Roedd y ffaith bod bobsled yn gamp nad oedd yn cael ei hariannu'n anhawster arall ac roedd yn rhaid i mi gael swydd ran-amser i gefnogi fy hyfforddiant ochr yn ochr â fy astudiaethau,” meddai Éire.
“Roedd yn rhaid i mi fod yn galed arna i fy hun er mwyn sicrhau y gallwn i ffynnu ym mhob agwedd, a oedd yn aml yn golygu aberthu pethau, megis treulio amser gyda fy ffrindiau.”
A hithau'n fyfyrwraig ddyslecsig, roedd Éire yn wynebu rhagor o rwystrau, megis ymaddasu i ddysgu ar-lein, a gyflwynwyd yn ystod pandemig Covid-19.
“Fy nheulu a fy ffrindiau oedd fy rhwydwaith cymorth mwyaf yn ystod yr amser anodd hwn ac roedden nhw yma i mi bob cam o'r ffordd.
“I ddechrau, roedd gofyn am help yn codi cywilydd arna i, a dim ond yn hwyr yn fy astudiaethau y gwnes i hynny, ond erbyn hyn rwy'n gwybod nad oes dim rheswm dros deimlo cywilydd. I unrhyw un mewn sefyllfa debyg, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r help a'r cyfleusterau a ddarperir gan y Brifysgol i gael y cymorth y mae gennych hawl iddo gan y gall wneud gwahaniaeth go iawn.”
Arweiniodd pandemig Covid-19 at heriau sylweddol i daith Éire ym myd chwaraeon hefyd.
Meddai Éire: “Am ddwy flynedd, doeddwn i ddim yn gallu ymarfer yn llawn. Roedd cael y cyfle i deithio eto i gystadlaethau a mynd ar yr iâ'n beth mawr i mi.”
Mae ei statws ymhlith y prif ddetholion a'i chyflawniadau'n dangos ei hymrwymiad diwyro i'r gamp a'i brwdfrydedd amdani.
Y llynedd, sicrhaodd Éire y trydydd safle ym mhencampwriaeth chwaraeon iâ'r lluoedd arfog, lle cafodd ei henwi'n Bencampwr Uwch y Fyddin.
Dim ond hanner ffordd drwy 2023, mae Éire eisoes wedi profi mai hi yw'r fenyw sy'n dechrau rasys gyflymaf ym Mhencampwriaeth Monobob Prydain a Rhyngwladol, gan gipio'r ail safle yn ras y menywod a gorffen yn drydydd yn y categori cymysg.
Gan edrych tua'r dyfodol, meddai Éire: “Hoffwn i gwblhau gradd Meistr mewn astudiaethau amgueddfeydd neu archaeoleg, ond rwyf hefyd yn gobeithio cynrychioli Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026.
“Bydd hyn yn dibynnu'n fawr ar nawdd, ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i mi ba mor rymus yw dyfalbarhad a rhwydwaith cymorth cryf.”