Mae gallu anifeiliaid i deithio ar draws rhwystrau mawr, megis cefnforoedd neu gadwyni mynyddoedd, wedi bod o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ers amser maith oherwydd ei ddylanwad ar fioamrywiaeth y Ddaear. Mae astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu gwybodaeth sy'n torri tir newydd am y broses hon, gan ddangos sut mae nodweddion, megis maint corff a hanes bywyd, yn gallu dylanwadu ar ymlediad anifeiliaid dros y byd.

Yn yr astudiaeth hon, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Grenoble a Phrifysgol Ghent, bu ymchwilwyr yn archwilio hanesion 7,009 o rywogaethau tetrapodaidd - creaduriaid a chanddynt bedwar aelod neu ffurfiau sy'n debyg i goesau – sy’n perthyn i 56 o grwpiau gwahanol. Buont yn ymchwilio i sut mae’r rhywogaethau hyn wedi llwyddo i groesi rhwystrau daearyddol drwy gydol hanes, ac a oedd eu nodweddion unigol wedi chwarae rôl hollbwysig yn y teithiau hyn.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Nature Ecology and Evolution, yn pwysleisio arwyddocâd nodweddion rhywogaethau wrth bennu eu gallu i ymgartrefu mewn amgylcheddau newydd a chyfrannu at eu bioamrywiaeth. Canfuwyd bod cysylltiad agos rhwng nodweddion megis maint corff a hanes bywyd a llwyddiant i deithio ac ymsefydlu yn y gorffennol. Yr hyn sy'n ddiddorol yw y cafwyd mwy o dystiolaeth ar gyfer y modelau a ystyriodd y nodweddion hyn na'r rhai a'u hanwybyddodd, a oedd yn wir am ganran anhygoel, sef 91%, o'r grwpiau a astudiwyd.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn ehangach na damcaniaeth, gan gynnig goblygiadau ymarferol ar gyfer deall sut mae rhywogaethau'n ymwasgaru ar draws rhwystrau heriol, megis cefnforoedd a mynyddoedd. Gwelwyd cynnydd mawr mewn cyfraddau ymwasgaru - sef rhwng 28% a 32% - ymhlith anifeiliaid â nodweddion sy'n hwyluso llwyddiant wrth deithio ac ymsefydlu. Gwelwyd bod y nodweddion hyn yn hanfodol wrth bennu a fyddai llinachau'n ffynnu mewn rhannau gwahanol o'r byd neu'n wynebu cyfyngiadau daearyddol.

Meddai Dr Sarah Weil, a arweiniodd yr astudiaeth hon yn ystod ei gradd PhD ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Grenoble: "Roedd hwn yn ganlyniad hynod ddiddorol i ni. Am amser hir, roedd gwyddonwyr yn meddwl mai hap a damwain oedd yn rheoli'r digwyddiadau ymwasgaru hyn ar draws rhwystrau mawr, er bod rhai wedi awgrymu'n gynnar y gallai fod yn fwy cymhleth na hynny. Ond doedd dim ffordd o brofi hyn felly daeth y drafodaeth i ben. Mae ein canlyniadau ni'n dangos cysylltiad amlwg rhwng nodweddion a llwyddiant wrth ymwasgaru yn y gorffennol yn y rhan fwyaf o grwpiau, er bod hap yn dal i chwarae rôl sylweddol. Mae hyn yn gyffrous oherwydd efallai y bydd yn ein helpu i ddeall gwreiddiau bioamrywiaeth yn well a digwyddiadau difodiant y gorffennol, o bosib."

Mae'n ddiddorol bod dylanwad hanes bywyd ar gyfraddau ymwasgaru yn amrywio rhwng grwpiau gwahanol o anifeiliaid. Bu maint corff a hanes bywyd cyflym o fantais yn aml i symudedd llwyddiannus, ond roedd manteision hefyd gan greaduriaid llai neu'r rhai â nodweddion cyffredin, mewn achosion penodol. Roedd y cysylltiad rhwng maint corff a symudedd yn dibynnu ar faint cyfartalog a hanes bywyd y grŵp.

Meddai Dr William Allen, Uwch-ddarlithydd yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n hynod ddiddorol i ni feddwl am sut mae hanes ymwasgaru rhywogaethau amffibiaid, ymlusgiaid ac adar ar y Ddaear wedi cael ei lywio gan faint corff a hanes bywyd. Mae ein canfyddiadau yn dangos bod digwyddiadau megis primatiaid yn cytrefu yn Ne America neu gameleonod ym Madagasgar, o ganlyniad yn rhannol i nodweddion cynhenid yr anifeiliaid a oedd yn ymwasgaru, yn hytrach na’r ffaith iddynt ganfod eu hunain ar hap ar rafft o lystyfiant yn arnofio ar y dŵr."

Ychwanegodd Dr Weil: "Mae canlyniadau ein hastudiaeth yn bwysig er mwyn deall symudedd rhywogaethau a'u gallu i ymsefydlu yn y gorffennol, ond mae eu harwyddocâd yn ehangach na hynny.  Mae dau o'r prif heriau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu heddiw yn gysylltiedig â symudedd ar draws rhwystrau mawr: mewnlifiadau biolegol ac ymatebion rhywogaethau i newid yn yr hinsawdd. Mewn byd sy'n wynebu newidiadau cyflym, mae deall sut mae anifeiliaid yn symud ar draws rhwystrau yn hanfodol."

Rhannu'r stori