Cafodd disgyblion ysgol lleol gyfle'n ddiweddar i ddysgu am gynaliadwyedd a gweithgynhyrchu yn ne Cymru mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Ym mis Gorffennaf 2023, gwnaeth Campws y Bae Prifysgol Abertawe groesawu'r EDT (Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg) i ddarparu gweithdy diwrnod her cyntaf de Cymru ar arloesi a chynaliadwyedd, a ariannwyd gan Innovate UK.
Cymerodd cyfanswm o 80 o fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 o Ysgol Gymunedol Llangatwg, Ysgol Bryn Celynnog, Cymuned Ddysgu Ebbw Fawr, Ysgol yr Olchfa ac Ysgol Uwchradd Willows ran yn y digwyddiad hwn wrth iddo gael ei gynnal am y tro cyntaf erioed.
Ymunodd cynrychiolwyr diwydiannol o Vale Europe a Tata Steel UK â'r disgyblion yn y diwrnod her, a noddwyd hefyd gan y Rhwydwaith TFI+ (Trawsnewid Diwydiannau Sylfaen) a Hyb Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol SUSTAIN.
Gwnaeth y gweithgareddau, a ddatblygwyd gan yr EDT, gyflwyno'r diwydiannau sylfaen a gweithgynhyrchu i'r disgyblion. Rhoddwyd enghreifftiau i'r cyfranogwyr o'r hyn y mae'r diwydiannau hyn yn ei gynhyrchu – a pham maent yn hollbwysig yn ne Cymru – drwy gyfres o weithgareddau difyr.
Ychwanegodd y disgyblion at eu gwybodaeth flaenorol am danwyddau ffosil a sut maent yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd, drwy gyfres o weithgareddau gwir neu anwir, a gwnaethant ddysgu am sawl un o’r opsiynau y mae diwydiannau lleol yn eu hystyried er mwyn datgarboneiddio eu gweithrediadau.
Yn ogystal, cyflwynodd y digwyddiad gysyniad yr economi gylchol, drwy ystyried sut gall gweithredoedd pob dydd megis atgyweirio ac ailgylchu helpu i leihau allyriadau carbon. Yna cymharwyd y rhain â'r ffordd y mae byd diwydiant yn mabwysiadu gweithgareddau tebyg ar raddfa fwy o lawer, megis defnyddio deunydd sgrap wedi'i ailgylchu.
Mewn grwpiau, gwnaeth y myfyrwyr ddylunio ac adeiladu pontydd i gynnal gwrthrych. Roedd yn rhaid prynu’r deunyddiau i wneud hyn o siop arbennig, gan ystyried cost ac ôl troed carbon pob cydran, â'r nod o adeiladu pont a fyddai’n cynnig gwerth da am arian ac yn dal i fod yn addas at y diben.
Yr Athro Cameron Pleydell-Pearce o Brifysgol Abertawe yw arweinydd metelau'r Rhwydwaith TFI+ a chyfarwyddwr Hyb Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol SUSTAIN. Meddai:
“Mae wedi bod yn ddigwyddiad anhygoel wrth i'r holl blant ysgol hyn ddod yma i ddysgu mwy am y diwydiannau sylfaen.
“Rwyf wedi dysgu y gallwch chi wir ennyn brwdfrydedd pobl ifanc – arweinwyr posib y diwydiant yn y dyfodol – am gynaliadwyedd ac am gyfraniad y diwydiannau sylfaen at sicrhau dyfodol mwy disglair i'w cenhedlaeth.
“Mae gan y myfyrwyr yma heddiw syniadau gwirioneddol unigryw a chyffrous. Maen nhw wedi bathu'r syniadau hynod ddifyr hyn, o ran adeiladu pontydd, gan ystyried buddion carbon ymgorfforedig, a sut i ddylunio'r pontydd yn well. Gallwch chi weld bod ganddyn nhw feddyliau creadigol a'u bod nhw'n awyddus i geisio ein helpu i ddatrys problem yr hinsawdd.”
Meddai Dr Sarah Connolly o Innovate UK:
“Mae Innovate UK yn gweithio gyda byd diwydiant ledled y DU i wreiddio arferion gorau yn ei sefydliadau. Rhan allweddol iawn o hynny yw sgiliau a phobl dalentog y dyfodol a chynnwys meddyliau gorau'r genhedlaeth nesaf, er mwyn cyflwyno'r syniadau da a'r arferion gorau hyn a newid y ffordd rydyn ni'n ystyried ein diwydiannau deunyddiau.
“Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n cadw rhai o'r sgiliau hyn yn lleol mewn rhanbarthau diwydiannol ledled y DU. Mae de Cymru'n rhanbarth anferth. Mae presenoldeb cryf gan yr holl ddiwydiannau sylfaen yma. Mae'r ffaith bod yr holl sgiliau hyn ar gael yn lleol yn golygu y gallwn ni fanteisio ar yr amrywiaeth eang hon o bobl dalentog i sicrhau bod y diwydiannau hyn yn parhau i ffynnu a diwallu holl anghenion deunyddiau'r DU.”