Mae Dr Zoe John, darlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill gwobr Unigolyn Llawn Ysbrydoliaeth yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru eleni.
Un o uchafbwyntiau'r Gynhadledd Iechyd Meddwl a Lles, dathlodd y seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Llun 2 Hydref, gyfraniadau anhygoel sefydliadau ac unigolion sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru.
Mae'r categori Unigolyn Llawn Ysbrydoliaeth a noddir gan ACT yn cydnabod y rhai hynny sydd wedi dangos ymrwymiad diflino i gyfoethogi bywydau pobl sy'n wynebu problemau iechyd meddwl.
Mae eiriolaeth Dr John wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn ei phrofiad gydag anhwylderau bwyta, ac mae ei hymroddiad i atal stigmateiddio sgyrsiau iechyd meddwl a chynnig llais tosturiol ac empathig wedi bod o fudd i nifer di-rif o bobl.
Wrth dderbyn y wobr, meddai Dr John o'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol: "Roedd derbyn y wobr hon yn anhygoel ac yn fraint ar yr un pryd. Rwyf wedi rhannu fy stori gan fy mod yn teimlo y gallwn wneud, ond roeddwn hefyd yn teimlo mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Po fwyaf rydym yn siarad am iechyd meddwl a salwch meddwl, gorau fydd ein byd. Gallai pawb elwa o gael mwy o garedigrwydd - tuag at ei gilydd a tuag atom ni ein hunain. Rwy'n gobeithio y gallaf barhau i ledaenu'r neges hon."
Meddai'r Athro Deborah Jones, Pennaeth Interim Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol : "Mae Dr John yn aelod uchel ei pharch yng nghymuned ein prifysgol. Drwy rannu ei stori bersonol, mae'n grymuso'r rheini ag anhwylderau bwyta a delwedd negyddol am eu cyrff, gan eu helpu nhw i sylweddoli nad ydynt ar eu pennau eu hunain a bod cymorth ar gael i'w cynorthwyo i wella.
"Rydym yn hynod falch o'r hyn mae hi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud ac rydym yn ddiolchgar ei bod yn rhan o gymuned Prifysgol Abertawe."
Caiff y Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles eu rheoli a'u trefnu gan The Ajuda Foundation, cwmni cymuned fuddiant sy'n ymroddedig i hybu iechyd meddwl cadarnhaol mewn grwpiau cymunedol, ysgolion, sefydliadau addysgol ac unigolion sydd dan anfantais, naill ai oherwydd eu sefyllfa gymdeithasol neu economaidd.
Mwy o wybodaeth am Gymorth a Lles ym Mhrifysgol Abertawe.