Mae arweinwyr o brifysgolion ym Malaysia wedi cael cipolwg unigryw ar yr hyn a gynigir gan addysg uwch yng Nghymru yn ystod ymweliad â Chymru dros chwe diwrnod.
Cydlynodd Prifysgol Abertawe'r digwyddiad ar y cyd ag Uchel Gomisiwn Malaysia ar gyfer rhaglen Cyfoethogi Prifysgolion Malaysia a'r DU (MY-UK HECEP), â’r nod o feithrin rhagor o gydweithrediad rhwng y ddwy wlad ac yn enwedig prifysgolion yng Nghymru.
Lansiwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe gan yr Athro Ben Calvert, Cadeirydd Rhwydwaith Rhyngwladol Prifysgolion Cymru ac Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, gydag anerchiad gan H.E. Dato’ Zakri Jaafar, Uchel Gomisiynydd Malaysia i'r Deyrnas Unedig.
Gan annerch cynulleidfa a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Rwydwaith Arloesi Cymru, Prifysgolion Cymru, Taith a British Council Cymru, tanlinellodd bwysigrwydd rhaglen MY-UK HECEP a mynegodd ei obaith y bydd llwyddiant y berthynas hirsefydlog rhwng Malaysia a'r DU yn parhau am flynyddoedd i ddod.
Cyflwynodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru, feysydd arloesi allweddol megis sero net a datgarboneiddio, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, biotechnoleg, deunyddiau a gweithgynhyrchu, yn ogystal â diwylliant a threftadaeth Cymru.
Rhoddodd cynrychiolwyr saith prifysgol gyhoeddus ym Malaysia, a oedd yn cynnwys uwch-aelodau staff, gyflwyniadau ar gryfderau a nodau strategol eu prifysgolion, gan fynd rhagddynt i gymryd rhan mewn trafodaethau ag uwch-aelodau staff o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Yn ystod yr wythnos yng Nghymru, rhoddwyd cyfle i'r cynrychiolwyr gael cipolwg uniongyrchol ar rywfaint o'r ymchwil gyffrous a gynhelir yn y rhanbarth a chwrdd â myfyrwyr Malaysiaidd sy'n astudio yma. Roedd yr ymweliadau â sefydliadau'n cynnwys Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws y Bae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyn gorffen yr wythnos ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: “Mae'n bleser i ni wneud cyfraniad allweddol at groesawu'r cynrychiolwyr i Gymru i helpu i atgyfnerthu ein perthynas â Malaysia a meithrin rhwydweithiau newydd.
“Roedd hwn yn gyfle gwych i'r sector addysg uwch yng Nghymru'n gyffredinol – yn ogystal â gallu dangos yr ymchwil arloesol a gynhelir mewn amrywiaeth eang o feysydd, cawson ni'r cyfle i bwysleisio pa mor bwysig yw ein partneriaethau rhyngwladol.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant yr ymweliad hwn yn y dyfodol.”
Darganfod mwy am ein tîm Rhyngwladol