Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn The Journal of Sex Research wedi datgelu byd cymhleth pobl sy'n sengl yn anwirfoddol, gan gynnig dealltwriaeth bwysig o'r heriau y mae cymuned gynyddol o ddynion a adwaenir yn incels yn eu hwynebu.
Mae incel, talfyriad o’r geiriau Saesneg am fod yn sengl yn anwirfoddol, yn cyfeirio at gymuned ar-lein o ddynion heterorywiol yn bennaf sy'n teimlo rhwystredigaeth oherwydd eu hanallu i feithrin perthnasoedd rhamantaidd neu rywiol. Mae rhai fforymau'r bobl hyn yn cynnwys lefelau brawychus o gasineb at fenywod, iaith casineb a thrais. Mae'r ymddygiadau hyn yn deillio o ddrwgdybiaeth ddofn o fenywod ac ymdeimlad o erledigaeth sy'n gysylltiedig â'r mudiad ffeministaidd.
Yr astudiaeth yw'r ymchwiliad ffurfiol cyntaf o seicoleg canfod cariad incels ac mae'n archwilio agweddau seicolegol ar eu trafferthion, gan ganolbwyntio ar eu rhesymau canfyddedig am fod yn sengl, eu gwerth fel cymar rhamantaidd yn eu tyb eu hunain, eu dewisiadau caru, a'u canfyddiadau am ddewisiadau menywod wrth ganfod cariad.
Mae canfyddiadau o'r astudiaeth, a arolygodd 151 o incels a 149 o bobl eraill o bedwar ban byd, yn datgelu bod incels yn gwneud camdybiaethau sylfaenol ynghylch yr hyn y mae menywod yn chwilio amdano mewn cymar rhamantaidd. Maent yn rhoi gormod o bwyslais ar bwysigrwydd atyniad corfforol ac adnoddau ariannol, ac nid ydynt yn rhoi digon o bwyslais ar bwysigrwydd deallusrwydd, caredigrwydd, digrifwch a theyrngarwch i fenywod.
Ar ben hynny, yn groes i naratifau'r cyfryngau prif ffrwd, mae gan incels safonau is am bartneriaid o'u cymharu â phobl nad ydynt yn sengl yn anwirfoddol ac maent yn dioddef o amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder difrifol, gorbryder ac unigrwydd. Hefyd, mae gan gyfran sylweddol o incels nodweddion sy'n gysylltiedig ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Er bod cyffredinrwydd byd-eang awtistiaeth yn 0.62 y cant fel arfer, canfu astudiaeth yn 2022 fod 18.38 y cant o'r incels yn ei sampl wedi cael diagnosis ffurfiol, a bod 24.6 y cant yn ychwanegol wedi dangos symptomau a oedd yn awgrymu anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
Meddai William Costello, prif awdur yr astudiaeth a chydymaith ymchwil er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r ymchwil hon yn gam hollbwysig tuag at ddeall y problemau y mae incels yn eu hwynebu ac yn eu peri mewn cymdeithas. Yn ôl y disgwyl, mae gan incels ymdeimlad isel o'u gwerth eu hunain fel cymar. Ond yn ddiddorol, mae tystiolaeth yn dangos bod dynion fwyaf tebygol o deimlo casineb at fenywod pan fyddan nhw'n amau eu hatyniad i bartneriaid benywaidd a bod aros yn sengl yn anwirfoddol – yn annibynnol ar hunaniaeth incel – yn rhagfynegi casineb at fenywod. Mae'r casineb at fenywod sy'n trwytho rhan helaeth o’r gymuned incels yn debygol o adlewyrchu diffyg hyder y bobl hyn yn eu gwerth fel cymar. Mae hyn yn golygu y byddai helpu incels i fod yn fwy hyderus yn eu gwerth fel cymar a'u rhagolygon caru eu hunain yn arwain at y budd ychwanegol o leihau enghreifftiau niweidiol o gasineb at fenywod.”
Meddai Dr Andrew Thomas, uwch-ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae ein canfyddiadau'n amlygu pwysigrwydd teilwra cymorth iechyd meddwl i incels gan ei bod hi'n ymddangos eu bod nhw’n gwneud camdybiaethau penodol wrth feddwl am faterion canfod cariad a allai effeithio ar eu perthnasoedd rhyngbersonol. Gallai'r rhain gael eu targedu gan ddefnyddio ymyriadau sy'n seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol er mwyn helpu i gywiro'r camdybiaethau hyn o ran deall meddyliau a tharfu ar y duedd i ddehongli tystiolaeth mewn modd sy'n cadarnhau rhagfarnau ac yn tanio credoau gwenwynig. Ar yr un pryd, gwnaethon ni hefyd ganfod bod dynion sengl eraill yn gwneud camdybiaethau tebyg, ond i raddau llai, gan awgrymu y gallai ymyriadau o'r fath fod yn ddefnyddiol i bobl sengl yn ehangach.”
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr astudiaeth gyflawn, ‘The Mating Psychology of Incels (Involuntary Celibates: Misfortunes, Misconceptions, and Misrepresentations’, a gyhoeddwyd yn The Journal of Sex Research.