Mae tri ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan eu galluogi nhw i barhau ymhellach â'u hymchwil.
Mae Caitlin Tanner yn archwilio profiadau nyrsys byddar, mae Jason Pitt yn astudio diabetes math 1 ac mae Laura Hughes-Dowdle yn ymchwilio i ynni'r gwynt a mawrdiroedd.
Bydd y tri ohonynt yn gallu parhau â'u gwaith, diolch i gyllid gwerth cyfanswm o £1,500 a ddyfarnwyd gan Y Cwmni yn dilyn cystadleuaeth a oedd ar agor i ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd.
Mae Caitlin Tanner yn nyrs staffio gofal dwys cymwysedig sy'n gwneud PhD ar brofiadau nyrsys byddar yn y DU. Mae hi'n disgrifio ei gwaith fel a ganlyn:
“Fel ymchwilydd PhD sy'n hynod fyddar yn y ddwy glust ac sy'n nyrs cymwysedig, mae fy mhrofiad o'r heriau mae pobl fyddar yn eu hwynebu yn ddigynsail. Mae tystiolaeth gyfyngedig o’r heriau mae nyrsys byddar yn eu profi a'r hyn sy'n eu helpu i barhau yn y swydd.
Nod fy ngwaith i yw cefnogi cyflogaeth nyrsys byddar yng Nghymru a gwella safon y gofal i gleifion, er enghraifft, drwy gadw nyrsys profiadol a allai fod wedi datblygu colled clyw o ganlyniad i heneiddio, gan eu gwneud yn llai tebygol o adael oherwydd nad oes cymorth ar gael.
Mae’r dyfarniad gan Gwmni’r Lifrai wedi ei gwneud hi'n bosib i mi fynd i Gynhadledd Academyddion Byddar yn Fiena, a oedd yn gyfle hanfodol i gysylltu ag academyddion byddar eraill a sefydlu partneriaethau rhyngwladol posib â nhw."
Mae Jason Pitt yn esbonio ei waith ymchwil i’r ffordd orau o helpu pobl â diabetes math 1 i reoli eu cyflwr wrth wneud ymarfer corff:
"Gan adeiladu ar y berthynas bresennol rhwng Prifysgol Abertawe a Chanolfan Diabetes Steno Copenhagen (SDCC), Denmarc, bydd fy nyfarniad yn fy ngalluogi i ymweld â'r SDCC. Mae'r SDCC yn ganolfan lle cynhelir ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang i dechnoleg therapi inswlin newydd a ddefnyddir gan bobl â diabetes math 1.
Byddai fy ymweliad i'n rhoi cyfle i mi ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio'r dechnoleg hon mewn perthynas ag ymarfer corff a byddai'n cynnig cyfleoedd rhwydweithio a chydweithio newydd i’m prosiect presennol ym Mhrifysgol Abertawe. Ein nod, drwy gydweithio, yw helpu i ddarparu gwybodaeth bellach ar y defnydd o inswlin mewn perthynas ag ymarfer corff i helpu pobl â diabetes math 1 i reoli eu cyflwr."
Amlinellodd Laura Hughes-Dowdle sut y bydd ei gwaith ymchwil hi'n llywio gwaith adfer mawndiroedd ar fferm gwynt yn ne Cymru:
“Mawndiroedd yw'r ecosystem dirol fwyaf cyfoethog o ran carbon ar y ddaear.Fodd bynnag, mae coedwigaeth eang ar fawndiroedd yn ystod y ganrif ddiwethaf wedi achosi dirywio helaeth mewn mawndiroedd, gan beri pryderon amgylcheddol difrifol sy'n cynnwys colli bioamrywiaeth ac allyriadau carbon.
Mae Pen y Cymoedd yn rhanbarth uwchdir â mawndir sy'n bodoli ar y cyd â fferm gwynt unigryw Vattenfall. Mae prosiect adfer mawr, amlbartneriaeth ar y gweill i adfer mawndiroedd sydd wedi'u coedwigo yma. Mae ein gwaith ymchwil ni'n defnyddio dulliau geoffisegol arloesol i asesu hydroleg mawndiroedd a llywio gwaith adfer mawndiroedd yn well.
Mae'r dyfarniad wedi fy nghefnogi i fynd i gynhadledd ryngwladol yng Nghroatia, a oedd yn canolbwyntio ar uwchraddio ynni gwynt mewn ffordd gynhwysol o ran byd natur."
Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ym 1993 ac un o'i nodau yw "hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru." Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau drwy raglen dyfarniadau flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaethau a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Rhagor o wybodaeth am Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru
Meddai Meistr y Cwmni, yr Uwchgapten John Charles, am y dyfarniadau hyn a roddwyd i Caitlin, Laura a Jason:
"Un o nodau'r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i barhau â phrosiect penodol. Rydym ni'n codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol niferus a thrwy ymestyn allan, nid yn unig i'n lifreiwyr am gymorth ariannol, ond hefyd i'r gymuned ehangach yng Nghymru drwy wahodd cylchoedd busnes, sefydliadau a mudiadau eraill yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru, i gefnogi ein gweithgareddau.
Mae'r holl brosiectau cyffrous hyn yn dangos sut y gall gwaith o'r radd flaenaf wneud cyfraniad hollbwysig at ymchwil yng Nghymru. Rydym ni hefyd wrth ein boddau‘n gallu cefnogi Caitlin, Laura a Jason i barhau â'u prosiectau ymchwil."