Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd er mwyn eu deall a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.
Crëwyd Platfform Ymchwil Clefydau Prin y DU, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, drwy fuddsoddiad gwerth £14m dros bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Mae Abertawe bellach yn gweithredu un o 11 canolfan arbenigol y platfform mewn prifysgolion ledled y DU sy'n cynnig arbenigeddau gwahanol. Nod canolfan Abertawe yw cyflwyno gwyddor lipidomig sy'n seiliedig ar sbectrometreg màs i faes ymchwil i glefydau prin er mwyn hwyluso diagnosisau ac ymyriadau cynharach a chanlyniadau clinigol gwell.
Wrth agor canolfan Abertawe yn swyddogol ddydd Iau 7 Rhagfyr, meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae ymchwil i glefydau prin yn hanfodol er mwyn pennu diagnosisau yn gynt a gwella triniaethau a gofal ac rwyf wrth fy modd bod Abertawe wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
“Dyma gyflawniad gwych i'r tîm a bydd yn dod â'r bobl, y cleifion, y rhanddeiliaid a'r technolegau cywir ynghyd i gyflawni ymchwil sy'n cael mwy o effaith ac yn darparu dealltwriaeth werthfawr o'r hyn sy'n achosi'r clefydau a'u datblygiad, yn ogystal â chyflyrau mwy cyffredin, er mwyn hwyluso'r diagnosisau a'r ymyriadau cynharach a'r canlyniadau clinigol gwell rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw.
Meddai'r Athro Griffiths, Cyfarwyddwr y ganolfan a arweinir gan Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi lansio canolfan Abertawe heddiw. Un o'n cryfderau academaidd go iawn yn ne Cymru yw ymchwil lipidomig lle rydyn ni'n edrych ar frasterau yn y corff sy’n cyfrannu at weithrediadau iach y corff, ond sy'n gallu achosi clefydau os nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio'n gywir.”
Meddai'r Athro Wang, cyd-ymchwilydd: “Mae'r grantiau gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn hwb go iawn i ymchwil yng Nghymru a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru, ochr yn ochr â'n partneriaid yn UCL a Phrifysgol Manceinion, i gyflawni’r prosiectau.”
Nod Platfform Ymchwil Clefydau Prin y DU yw dod â'r timau ynghyd â'r bobl, y cleifion, y rhanddeiliaid a'r technolegau cywir i gyflawni ymchwil sy’n cael mwy o effaith.
Mae clefyd prin yn un sy'n effeithio ar lai nag un o bob 2,000 o bobl. Fodd bynnag, mae miloedd o'r cyflyrau hyn, ac mae clefyd prin yn effeithio ar oddeutu un o bob 17 o bobl yn y DU. Mae mwy na 30 y cant o blant â chlefyd prin yn marw cyn iddynt gyrraedd pump oed.
Meddai'r Athro John Iredale, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol: “Mae gan y DU gryfderau mawr o ran ymchwil i glefydau prin. Bydd y platfform yn dod â phobl at ei gilydd, yn cysylltu cyfranogwyr ag adnoddau a gweithgareddau yn y DU ac yn rhyngwladol, ac yn cefnogi prosiectau sy'n gwella ymchwil i glefydau prin.”