-
15 Tachwedd 2024EHB Duges Caeredin yn dychwelyd i'r Brifysgol i gefnogi prosiect unigryw sy'n helpu dioddefwyr trais rhywiol
Mae cydweithrediad rhyngwladol arloesol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, i helpu dioddefwyr trais rhywiol mewn ardaloedd gwrthdaro wedi croesawu ymweliad gan EHB Duges Caeredin.
-
14 Tachwedd 2024Niwrowyddonydd Abertawe'n derbyn Dyfarniad Fulbright i gynnal ymchwil mewn sefydliad o fri yn yr Unol Daleithiau
Mae Dr Jeff Davies o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn Dyfarniad Ysgolhaig Holl Ddisgyblaethau Fulbright o fri, a fydd yn ei alluogi i gynnal ymchwil yn y gyfadran niwrowyddoniaeth fyd-enwog yn Sefydliad Salk yn San Diego, Califfornia.
-
14 Tachwedd 2024Prifysgol Abertawe'n derbyn dyfarniad newydd gan UKRI i hyfforddi arweinwyr y dyfodol mewn gwyddor amgylcheddol
Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) UKRI wedi dyfarnu cyllid i Brifysgol Abertawe a'i phartneriaid i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr o safon fyd-eang i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang.
-
14 Tachwedd 2024Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn symud i gartref newydd yng nghanol y ddinas
Bydd y Storfa, hwb cymunedol newydd yng nghanol dinas Abertawe, yn gartref newydd i gyfleuster sy'n helpu i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth.
-
7 Tachwedd 2024Prinder critigol mewn adnoddau triniaeth canser ar draws gwledydd a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd, yn ôl astudiaeth Lancet newydd
Mae astudiaeth newydd a arweinir gan Brifysgol Rhydychen ac sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi canfod bod prinder ac anghysonderau mewn offer a staff yn cael effaith ar driniaeth canser mewn deuddeg o wledydd a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd gynt.
-
7 Tachwedd 2024Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n lansio hyb biodechnoleg £4.5m newydd ym Mhrifysgol Abertawe
Lansiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, y BioHYB Cynhyrchion Naturiol (NP BioHUB) ym Mhrifysgol Abertawe yn swyddogol ddydd Iau 7 Tachwedd.
-
7 Tachwedd 2024Tanya Pengelly yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 â stori 'emosiynol syfrdanol' wedi'i hysgrifennu er cof am ei diweddar dad
Mae'r llenor o Gymru Tanya Pengelly wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 am ei stori, 'A Dictionary of Light', a ysgrifennwyd er cof am ei thad.
-
6 Tachwedd 2024Cyswllt ag arbenigwyr y brifysgol yn rhoi cwmni technoleg gofal iechyd lleol ar lwybr at ragor o lwyddiant
Mae cydweithrediad ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu cwmni technoleg gofal iechyd lleol i symud gam ymhellach at eu nod o drawsnewid gofal cleifion, drwy wella eu hymchwil a'u gallu i arloesi, a sicrhau dyfarniad £50,000 pellach i wella technolegau presennol.
-
4 Tachwedd 2024Toddlers, Tech and Talk: astudiaeth arloesol o sut mae plant dan dair oed yn defnyddio technoleg
Mae astudiaeth fawr, y gyntaf o'i bath, wedi datgelu mewnwelediadau allweddol ynghylch i ba raddau y mae gan blant o dan dair oed fynediad at dechnoleg ddigidol yn y cartref, sut maen nhw'n ei defnyddio a sut mae'n ategu datblygiad eu hiaith.
-
1 Tachwedd 2024Menter diagnosio canser y prostad a gyd-ddatblygwyd gan Brifysgol Abertawe yn cael ei dathlu yng Ngwobrau GIG Cymru
Mae gwaith Prifysgol Abertawe i helpu i wella diagnosio canser y prostad wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.
-
28 Hydref 2024Yr Athro'r Fonesig Wendy Hall yn trafod geowleidyddiaeth y rhyngrwyd a'i heffaith ar AI mewn darlith yn Abertawe
Bydd yr Athro'r Fonesig Wendy Hall, DBE, FRS, FREng, sy'n awdurdod blaenllaw ym maes Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chyfrifiadureg, yn traddodi Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe.
-
25 Hydref 2024Hwb i ymchwil sy'n cefnogi pobl anabl yng Nghymru drwy ddyfarniad gan y Cwmni Lifrai
Mae arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl anabl wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan ei galluogi i ddatblygu ei hymchwil ymhellach.
-
23 Hydref 2024O blant bach a thechnoleg i'r gymdogaeth berffaith – gŵyl yn rhoi cyfle i'r cyhoedd archwilio gydag arbenigwyr y brifysgol
A yw'n iawn i blant bach fod yn defnyddio technoleg? A all eich plant helpu i ddylunio'r gymdogaeth berffaith? Sut mae codio cyfrifiadurol yn gweithio? Mae gan y cyhoedd yn Abertawe ac ar draws y rhanbarth gyfle i ddysgu rhagor am yr holl gwestiynau hyn a mwy, drwy weithgareddau ar gyfer pob oedran, mewn cyfres o ddigwyddiadau am ddim rhwng 27 Hydref ac 8 Tachwedd.
-
17 Hydref 2024Astudiaeth yn datgelu cynnydd 60% mewn allyriadau CO2 byd-eang o danau coedwig
Mae astudiaeth bwysig newydd a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Stefan Doerr, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt, ym Mhrifysgol Abertawe'n datgelu bod allyriadau carbon deuocsid (CO2) o danau coedwig wedi cynyddu 60 y cant yn fyd-eang ers 2001, gan dreblu bron mewn rhai o'r coedwigoedd boreal gogleddol.
-
15 Hydref 2024Degawd o ddarparu ar gyfer myfyrwyr ac ymchwil – partneriaeth rhwng Abertawe a Houston yn dathlu carreg filltir deng mlynedd
Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a dau sefydliad yn Houston, Tecsas, sydd wedi cyflawni buddion i fyfyrwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru ac UDA, yn dathlu ei 10fed pen-blwydd.
-
15 Hydref 2024Arweinwyr Gofal Iechyd y Dyfodol: Myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi'u dethol ar gyfer rhaglen genedlaethol o fri
Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi'u gwahodd i ymuno â Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cyngor y Deoniaid Iechyd. Mae hon yn rhaglen nodedig â'r nod o feithrin a datblygu sgiliau'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth a'r proffesiynau perthynol i iechyd.
-
10 Hydref 2024Llawfeddyg plastig yn arwain taith i drosglwyddo sgiliau hanfodol i helpu dioddefwyr trais rhywiol
Mae rôl y DU ar flaen y gad o ran gweithredu byd-eang i fynd i'r afael â thrais rhywiol mewn gwrthdaro wedi arwain at genhadaeth unigryw i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
-
9 Hydref 2024Bydd partneriaeth ryngwladol bwysig yn ysgogi arloesi data iechyd byd-eang
Bydd Prifysgol Abertawe'n chwarae rhan allweddol mewn partneriaeth newydd ym maes gofal iechyd a gwyddor data rhwng y DU a Singapore.
-
8 Hydref 2024Sut y gall treftadaeth wella bywydau yng Nghymru heddiw
Mae treftadaeth gyfoethog Cymru yn fwy nag arwydd o'r gorffennol, mae'n ased gwerthfawr a all wella bywydau yng Nghymru heddiw, gan hybu iechyd, gwydnwch a lles, yn ôl tystiolaeth newydd gan brosiect arloesol yng Nghwm Nedd.
-
7 Hydref 2024Canolfan Eifftaidd yn ennill hwb ariannol mawr i wella cyfleusterau
Bydd ymwelwyr ag amgueddfa boblogaidd yn Abertawe yn y dyfodol yn gallu profi synau ac arogleuon yr hen Aifft, diolch i gymorth gwerth £300,000 gan Lywodraeth Cymru.
-
7 Hydref 2024BioHYB Cynhyrchion Naturiol Abertawe'n sicrhau cyllid UKRI gwerth £4.5m i hybu’r economi werdd
Mae BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £4.5m fel rhan o fenter Cyflymu Economïau Gwyrdd UKRI.
-
4 Hydref 2024Astudiaeth yn datgelu sut mae parasitiaid yn ffynnu trwy gydbwyso arbenigo â manteisio ar gymunedau rhywogaethau amrywiol
Gall un symudiad parasit o un rywogaeth letyol i'r llall sbarduno achosion o glefydau heintus trychinebus. Er gwaethaf hyn, mae gwyddonwyr yn parhau i drafod rôl amrywiaeth rhywogaethau mewn amgylcheddau naturiol yn ymlediad y parasitiaid hyn.
-
4 Hydref 2024Disgyblion Ysgolyn mynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd byd-eang yng ngŵyl beirianneg Prifysgol Abertawe
Mae disgyblion ysgol o Gymru wedi bod yn archwilio sut i gyflawni byd mwy cynaliadwy drwy lens deunyddiau, diolch i ŵyl Prifysgol Abertawe lle cafodd pob disgybl microsgop bach fel rhodd am ddim.
-
2 Hydref 2024Addysg i blant y mae gwrthdaro ac argyfwng yn effeithio arnynt - Abertawe'n cynnal digwyddiad i arbenigwyr rhyngwladol
Sut i ddiwallu anghenion addysgol plant y mae gwrthdaro ac argyfwng yn effeithio arnynt oedd testun digwyddiad i arbenigwyr rhyngwladol ar 16 ac 17 Medi, a gynhaliwyd gan Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe.
-
25 Medi 2024Taith gerdded ar y traeth yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad
Mae Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi cydweithio â PAPYRUS i gynnal taith gerdded ar y traeth i helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
-
23 Medi 2024Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar gyfer 2024
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe hirddisgwyliedig yn dychwelyd, gan argoeli i fod yn daith wefreiddiol i fyd difyr gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref.
-
23 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n croesawu arbenigwr byd-enwog ym maes seiberddiogelwch modurol fel Athro Gwadd
Mae un o beirianwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes seiberddiogelwch modurol wedi ymuno ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe fel rhan o Gynllun Athrawon Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg ar gyfer 2024/25.
-
20 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n cynnal cynhadledd fawr ar gyfer arbenigwyr mewn dulliau gwyrddach o reoli plâu
Daeth dros 200 o arbenigwyr mewn rheoli plâu at ei gilydd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2 a 4 Medi am gynhadledd fawr i annog arloesedd yn y maes.
-
20 Medi 2024Abertawe'n cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025
Mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025 gan The Times and The Sunday Times.
-
19 Medi 2024“Mae hi wedi fy ngwneud yn fwy hyderus” – 137 o bobl ifanc leol yn graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen ar gyfer ehangu mynediad i'r Brifysgol
Mae dros 100 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws de-orllewin Cymru wedi dathlu graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, mewn seremoni arbennig o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
-
19 Medi 2024Cyhoeddi rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024
Cyhoeddir rhestr fer 2024 gwobr uchel ei bri Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies heddiw, dydd Iau 19 Medi.
-
17 Medi 2024Prif Weinidog Cymru'n ymweld â'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Bu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn cwrdd â nyrsys dan hyfforddiant a chafodd daith o'r Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) ar ymweliad diweddar â'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
-
13 Medi 2024Ymchwil i ddefnyddio tystiolaeth o ffonau symudol mewn achosion hawliau dynol ar restr fer Gwobr Effaith uchel ei bri
Mae ymchwil sy'n helpu'r CU a llysoedd ledled y byd i asesu tystiolaeth o ffonau symudol wrth erlyn troseddau rhyfel ac achosion hawliau dynol eraill, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr uchel ei bri sy'n amlygu effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
-
12 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n cadw ei safle fel Prifysgol Orau Cymru yn ôl The Guardian University Guide
Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol Orau Cymru, yn ôl The Guardian University Guide 2025.
-
11 Medi 2024Cynllun llogi beiciau ar ei newydd wedd yn dychwelyd
Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn ôl yn fuan ac ar gael i'w llogi, unwaith eto'n cynnig ffordd hwylus a fforddiadwy o deithio ar draws y ddinas.
-
11 Medi 2024Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe'n derbyn adroddiad ardderchog gan Estyn
Mae Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi ysgrifennu adroddiad hynod galonogol ar Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), gan ganmol y profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol a gyflwynir drwy ei rhaglenni Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).
-
10 Medi 2024Cemeg, troseddeg a sut i gysgu'n well - y cyrsiau sydd ar gael i bawb ar gyfer Wythnos Dysgu Oedolion
Boed yn droseddeg neu gemeg neu ddysgu sut i gysgu'n well, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyrsiau sydd am ddim ac ar gael i bawb, fel rhan o Wythnos Dysgu Oedolion, a gynhelir rhwng 9 ac 15 Medi.
-
6 Medi 2024Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n taflu goleuni ar sut gall ynni solar a ffermio gyd-fodoli
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu offeryn newydd i helpu i nodi deunyddiau ffotofoltäig (PV) optimaidd sy'n gallu uchafu twf cnydau gan gynhyrchu ynni solar ar yr un pryd.
-
6 Medi 2024Ymchwilwyr yn creu fframwaith newydd i helpu i ddeall sut mae cymunedau microbaidd yn datblygu
Mae bron pob organedd amlgellog ar y ddaear yn byw mewn cysylltiad symbiotig â chymunedau microbaidd mawr a chymhleth iawn o'r enw microbiomau.
-
4 Medi 2024Cyllid newydd i helpu Technocamps i roi hwb i sgiliau digidol lleol
Mae Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid sylweddol gan awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyflwyno hyfforddiant sgiliau digidol arloesol i bobl ifanc ac oedolion. Bydd y cyllid, sy'n werth dros £700,000, yn cael ei ddefnyddio i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r nod yw gwella llythrennedd digidol yn y rhanbarth.
-
2 Medi 2024Mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn dod at ei gilydd i lanhau adeiladau uchel y byd
Bydd Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o gydweithrediad i fynd i'r afael ag allyriadau hinsawdd byd-eang drwy archwilio dull gwahanol o adeiladu adeiladau uchel.
-
3 Medi 2024Ffordd fwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu - cwmni a ddechreuwyd ym Mhrifysgol Abertawe'n mynd yn fyd-eang drwy gytundebau allforio
Mae cwmni a sefydlwyd gan ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, sydd wedi patentu ffordd fwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu, wedi mynd yn fyd-eang yn ddiweddar, drwy lofnodi cytundebau allforio ledled y byd.
-
29 Awst 2024Arch yn dychwelyd i'r Ganolfan Eifftaidd o'r diwedd ar ôl prosiect adfer rhyfeddol
Mae arch hynafol o'r Hen Aifft wedi dychwelyd i Abertawe ar ôl prosiect llafurus 26 o flynyddoedd i'w hadfer.
-
29 Awst 2024Ymchwilwyr yn datgelu technoleg graffîn y gellir ei rhoi ar waith ar raddfa i chwyldroi diogelwch a pherfformiad batris
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Technoleg Wuhan, Prifysgol Shenzhen, wedi datblygu techneg arloesol ar gyfer cynhyrchu casglwyr cerrynt graffîn ar raddfa fawr.
-
23 Awst 2024Llawlyfr newydd yn rhoi awgrymiadau hanfodol i fyfyrwyr awtistig sy'n mynd i'r brifysgol
Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad brawychus i unrhyw fyfyriwr, yn enwedig os yw'n cynnwys symud oddi cartref am y tro cyntaf. Nawr, mae llyfr newydd yn ceisio gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl ifanc awtistig wrth iddynt ddechrau eu hantur academaidd.
-
23 Awst 2024Teclyn Deallusrwydd Artiffisial y cyntaf o'i fath yn cynnig mesuriad amser go iawn o hapusrwydd cenedlaethol
Mae tîm ymchwil rhyngwladol wedi dadorchuddio teclyn deallusrwydd artiffisial arloesol i fesur lefelau hapusrwydd cenedlaethol amser go iawn.
-
16 Awst 2024Yn gyflymach nag un picsel ar y tro - dull delweddu newydd ar gyfer microsgopau pelydryn atomig niwtral a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Abertawe
Gall lluniau o ficrosgopau gael eu tynnu'n llawer cyflymach - yn hytrach nag un picsel ar y tro - diolch i ddull delweddu newydd microsgopau pelydryn atomig niwtral a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe. Gallai arwain yn y pen draw at ganlyniadau cyflymach i beirianwyr a gwyddonwyr wrth iddynt sganio samplau.
-
15 Awst 2024Adroddiad yn datgelu dylanwad newid yn yr hinsawdd ar danau gwyllt yn ystod 2023-24
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwil newydd sy'n tynnu sylw at weithgarwch tanau gwyllt a rôl newid yn yr hinsawdd wrth eu hachosi.
-
14 Awst 2024Anrhydeddu'r Brifysgol am ddarparu mannau gwyrdd i bawb
Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau gwobr y Faner Werdd sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn rheoli a datblygu tiroedd.
-
9 Awst 2024Arbenigwyr yn darparu o dystiolaeth o’r rôl mae testosteron yn ei chwarae wrth atal Covid difrifol
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu gwybodaeth bwysig am sut gall lefel testosteron claf helpu i'w amddiffyn rhag Covid-19 difrifol.
-
7 Awst 2024Cyswllt annisgwyl rhwng ymddygiad glanhau a straen ffisiolegol mewn babŵns gwyllt
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu perthynas annisgwyl rhwng ymddygiad glanhau a straen ffisiolegol mewn babŵns gwyllt benywaidd, sy'n mynd i’r afael â bwlch allweddol yn ein dealltwriaeth o sut mae bywyd cymdeithasol yn gysylltiedig ag iechyd a ffitrwydd anifeiliaid.
-
6 Awst 2024Arwr Cymru a'r Llewod, Alun Wyn Jones , yn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Cynghorydd Strategol
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a chyn-fyfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, Alun Wyn Jones, wedi derbyn rôl Cynghorydd Strategol yn y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH) ym Mhrifysgol Abertawe.
-
6 Awst 2024"Rwy'n mwynhau'n fawr!" Disgyblion ysgol yn mwynhau rhagflas tri diwrnod o fywyd yn y Brifysgol
O ddysgu yn y labordai i chwarae pŵl gyda ffrindiau, cafodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Dylan Thomas yn Abertawe flas ar yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr yn ystod arhosiad tri diwrnod o hyd diweddar ar y campws, wedi'i ddylunio i roi blas o fywyd yn y brifysgol iddynt.
-
31 Gorffennaf 2024Gwahoddir busnesau rhanbarth Abertawe i hybu cynaliadwyedd drwy Raglen Twf Glân
Mae busnesau a sefydliadau'r trydydd sector ledled de Cymru yn cael cyfle i hybu arloesedd, meithrin gwydnwch a gwneud cysylltiadau gwerthfawr â chymorth arbenigwyr economi gylchol y Brifysgol.
-
30 Gorffennaf 2024Cyffur afiechyd y croen yn dangos addewid er mwyn trin diabetes mewn plentyndod
Mae cyffur a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer trin psorïasis yn effeithiol er mwyn trin camau cynnar diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc yn ôl treial clinigol newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd gyda chymorth Uned Dreialon Abertawe (STU) a Labordy’r Grŵp Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe.
-
26 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i eicon y sin Gymraeg, Huw Chiswell
Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Doethuriaeth mewn Llên er Anrhydedd i Huw Chiswell, gan gydnabod ei yrfa nodedig ym myd cerddoriaeth a'r celfyddydau creadigol, yn ogystal â'i statws eiconig yn niwylliant yr iaith Gymraeg.
-
25 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu cadwraethwr eliffantod blaenllaw Dr Kate Evans
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Dr Kate Evans, un o gyn-fyfyrwyr nodedig y Brifysgol, sy'n sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol yr elusen, Elephants for Africa.
-
25 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n dyfarnu gradd er anrhydedd i gadwraethwr diogod sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang
Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Dr Rebecca Cliffe gan Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith sy’n torri tir newydd ym maes cadwraeth diogod.
-
25 Gorffennaf 2024O frwydro i'r ystafell ddosbarth:Taith ysbrydoledig un o raddedigion Abertawe
Mae cyn-feddyg gyda'r Fyddin wedi graddio o Brifysgol Abertawe ar ôl gadael yr ysgol heb Safon Uwch, ac erbyn hyn bydd yn hyfforddi i fod yn athrawes, gan annog pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion.
-
25 Gorffennaf 2024Treftadaeth a rennir mam a merch o Singapore ym Mhrifysgol Abertawe
Mae stori anhygoel am gysylltiadau rhwng-genedlaethol rhwng Prifysgol Abertawe a Singapore wedi cyrraedd pennod hyfryd newydd, wrth i ferch raddio o'r un brifysgol â'i mam 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
-
25 Gorffennaf 2024Gwreiddio Menter Plannu Coed Graddio newydd i raddedigion Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd cam newydd tuag at ddyfodol gwyrddach trwy blannu dros 300 o goed, un ar gyfer pob myfyriwr sy'n graddio o'i Hysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yr wythnos hon.
-
23 Gorffennaf 2024Newidiadau ar y ffordd wrth i gynllun llogi beiciau poblogaidd y ddinas gael ei ailwampio
Ar ôl chwe blynedd lwyddiannus, mae cynllun llogi beiciau poblogaidd Abertawe yn cael enw newydd ac uwchraddiad mawr i wella ei wasanaeth i ddefnyddwyr ledled y ddinas.
-
19 Gorffennaf 2024Llyfr newydd yn helpu i bontio'r bwlch cyfathrebu rhwng pobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig
Bydd pobl awtistig yn aml yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol ond erbyn hyn mae llyfr newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio gwella dealltwriaeth rhwng niwroteipiau.
-
17 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n dringo i'r pumed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Enwyd Prifysgol Abertawe'n un o'r 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LHDTC+ am yr wythfed tro yn olynol.
-
17 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024.
-
15 Gorffennaf 2024Tiwnig wedi'i hadfer bellach yn ôl i'w gweld yn y Ganolfan Eifftaidd
Mae tiwnig brin bellach yn ôl ac yn cael ei harddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe ar ôl dwy flynedd o waith adfer helaeth.
-
15 Gorffennaf 2024Gan gyflwyno NNIISH: oes newydd ar gyfer arloesi mewn chwaraeon a thechnoleg iechyd yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.
-
10 Gorffennaf 2024Safleoedd Prifysgolion Ewrop QS yn gosod Prifysgol Abertawe ymysg y 100 sefydliad gorau
Mae Prifysgol Abertawe wedi'i gosod ymysg y 100 prifysgol orau yn Ewrop, yn ôl ail rifyn o Dablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.
-
9 Gorffennaf 2024Y Brifysgol yn dathlu llwyddiant dwbl mewn cystadleuaeth awyrofod
Cafodd myfyrwyr Prifysgol Abertawe eu hanrhydeddu mewn her unigryw â’r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.
-
8 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn agor canolfan Bilingualism Matters cyntaf Cymru
Mae'r sefydliad byd-eang ymchwil a chefnogaeth i amlieithrwydd Bilingualism Matters yn agor ei ganolfan gyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe.
-
2 Gorffennaf 2024Symud y tu hwnt i hafaliad celloedd solar 80 mlwydd oed
Mae ffisegwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Åbo Akademi wedi torri tir newydd sylweddol mewn technoleg celloedd solar drwy ddatblygu model dadansoddol newydd sy'n gwella dealltwriaeth o ddyfeisiau ffotofoltäig ffilm denau a’u heffeithlonrwydd.
-
1 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n lansio gradd Cyfraith Forwrol arloesol mewn partneriaeth â Phrifysgol Dalian Maritime
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi lansiad swyddogol gradd israddedig ddwbl arloesol (LLB Cyfraith Forwrol) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Dalian Maritime (DMU), Tsieina, a bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2024.
-
27 Mehefin 2024Tîm Abertawe'n dathlu ar ôl codi mwy nag £20,000 yn yr Hanner Marathon eleni
Mae staff, myfyrwyr a ffrindiau a gymerodd ran yn Hanner Marathon Prifysgol Abertawe eleni wedi rhagori ar eu targed codi arian a chasglu mwy nag £20,000 i hybu gofal a chymorth ar gyfer iechyd meddwl.
-
27 Mehefin 2024Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n arddangos effaith gydweithredol fawr
Yn ystod Seremoni'r Gwobrau Ymchwil ac Arloesi, amlygwyd amrywiaeth anhygoel yr ymchwil a'r arloesi a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnwys: canfod achosion o dorri hawliau dynol, gwarchod treftadaeth mewn ardaloedd gwrthdaro, seiberdroseddau, newid yn yr hinsawdd, atal datgoedwigo, diogelu plant ar-lein, darparu addysg sy'n seiliedig ar efelychu, cyflwyno prosiectau gwyddoniaeth perfformiad cymhwysol sy'n arwain yn fyd-eang a datblygu ein dealltwriaeth o wrthfater.
-
27 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i hyrwyddo arferion asesu ymchwil yn y Deyrnas Unedig
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo arferion asesu ymchwil cyfrifol drwy greu Cangen Genedlaethol o'r Gynghrair Hyrwyddo Asesiadau Ymchwil (CoARA), a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe.
-
26 Mehefin 2024Prifysgol yn cynnal cynhadledd ryngwladol bwysig i arbenigwyr anatomeg
Disgwylir i arbenigwyr anatomeg o wledydd amrywiol ymgynnull yn Abertawe rhwng 27 a 30 Mehefin pan fydd y Brifysgol yn cynnal y 15fed Symposiwm Rhyngwladol Anatomeg Glinigol a Chymhwysol (ISCAA).
-
26 Mehefin 2024Partneriaeth hirdymor newydd yn hyrwyddo ymchwil i fioarmywiaeth afonydd a chadwraeth yn ne Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Chlwb Pysgota a Chadwraeth Cwm Afan (AVACC) wedi sefydlu partneriaeth hirdymor â'r nod o ddatblygu ymchwil ac ymdrechion cadwraeth o ran bioamrywiaeth afonydd yng nalgylch Afan a systemau afon tebyg eraill yn ne Cymru.
-
21 Mehefin 2024Anrhydeddu hyrwyddwyr y Gymraeg yng Ngwobrau'r Coleg Cymraeg
Dathlwyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Priya Dodyia, a'r uwch-ddarlithydd, Dr Alwena Morgan, yn seremoni wobrwyo flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cyfraniadau eithriadol.
-
21 Mehefin 2024Partneriaeth newydd prifysgol i ddarparu arbenigedd hyfforddi nyrsys ym Mauritius
Bydd nyrsys ym Mauritius yn gallu elwa o hyfforddiant gofal iechyd arobryn Prifysgol Abertawe fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol newydd.
-
21 Mehefin 2024Lled-ddargludyddion: ciosgau newydd yn defnyddio realiti rhithwir ac AI i esbonio sut maent yn gweithio a pham y maent yn hanfodol
Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn helpu pobl i ddysgu am dechnoleg lled-ddargludyddion, sy'n hanfodol i bopeth o ffonau symudol a cherbydau electronig i loerenni, drwy giosgau rhyngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Imersifi, cwmni realiti rhithwir ac arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
20 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe yn helpu i ddatblygu offeryn ar-lein sy'n paru pleidleiswyr â'u plaid wleidyddol ddelfrydol
Wrth i ni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod, mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi eu maniffestos, gan adael llawer o bobl mewn dryswch ynghylch pa blaid sy'n cydweddu orau â'u barn. I ymdrin â'r broblem hon, mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i greu offeryn pleidleisio ar-lein newydd.
-
19 Mehefin 2024Llyfr newydd yn archwilio rôl llywodraeth yr Unol Daleithiau mewn llofruddiaethau
Mae gan lywodraeth yr Unol Daleithiau hanes hir o ymwneud â llofruddiaethau ac ymgeisiau i gyflawni llofruddiaethau, o Fidel Castro i Qassem Soleimani yn 2020.
-
18 Mehefin 2024Terfysgaeth a'r cyfryngau cymdeithasol - Abertawe yn cynnal cynhadledd i arbenigwyr rhyngwladol
Sut mae grwpiau terfysgol yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir gwrthwynebu hyn, dyna ffocws cynhadledd ryngwladol bwysig yn Abertawe sy'n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technoleg blaenllaw o bedwar ban byd ynghyd.
-
17 Mehefin 2024Sut mae hyfforddiant efelychu o safon fyd-eang mewn prifysgol yn llywio ein gweithlu iechyd
Mae ymarferwyr proffesiynol gofal iechyd y dyfodol yn elwa nawr o fuddion cyfleusterau hyfforddi arloesol Prifysgol Abertawe.
-
17 Mehefin 2024Cyllid newydd i gefnogi Cymru i ddatblygu technoleg ynni morol arloesol
Mae Innovate UK wedi dyfarnu cyllid i optimeiddio ymhellach blatfform gwynt alltraeth arnofiol unigryw a hyblyg ar gyfer cymwysiadau yn y Môr Celtaidd yn rhan o gydweithrediad sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.
-
17 Mehefin 2024Ymchwilio i effaith problemau iechyd y geg ar bobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i amlygu'r heriau unigryw y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu wrth gynnal iechyd y geg a'r goblygiadau ehangach i'w lles cyffredinol.
-
14 Mehefin 2024Amrywiaeth swyddogaethol siarcod yn is nag erioed yn ystod y 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf
Mae ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Zurich wedi canfod bod siarcod wedi cadw lefelau uchel o amrywiaeth swyddogaethol am y rhan fwyaf o'r 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf, cyn dirywio'n gyson yn ystod y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y gwerth isaf a gofnodwyd erioed heddiw.
-
14 Mehefin 2024Astudiaeth o’r galon yn cynnig dealltwriaeth newydd o esblygiad dynol
Mae tîm ymchwil rhyngwladol o Brifysgol Abertawe ac UBC Okanagan (UBCO) wedi darganfod gwybodaeth newydd am esblygiad dynol drwy gymharu calonnau dynol â chalonnau epaod mawr eraill.
-
13 Mehefin 2024Gwelliant aruthrol i Brifysgol Abertawe yn Arolwg Effaith diweddaraf Times Higher Education
Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau safle 65 ar y cyd yn y byd ar gyfer cyfraniadau ystyrlon tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Arolwg Effaith Prifysgolion Times Higher Education (THE University Impact Rankings).
-
13 Mehefin 2024Tiwtor ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth o fri, Dysgwr y Flwyddyn
Mae Eli Staniforth, sy'n diwtor gyda Dysgu Cymraeg - Rhanbarth Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe, wedi cael ei dewis yn un o’r pedwar cystadleuydd yn rownd derfynol prif gystadleuaeth i ddysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr y mae cystadlu brwd amdani.
-
11 Mehefin 2024Pedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis i ymuno â rhaglen uchel ei bri Crwsibl Cymru
Mae pedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis i ymuno â Chrwsibl Cymru 2024, rhaglen arobryn sydd â'r nod o feithrin datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain ymysg arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
-
11 Mehefin 2024Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol yn ennill rownd derfynol cystadleuaeth 3MT
Mae Oli Fryatt, sy'n astudio am PhD mewn Peirianneg Fecanyddol, wedi ennill rownd derfynol cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
-
7 Mehefin 2024Prosiect newydd i ymdrin â chanfyddiadau pobl ifanc am ddiogelwch yn yr haul
Mae prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n gobeithio atal cynnydd pryderus canser y croen yng Nghymru drwy archwilio canfyddiadau presennol plant, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr am gael lliw haul. Bydd y canlyniadau'n helpu i ddatblygu pecyn cymorth addysgol newydd am ddiogelwch yn yr haul ar gyfer cwricwlwm Cymru.
-
4 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe'n dringo i'w safle uchaf erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS
Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i 298fed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan gyrraedd y 300 uchaf am y tro cyntaf a sicrhau ei safle uchaf erioed yn y tabl.
-
3 Mehefin 2024Astudiaeth yn dangos bod myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio'n fwy tebygol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer aseiniadau
Mae astudiaeth seicoleg gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio'n fwy tebygol o ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial – yn enwedig ChatGPT – ar gyfer aseiniadau academaidd, gan godi cwestiynau am uniondeb academaidd a'r angen am ymyriadau rhagweithiol.
-
30 Mai 2024Llwyddiant deublyg wrth i brosiect tagio pysgod y Brifysgol dderbyn £500,000 i gefnogi ei waith
Mae prosiect gan Brifysgol Abertawe i wella dealltwriaeth o ymddygiad pysgod mewn afonydd a moroedd yng Nghymru wedi cael ei hybu gan gyllid gwerth £500,000.
-
30 Mai 2024Morglawdd newydd a fydd yn gartref i fywyd morol – ymchwil wrth wraidd prosiect ecobeirianneg
Wrth i forglawdd newydd gael ei ddatblygu ym mhentref y Mwmbwls ym Mae Abertawe, mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut bydd ei ddyluniad yn helpu i annog bioamrywiaeth, diolch i ymchwil a chydweithredu gofalus.
-
29 Mai 2024Oluwaseun yn ceisio ysbrydoli myfyrwyr sy'n 'galon Abertawe'
Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Oluwaseun Ayodeji Osowobi, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i fod yn arweinwyr effeithiol yn ystod ymweliad diweddar â Champws Singleton pan gymerodd amser i gwrdd â myfyrwyr a recordio podlediad i fyfyrwyr.
-
28 Mai 2024Hyrwyddwyr Treftadaeth - Archifau yn cael eu cydnabod am warchod ein gorffennol
Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cadw deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn dathlu 10 mlynedd o statws achredu i gydnabod eu safonau uchel, o ran gofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.
-
24 Mai 2024Dangosiad cyntaf yn y Brifysgol o dymor newydd o brosiect ffilmiau dogfen i ddathlu Gŵyr
Bydd rhan ddiweddaraf prosiect ffilmiau unigryw sy'n cynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned i arddangos harddwch Gŵyr yn cael ei dangosiad cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe fis nesaf.
-
24 Mai 2024Prifysgol Abertawe'n dathlu rhifyn newydd o nofel arobryn ac ymchwil ddiweddar sy'n portreadu diwydiant dur de Cymru
Yn ddiweddar, ymunodd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Parthian Books â'r gymuned leol i archwilio llenyddiaeth a hanes Cymru a'i diwydiant dur.
-
23 Mai 2024Academydd o Brifysgol Abertawe yn datgan mewn llyfr newydd y bydd disgwyliad oes yn lleihau yn sgîl methiant polisïau iechyd
Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio pam mae ymagweddau iechyd cyhoeddus presennol at fynd i'r afael â gordewdra wedi methu a pham mae'n annhebygol y byddant yn atal rhagor o gynyddu.
-
20 Mai 2024Cyhoeddi arlwy’r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024
Mae Prifysgol Abertawe yn noddi pabell y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Meifod ym Maldwyn rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin.
-
20 Mai 2024Ffeithiol neu ffug? Bydd canllaw newydd yn helpu barnwyr i asesu tystiolaeth ffynhonnell agored ddigidol mewn achosion cyfreithiol
Yn oes ddigidol ffugiadau dwfn a deallusrwydd artiffisial, bydd canllaw newydd amserol – sydd wedi’i lansio heddiw – yn helpu barnwyr i asesu a yw lluniau ffynhonnell agored a gyflwynir fel tystiolaeth yn ddilys, yn gredadwy ac yn ddibynadwy.
-
17 Mai 2024Arbenigwyr yn datgelu gwybodaeth newydd am ddefnyddio ymchwil flaengar i ddiogelu plant ar-lein
Mae Prosiect DRAGON+ Prifysgol Abertawe wedi dathlu ei gyfraniad newydd yn y frwydr yn erbyn meithrin perthynas amhriodol ar-lein mewn digwyddiad arbennig i gyflwyno ei fewnwelediadau ymchwil arloesol a'i awgrymiadau ac i lansio allbynnau craidd y prosiect.
-
16 Mai 2024Caleb Azumah Nelson yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe am ei nofel glodwiw Small Worlds
Mae Caleb Azumah Nelson wedi ennill y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK).
-
15 Mai 2024Complete University Guide 2025: Prifysgol Abertawe ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth nodedig yn nhablau Complete University Guide 2025, gan sicrhau'r 37ain safle yn y DU.
-
14 Mai 2024Cynhaliwyd ymarferiad digwyddiad mawr i baratoi myfyrwyr parafeddygaeth ar gyfer y dyfodol
Mae Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymarferiad hyfforddiant digwyddiad mawr ar gyfer ei myfyrwyr parafeddygaeth yn eu blwyddyn olaf yn ardal y Ddôl ar Gampws Singleton.
-
13 Mai 2024Cysylltu Calonnau: Lansio arddangosfa gelf ymdrochol
Bydd Prifysgol Abertawe’n cydweithredu â'r Human Milk Foundation (IMF) a'r artist portreadau, Lynne Pearce, i lansio'r arddangosfa gelf ymdrochol.
-
7 Mai 2024Ymchwilwyr yn darganfod parth sy'n gweddu i'r dim i alluogi salamandrau i aros yn ifanc am byth
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi meithrin dealltwriaeth esblygiadol o ffenomenon hynod ddiddorol neoteni ymysg salamandrau tyrchol. Mae neoteni, lle mae organebau yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol wrth gadw nodweddion plentynnaidd, wedi bod yn destun chwilfrydedd ym maes bioleg o ganlyniad i'w strategaeth ddatblygiadol anarferol.
-
7 Mai 2024Prifysgol Abertawe'n torri tir newydd drwy lansio Canolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol
Mae Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Anglia Ruskin, wedi sefydlu'r ganolfan gyntaf yn y byd sy'n ymroddedig i ymchwil ryngddisgyblaethol i broblemau sy'n ymwneud â gamblo yn y gymuned filwrol.
-
7 Mai 2024Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang: Lansio cyfres newydd
A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.
-
6 Mai 2024Bionema, cwmni deillio o Abertawe, yn ennill Gwobr Mentergarwch y Brenin am ymdrin yn wyrddach â phlâu cnydau
Mae Gwobrau Mentergarwch y Brenin, y gydnabyddiaeth fwyaf i fusnesau yn y DU, wedi cyhoeddi bod Bionema Group Ltd, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y wobr uchel ei bri yn y categori Arloesedd.
-
2 Mai 2024Astudiaeth newydd i archwilio a all atchwanegion omega-3 roi hwb i ddatblygiad ymennydd plant
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio'r effaith y gall atchwanegion omega-3 ei chael ar ymddygiad, hwyliau a lles meddyliol plant, fel rhan o astudiaeth arloesol â goblygiadau ar gyfer iechyd ac addysg.
-
30 Ebrill 2024Ymchwil yn y Gymuned: Archwilio hunaniaethau rhywedd a diwylliant hanesyddol pobl anabl
Bydd tri academydd o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y ddwy sgwrs ddiweddaraf mewn cyfres arbennig sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.
-
30 Ebrill 2024Mae gwarchod treftadaeth ddiwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro yn fater dyngarol - rôl Abertawe mewn ffilmiau newydd i hyfforddi sefydliadau cymorth
Bydd cyfres o ffilmiau byr newydd sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn helpu gweithwyr cymorth i ddeall sut gall gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro fod yn fater dyngarol hollbwysig, gan ei fod yn atgyfnerthu pobl mewn sefyllfaoedd anodd.
-
29 Ebrill 2024Cystadleuaeth Big Pitch Prifysgol Abertawe yn cefnogi busnesau newydd creadigol myfyrwyr
Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i ddatblygu eu syniadau busnes arloesol trwy ei Chystadleuaeth Big Pitch, a noddir gan Santander Universities.
-
25 Ebrill 2024Mae myfyrwyr yn rhagnodi gwirfoddoli i gefnogi eu gyrfaoedd meddygol
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi rhoi hwb i'w huchelgeisiau i fod yn feddygon trwy wirfoddoli yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys.
-
24 Ebrill 2024Mae sganiau MRI manwl uchel yn helpu radiotherapi i dargedu tiwmorau yn fwy cywir
Mae pobl sy'n cael triniaeth canser yn Abertawe bellach yn elwa ar radiotherapi llawer mwy wedi'i dargedu - sy'n bosibl oherwydd rhoddion elusennol.
-
23 Ebrill 2024Academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol i Sefydliad Alan Turing
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol o fewn y rhaglen Innovate UK BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing.
-
23 Ebrill 2024Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n cyhoeddi pedwar Cymrawd newydd o Brifysgol Abertawe
Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
22 Ebrill 2024Cydweithrediad rhyngwladol newydd â'r nod o atal mathau ffliw pandemig
Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang.
-
22 Ebrill 2024Icon Creative Design i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Bydd Icon Creative Design, asiantaeth ddylunio o Gymru, yn noddi Prifysgol Abertawe eto yn Varsity Cymru eleni.
-
18 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i gynnwys y gymuned drwy ddarparu mynediad am ddim i'r llyfrgell ar y campws
Mae Prifysgol Abertawe wedi adnewyddu ei hymroddiad i'r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd a bydd yn parhau i gynnig mynediad am ddim at addysg a gwybodaeth o safon i'r gymuned leol drwy ei llyfrgelloedd.
-
18 Ebrill 2024UNESCO yn dyfarnu Cadair uchel ei bri i Athro o Brifysgol Abertawe
Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
-
17 Ebrill 2024Ymgyrch yn amlygu llwyddiant myfyrwyr a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol
Mae llwyddiant anhygoel myfyrwyr megis Caitlin Tanner, a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol, yn cael ei amlygu mewn ymgyrch genedlaethol newydd a arweinir gan Universities UK.
-
17 Ebrill 2024Mae barn athletwyr ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon elît yn amrywio'n fawr fesul camp a lefel gystadlu
Mae astudiaeth newydd yn dangos bod y mwyafrif o athletwyr benywaidd (58%) yn cefnogi categoreiddio yn ôl rhyw biolegol, yn hytrach na hunaniaeth rhywedd, ond mae safbwyntiau'n amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon.
-
16 Ebrill 2024Bydd ysgoloriaethau newydd yn helpu i ddenu myfyrwyr ymchwil tramor i Brifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio ysgoloriaethau mewn amrywiaeth eang o bynciau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig tramor ar lefel PhD dramor sy'n cyflwyno ceisiadau i ddechrau astudio ym mis Medi 2024 ac sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.
-
12 Ebrill 2024Mae dewis diodydd llawn siwgr yn hytrach na sudd ffrwythau ar gyfer plant bach yn gysylltiedig â’r risg o ordewdra pan fyddant yn oedolion
Gall yfed diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â phatrymau deiet gwael sy’n cynyddu’r risg o ordewdra’n ddiweddarach mewn bywyd, yn ôl astudiaeth newydd gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
-
11 Ebrill 2024Ymchwil newydd yn dangos bod arferion cysgu ceirw newydd-anedig yr un mor arbennig â babanod newydd-anedig
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod ceirw braenar newydd-anedig yn wahanol o ran patrymau cysgu a chyfradd datblygiad o enedigaeth ar sail unigol, fel y gwelwn mewn babanod newydd-anedig, yn yr astudiaeth gyntaf o'i bath gan Brifysgol y Frenhines Belfast.
-
11 Ebrill 2024SWITCH-On Skills: Hyfforddiant am ddim i wella sgiliau'r gweithlu dur er mwyn trawsnewid i sero net
Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig platfform hyfforddiant ar-lein am ddim i wella sgiliau'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y diwydiant dur. Gall pobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fanteisio ar y cyrsiau.
-
10 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n un o'r prifysgolion gorau yn y byd ar gyfer 25 o bynciau
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed mewn tabl flaenllaw o'r prifysgolion gorau'n fyd-eang yn ôl pwnc am y trydydd flwyddyn yn olynol.
-
9 Ebrill 2024Abertawe'n croesawu arweinwyr prifysgolion o bob rhan o Ewrop i gynhadledd ryngwladol o bwys
Bydd arweinwyr prifysgolion o wledydd ym mhob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Abertawe o 11 tan 12 Ebrill am gynhadledd flynyddol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.
-
9 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n cefnogi rhaglen addysg arloesol ynghylch newid yn yr hinsawdd
Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu Abertawe i gyflwyno ‘coed hylifol’ i bob ysgol gynradd – y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny – gan addysgu disgyblion ynghylch newid yn yr hinsawdd a chreu amgylchedd dysgu iachach.
-
8 Ebrill 2024Graddedigion awtistig 'yn un o'r grwpiau lleiaf tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig'
Mae ymchwil newydd yn dangos y gallai dyblu'r gyfradd cyflogi pobl awtistig - sydd ar hyn o bryd tua hanner cyfradd cyflogaeth pobl niwronodweddiadol - hybu'r economi o hyd at £1.5 biliwn.
-
4 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n ennill £2m i ymchwilio i famau yng Nghymru a newid yn yr hinsawdd
Dyfarnwyd mwy na £2m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe i ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar fenywod beichiog.
-
4 Ebrill 2024Syniad dyfeiswyr sy'n astudio yn Abertawe am ddŵr yfed diogel yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth ddylunio ryngwladol
Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio system hidlo i wneud dŵr afonydd yn ddiogel i'w yfed rownd gynderfynol Ewropeaidd cystadleuaeth ddylunio fyd-eang.
-
4 Ebrill 2024Technocamps yn rhoi sylw i fenywod sy'n ysbrydoli mewn digwyddiad blynyddol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Roedd y sbotolau ar fenywod sy'n ysbrydoli mewn cinio mawreddog yn Abertawe a drefnwyd gan Technocamps, rhaglen sgiliau Cymru gyfan, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024.
-
3 Ebrill 2024Astudiaeth yn amlygu’r sgiliau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwroddatblygiadol
Yn ôl ymchwil newydd, dylid dathlu'r amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu harddangos gan bobl sydd â chyflyrau megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia ac awtistiaeth, er mwyn helpu i leihau stigma a newid disgwyliadau cymdeithas.
-
27 Mawrth 2024Prifysgol Abertawe'n datblygu arweinwyr gofal iechyd y dyfodol
Mae Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr (SLA) Prifysgol Abertawe wedi croesawu grŵp newydd o fyfyrwyr gofal iechyd i'w rhaglen arweinyddiaeth, gan gefnogi eu gallu i ddarparu gofal o safon i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.
-
26 Mawrth 2024Arolwg yn datgelu lefelau o ddiogelwch haul ffurfiol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Gallai ysgolion cynradd yng Nghymru wneud mwy i helpu i ddiogelu pobl ifanc rhag peryglon dod i gysylltiad â'r haul, yn ôl astudiaeth newydd.
-
25 Mawrth 2024Penodi academydd o Brifysgol Abertawe'n Gadeirydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Annibynnol newydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
-
22 Mawrth 2024Academyddion o Abertawe'n cael grant Horizon Ewrop gwerth €480,000 i gefnogi prosiect ymchwil ac arloesi newydd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn grant newydd gan Horizon Ewrop i roi'r genhedlaeth nesaf o asesiadau peryglon a risgiau cemegolion a deunyddiau newydd ar waith, gan leihau'r angen am brofi ar anifeiliaid wrth ddiogelu iechyd dynol.
-
21 Mawrth 2024Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dathlu prosiect arloesol ar y cyd ym maes Rhagnodi Cymdeithasol
Mae Oriel Science, canolfan arddangosiadau cyhoeddus arloesol Prifysgol Abertawe, wedi bod yn helpu cleifion ag anaf i'r ymennydd sy'n cael triniaeth adsefydlu i wella eu hiechyd a'u lles drwy ei phrosiect Rhagnodi Cymdeithasol cyntaf.
-
21 Mawrth 2024Cyhoeddwyr annibynnol yn achub y blaen ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2024
Mae'r rhestr fer ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu. Mae’n cynnwys chwe llais eithriadol, datblygol sy'n defnyddio dyfeisgarwch ffurfiol wrth ysgrifennu er mwyn archwilio themâu tragwyddol galar, hunaniaeth a theulu.
-
19 Mawrth 2024Abertawe'n croesawu ymweliad gan uwch-arweinwyr o brifysgol bartner yng Nghanada
Mae arweinwyr o un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada, sydd wedi bod yn cyfnewid myfyrwyr ag Abertawe fel rhan o bartneriaeth ffyniannus am dros 30 o flynyddoedd, wedi bod yn ymweld â'r campws i ddatblygu cysylltiadau pellach.
-
19 Mawrth 2024Astudiaeth newydd yn rhoi cipolwg ar y nifer sydd wedi manteisio ar frechlynnau Covid ymhlith plant a phobl ifanc
Roedd nifer y bobl sydd wedi cael brechlyn Covid-19 ymhlith plant a phobl ifanc yn isel ar draws y pedair gwlad, o'i gymharu â grwpiau oedran eraill, yn ôl yr astudiaeth ymchwil gyntaf i ystyried data gan bedair gwlad y DU.
-
18 Mawrth 2024Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU am brofiad gwaith i fyfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU yn Nhabl Prifysgolion Gorau am Brofiad Gwaith RateMyPlacement 2024/25, gan roi llwyfan i'r 50 prifysgol orau yn y DU sy'n adnabyddus am eu hymrwymiad i gynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr.
-
14 Mawrth 2024Astudiaeth yn dangos bod cawodydd mwy pwerus yn well i'r amgylchedd
Gallai mwynhau cawod fwy pwerus yn y bore eich helpu i leihau allyriadau carbon eich aelwyd, yn ôl ymchwilwyr.
-
14 Mawrth 2024Gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai yn rhoi hwb mawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth
Bydd gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai ym Mhrifysgol Abertawe sydd newydd ei gwblhau'n rhoi hwb enfawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth.
-
6 Mawrth 2024Effaith COVID ar bobl ag epilepsi: cyfradd uwch o farwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty, yn ôl ymchwil newydd
Roedd pobl ag epilepsi yn fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID ac o farw o COVID yn ystod 15 mis cyntaf y pandemig, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin.
-
5 Mawrth 2024Anne Boden, sefydlydd Starling Bank, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe
Rhannodd Anne Boden, MBE, sefydlydd Starling Bank, sylwadau amhrisiadwy ar oresgyn yr heriau sy'n wynebu entrepreneuriaid benywaidd yn ystod sesiwn ddifyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe ddydd Llun 4 Mawrth.
-
4 Mawrth 2024Academydd o Abertawe wedi'i enwi'n un o gymrodyr yr Academy of Social Sciences
Mae'r Academy of Social Sciences wedi croesawu 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i'w chymrodoriaeth uchel ei bri – gan gynnwys yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Gwaith celf yr archaeolegydd Howard Carter bellach yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd
Mae paentiad prin gan Howard Carter, yr archaeolegydd uchel ei fri a ddarganfu feddrod Tutankhamun, bellach yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Tri academydd o Abertawe'n cael eu henwi’n gymrodyr Turing newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith carfan newydd o 51 o gymrodyr Turing sydd wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU.
-
29 Chwefror 2024Metel sgrap gwell ar gyfer economi wyrddach: arbenigedd Abertawe wrth wraidd canolfan ymchwil newydd a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig
Bydd arbenigedd Abertawe mewn ailgylchu'n well drwy atgyfnerthu ansawdd metel sgrap wrth wraidd canolfan newydd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn ymchwilio i sut gallwn ailddefnyddio adnoddau amhrisiadwy – o fetelau i fwynau – yn ehangach.
-
29 Chwefror 2024Lansio'r clinig cyntaf yng Nghymru dan arweiniad prifysgol sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol
Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi lansio'r clinig pwrpasol cyntaf yng Nghymru sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol mewn cydweithrediad â Hodge Jones & Allen, cwmni arobryn o Lundain.
-
27 Chwefror 2024Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe’n llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i’w helpu i weithio’n agosach ar feysydd hanfodol o ddiddordeb cyffredin fel gweithio’n effeithiol gyda diwydiant a chefnogi datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y rhanbarth.
-
26 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn datgelu pwysigrwydd ecosystemau dŵr dwfn i rywogaethau mewn perygl
Gan ddefnyddio data olrhain, mae astudiaeth newydd wedi datgelu, am y tro cyntaf, fod môr-grwbanod gwalchbig yn bwydo ar safleoedd rîff sy’n llawer dyfnach nag y credid o’r blaen.
-
22 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am waith banc data o bwys byd-eang
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.
-
21 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi partneriaeth am sawl blwyddyn â Hoci Cymru
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol â Hoci Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru.
-
19 Chwefror 2024Mae angen cymorth iechyd meddwl ar anweddogion anwirfoddol (‘incels’)l yn hytrach nag ymyrraeth gwrthderfysgaeth, yn ôl astudiaeth fwyaf y byd ohonynt
Mae astudiaeth arloesol wedi darganfod y berthynas gymhleth rhwng iechyd meddwl, meddylfryd byd-eang cyffredin a rhwydweithio cymdeithasol unigolion sy'n anweddog yn anwirfoddol ('incels').
-
15 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn dadansoddi'r cysylltiad rhwng cymhareb bysedd a defnydd o ocsigen mewn pêl-droedwyr
Mae effeithlonrwydd y cyflenwad ocsigen i feinweoedd yn ffactor o ran difrifoldeb afiechydon pwysig fel Covid-19 a chyflyrau'r galon.
-
15 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe yn cyflwyno llety tymor byr ar y safle i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr
Fel rhan o ddarpariaeth gampws Prifysgol Abertawe, mae'n cynnig llety byr dymor ar y safle i staff, myfyrwyr a chydweithwyr sy'n ymweld.
-
14 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel
Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol ar raddfa fwy.
-
13 Chwefror 2024Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Abertawe
Mae disgwyl i dros 500 o fyfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru heidio i Abertawe ar 1-2 Mawrth wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ail-ymweld â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf ers 2019.
-
9 Chwefror 2024Arbenigwyr yn parhau i weithio i helpu i lywio ffordd iachach o fyw ledled Cymru
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bobl o bob oedran.
-
8 Chwefror 2024Gwyddonwyr yn arwain y ffordd i ddatblygu cadwraeth ac adnewyddu bywyd y môr hanfodol
Mewn astudiaeth newydd, mae tîm rhyngwladol o academyddion wedi nodi'r cwestiynau pwysicaf y mae'n rhaid eu hateb er mwyn datblygu gwaith cadwraeth ac adfer dolydd morwellt yn Ewrop.
-
7 Chwefror 2024Gallai pwerau prawf datganoledig a 'dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth' wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol
Mae grŵp o academyddion o brifysgolion Cymru, ynghyd â swyddogion prawf presennol a chyn-swyddogion prawf, wedi cyhoeddi syniadau ar ddyfodol y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.
-
7 Chwefror 2024Athro'n derbyn £2.2m i archwilio dyfodol digidol i bawb
Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) wedi dyfarnu cymrodoriaeth bersonol uchel ei bri dros bum mlynedd i'r Athro Matt Jones o Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe i ddilyn agenda fentrus ac uchelgeisiol i ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial.
-
5 Chwefror 2024Prosiect cwiltiau arloesol yn dod â mamau newydd at ei gilydd i rannu profiadau bwydo
Mae prosiect unigryw dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n cofnodi ac yn rhannu teimladau cymhleth mamau newydd am fwydo eu babanod.
-
31 Ionawr 2024Gradd hyblyg newydd i helpu myfyrwyr i gynnwys astudiaethau nyrsio o amgylch eu bywydau
Mae Prifysgol Abertawe'n lansio gradd hyblyg newydd a fydd yn helpu nyrsys y dyfodol i gydbwyso eu hastudiaethau â gofynion eu bywydau bob dydd.
-
30 Ionawr 2024O'r stryd i ystafell y bwrdd: Cwrs newydd i ddysgu sgiliau busnes i bobl ddifreintiedig
Mae Prifysgol Abertawe ar fin cynnal cwrs newydd unigryw gyda'r nod o gael y gorau o bobl ddifreintiedig a'u hysbrydoli i ddilyn llwybr gwahanol mewn bywyd.
-
29 Ionawr 2024Myfyriwr sy'n gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid lleol yn cael ei hanrhydeddu â Gwobr Gymdogol
Mae myfyriwr sy'n gwirfoddoli gyda grŵp sgowtiaid lleol yn Abertawe wedi derbyn Gwobr Gymdogol am ei chyfraniad i'r gymuned, ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd y sgowtiaid.
-
25 Ionawr 2024Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe'n datgelu rhestr hir ryngwladol 2024
Mae'r rhestr hir ryngwladol ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi.
-
24 Ionawr 2024Llyfryn newydd yn codi pryderon ynghylch bygythiad cyfrifiadurol i ddiogelwch cleifion
Ar ôl i sgandal Horizon Swyddfa'r Post amlygu natur annibynadwy tystiolaeth gyfrifiadurol, mae llyfryn newydd wedi cael ei gyhoeddi sy'n rhybuddio am faterion TG a allai fod yn niweidiol ym maes gofal iechyd.
-
23 Ionawr 2024StreetSnap: Lansio ap cyntaf o'i fath i feithrin gwydnwch y gymuned i gasineb
Mae'r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu ap newydd sy'n chwyldroi'r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda'r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau.
-
18 Ionawr 2024Arbenigwr i ymchwilio i hanes brechiadau yn erbyn TB fel rhan o brosiect ymchwil gofal iechyd mawr
Bydd hanesydd o Brifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect sydd am ddefnyddio arbenigedd yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol er mwyn helpu i gynnwys lleisiau cleifion mewn ymchwil ac ymarfer gofal iechyd.
-
17 Ionawr 2024Arbenigwr o Abertawe wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Llywodraeth y DU wedi penodi arbenigwr mewn polisi digidol o Abertawe'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, er mwyn rhoi arweinyddiaeth wyddonol, goruchwylio blaenoriaethau ymchwil a chynghori gweinidogion a swyddogion.
-
17 Ionawr 2024Mynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein: arbenigwyr o Abertawe'n ysgrifennu adroddiad newydd ar y cyd am botensial a pheryglon deallusrwydd artiffisial
Gall deallusrwydd artiffisial wneud cyfraniad hollbwysig at nodi cynnwys terfysgol ar-lein, ond mae mewnbwn gan bobl yn dal i fod yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau dynol ac atal grwpiau cyfreithlon rhag cael eu targedu ar gam, yn ôl adroddiad newydd gan dîm sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
10 Ionawr 2024Cyllid newydd i helpu busnesau Abertawe adeiladu dyfodol glanach
Gall busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yn Abertawe gael mynediad at gymorth sydd wedi'i ariannu'n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i'w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Chwefror 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).