Sawl cenhedlaeth o deulu yn chwarae criced gyda'i gilydd y tu allan mewn parc

Mae arbenigwyr ym maes iechyd a lles ym Mhrifysgol Abertawe yn rhannu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bawb, waeth beth fo'u hoedran, eu hil neu eu rhywedd.

Fel rhan o Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn ystyried ystod eang o faterion yn ymwneud â lles a hefyd maent yn hysbysu arweinwyr sut y gall pobl yng Nghymru fyw bywydau iachach. 

I gyd-fynd â chyhoeddi ei bumed adroddiad blynyddol a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae WIPAHS hefyd newydd lansio gwefan newydd. Mae'r platfform newydd hwn yn darparu hyb canolog ar gyfer mynediad at ymchwil newydd ac ymchwil bresennol, diweddariadau ar chwaraeon, gweithgarwch corfforol, a datblygiadau iechyd, yn ogystal â ffyrdd o gysylltu â'r tîm am brosiectau posibl. 

Mae WIPAHS yn rhwydwaith ledled Cymru sy'n galluogi pob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru i weithio gyda Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai hynny sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd i helpu i greu cymdeithas iachach. 

Meddai'r Athro Kelly Mackintosh, un o gyd-gyfarwyddwyr WIPAHS, Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe: “Mae adroddiad eleni'n adlewyrchiad pwerus o'n hymrwymiad i sbarduno newid ystyrlon. Un o uchafbwyntiau mawr 2024 oedd sefydlu Rhwydwaith Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Menywod Cymru, ymdrech gydweithredol i hyrwyddo ymchwil i iechyd a chwaraeon menywod o'r menarche i'r menopos.

“Wedi'i ariannu gan Rwydwaith Arloesi Cymru (WIN), dyma'r cyntaf o sawl grŵp diddordeb arbennig lle rydyn ni'n cymryd ymagwedd ragweithiol yn hytrach nag adweithiol at anghenion ymchwil ledled Cymru.

"Y mis hwn byddwn ni hefyd yn arddangos ein cynnydd yn y Senedd, gan atgyfnerthu ein hymroddiad i sicrhau tegwch rhwng y rhyweddau mewn gweithgarwch corfforol a pholisi iechyd." 

Gan ategu'r gwaith hwn, mae WIPAHS wedi partneru â Datblygu Chwaraeon Torfaen i ariannu Ines Affany, myfyriwr meistr ym Mhrifysgol Abertawe, i werthuso effaith ei raglen #IfYouGoIGo i rymuso menywod i fod yn fwy actif yn amlach. 

Mae datblygiadau allweddol eraill ym maes symudiad a lles plant yn cynnwys:

  • prosiect PhD newydd, a ariennir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a ScootFit, sy'n cynnwys y myfyriwr PhD Cerys Cole yn ymchwilio i gydbwysedd plant, eu gorsymudedd a'u hymddygiadau ar sgwter, a
  • chwblhau gwerthusiad y Parth Teulu Egnïol a gomisiynwyd gan Adran Pobl Ifanc Egnïol (AYPD) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Ychwanegodd Owen Hathway o Chwaraeon Cymru, cyd-gadeirydd Bwrdd Rheoli Strategol y sefydliad: "Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn wych arall i WIPAHS, gan gadarnhau ymhellach ei enw da cynyddol ar draws y sector academaidd a'r sector chwaraeon. Mae hi wedi bod yn wych gweld y sefydliad yn dod yn fan cychwyn cyntaf ar gyfer cwestiynau ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth, yn y sector chwaraeon traddodiadol a hefyd ar draws meysydd iechyd y cyhoedd ac addysg. 

"Mae WIPAHS yn parhau i fod yn bartneriaeth hanfodol i Chwaraeon Cymru wrth i ni geisio parhau i fod yn sefydliad sy'n cael ei lywio gan ddealltwriaeth. 

"Rwy'n llawn cyffro y bydd lansio gwefan newydd yn sicrhau y bydd y sefydliad yn cynyddu ei welededd, gan ei gwneud hi'n haws fyth i sefydliadau a'r cyhoedd ymgysylltu â'n gwaith." 

Os hoffech gydweithio â WIPAHS, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen Mynegi Diddordeb ar y wefan. 

Dilynwch WIPAHS ar X a Linkedin 

 

Rhannu'r stori