Ward ysbyty gyda phedwar gwely gwag

Mae heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn her fyd-eang fawr, ac un sy'n gwaethygu yn sgîl bygythiad cynyddol ymwrthedd gwrthfiotig. Yn ogystal â bygwth diogelwch cleifion, mae'r heintiau hyn hefyd yn peri straen anferth i systemau gofal iechyd.

Bellach mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu i brofi dau ateb arloesol a allai dorri tir newydd wrth fynd i’r afael â’r broblem.

Mae'r cwmni technoleg rheoli heintiau, Vitec Microgenix Ltd wedi datblygu VSC1000, caen wrthficrobaidd ar gyfer arwynebau, a  V-MASS system puro aer uwch. Mae'r rhain yn darparu amddiffyniad parhaus yn erbyn microbau ac wedi dangos effeithiolrwydd sylweddol mewn amgylcheddau gofal iechyd yn y byd go iawn.

Yn sgîl treial peilot llwyddiannus yn  Ysbyty Treforys, Abertawe, a ganolbwyntiodd ar wardiau orthopedig, nodwyd gostyngiad o 27% mewn heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd dros 12 mis.

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae Vitec Microgenix wedi derbyn dyfarniad cam 1 gan SBRI Healthcare i ddylunio treial clinigol ar raddfa fawr. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu gan Uned Dreialon Abertawe, gyda chymorth gan y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac arbenigwyr academaidd blaenllaw ym meysydd atal a rheoli heintiau, economeg iechyd a chemeg ddadansoddol.

Mae hyn yn bosib gyda chymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Gaerfyrddin, sydd wedi chwarae rôl hollbwysig wrth ddatblygu arloesi mewn gofal iechyd yn y rhanbarth. Mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi helpu Vitec Microgenix i gryfhau ei gydweithrediad â'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd a'r partneriaid academaidd, gan sicrhau y bydd yr ymchwil hon yn symud ymlaen i'r cam datblygu nesaf.

Meddai'r technolegydd arloesi, Dr Anthony Horlock o'r Ganolfan: "Mae'r cyflawniad hwn yn amlygu rôl hanfodol cydweithredu wrth arloesi mewn gofal iechyd. Drwy gymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Vitec Microgenix wedi gallu datblygu technolegau atal heintiau arloesol a bellach, gyda'r dyfarniad gan SBRI Healthcare, gallwn gymryd y cam hollbwysig nesaf tuag at ddilysu clinigol."

Meddai'r Uwch-ddarlithydd Dr Natalie De Mello, Arweinydd ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin: "Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn falch ei bod wedi hwyluso'r daith hon, gan sicrhau bod gweithwyr proffesiynol o fyd diwydiant, y gymuned academaidd a'r sector gofal iechyd yn cydweithio i sbarduno gwelliannau ystyrlon mewn diogelwch cleifion a rheoli heintiau."

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Vitec Microgenix, Scott Perkins: "Mae sicrhau'r dyfarniad hwn yn drawsnewidiol. Mae cymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i ddatblygu ein technoleg atal heintiau o dreialon peilot i ddilysu clinigol ar raddfa fawr.

“Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i brofi ein datrysiadau'n drylwyr mewn ysbytai, gan fynd â ni gam ymhellach at drawsnewid arferion rheoli heintiau a lleihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ar raddfa eang."

Yn ôl y cwmni, os bydd profion yn dangos eu bod yn effeithiol, gallai'r datrysiadau hyn chwarae rôl allweddol wrth leihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, gwella canlyniadau i gleifion a lleihau'r baich ariannol ar y GIG a systemau gofal iechyd yn fyd-eang.

 

Rhannu'r stori