Llun agos o'r awyr o beiriannau braille sy'n dangos dwylo dau westai'n cael eu tywys i deimlo'r braille. Credyd: RNIB.

Un esiampl o'r peiriannau braille y gall gwesteion gael profiad ohonynt yn nigwyddiad Braille 200 Prifysgol Abertawe. Credyd: RNIB.

Prifysgol Abertawe fydd y cyrchfan cyntaf yng Nghymru ar daith genedlaethol sy'n dathlu 200 mlynedd o braille, sy'n helpu i amlygu sut mae'r system gyffyrddol o smotiau sydd wedi’u codi’n grymuso pobl sydd wedi colli golwg.

I nodi'r achlysur mae'r Royal National Institute of Blind People (RNIB)wedi lansio'r Braille and Beyond Tour, sy'n ymweld â nifer penodol o lyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau addysg uwch ar draws y Deyrnas Unedig.

Cynhelir digwyddiad Braille 200 yn Llyfrgell Parc Singleton y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin ddydd Mawrth 25 Mawrth 2025, 10am - 3pm.

Bydd y dydd yn cynnwys nifer o sesiynau diddorol, gan gynnwys arddangosfa ar dreftadaeth braille, gweithgareddau ymarferol gyda LEGO Braille Bricks, a chyfle i ddysgu Gradd 1 braille drwy weld mewn dim ond 30 munud.

Bydd y sesiynau hyn yn helpu  gwesteion i feithrin  dealltwriaeth ddyfnach o'r rôl hanfodol mae braille yn ei chwarae ym mywydau pobl ddall a'r rhai sy'n rhannol ddall, pobl megis y siaradwr gwadd Anne Wilkins.

Mae Anne sydd wedi bod yn ddall ers ei geni yn sgil retinopathi cynamseroldeb, yn gerddor talentog ac yn ganwr sydd wedi perfformio ar draws y byd, ac yn adnabyddus am ei deuawd syfrdanol gyda Bryn Terfel ar Michael McIntyre's Big Show, yn dilyn ei dehongliad stepen drws o "Over the Rainbow" yn ystod y cyfnod clo.

Yn athrawes gerdd braille, mae Anne yn eiriolwr angerddol dros lythrennedd braille sydd â’r nod o wneud cerddorion dall yn gyfartal â'u cymheiriaid.

Meddai Anne: "Mae braille i fi megis print i berson sy'n gallu gweld. Rwy'n siŵr na fyddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n gallu darllen ac ysgrifennu'n dda feddwl am fywyd heb eiriau wedi'u printio neu eu sgwennu â llaw.  Rwy'n teimlo’n union yr un ffordd am braille.  Er bod technoleg yn gweithio'n dda gyda braille, y camgymeriad mae llawer yn ei wneud yw meddwl bod llefaru ar gyfrifiaduron, ffonau a dyfeisiau eraill wedi dod yn ei le i bobl ddall. Nid dyma'r achos.

"Rwy'n cofio'r tro cyntaf i mi ddarllen llyfr cyfan a sylweddoli nad oedd angen i mi ddibynnu ar bobl eraill i ddarllen i mi mwyach.  Roedd yn deimlad gwych ac mae wedi aros gyda fi trwy gydol fy mywyd ac rwy'n siŵr y bydd yn aros gyda fi am byth.  Mae braille yn un o'r pethau sydd wedi rhoi cymaint o annibyniaeth i fi drwy agor y byd i fi mewn sawl ffordd ac ni allaf ddychmygu fy mywyd hebddo.”

Meddai Tina Webber, Rheolwr Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau i groesawu taith RNIB Braille and Beyond, oherwydd bod gan Brifysgol Abertawe a'r Ganolfan Drawsgrifio hanes hir a balch o gefnogi myfyrwyr anabl.

"Ein nod yw uchafu potensial academaidd ein myfyrwyr drwy ddiddymu rhwystrau a darparu adnoddau hygyrch. Edrychwn ymlaen at y digwyddiad hwn sydd ar ddod a chynyddu ein cydweithrediad gyda'n cymheiriaid yn RNIB."

Meddai Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: "Mae'n bleser gennym fod yn Abertawe i ddathlu 200 mlynedd ers creu braille. Mae braille yn declyn hanfodol i lawer o bobl ddall neu rannol ddall ar draws Cymru, ac mae'r un mor berthnasol nawr ag yr oedd pan gafodd ei ddatblygu.

"Mae llythrennedd braille yn cynyddu hyder, annibyniaeth a mynediad at addysg a chyflogaeth. Mae cefnogi addysg ac adnoddau braille yn gam hanfodol tuag at gymdeithas gynhwysol."

Yn gydweithrediad rhwng RNIB, RNIB Cymru, Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe ac Ysbyty Singleton, mae'r digwyddiad yn cynnig diwrnod o sgyrsiau addysgiadol a chyfleoedd rhwydweithio i'r rhai hynny sydd eisiau defnyddio braille ac unrhyw un sydd â diddordeb yn ei botensial trawsnewidiol.

Darganfod mwy am wasanaethau Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe.

Dysgu mwy am ddathliadau 200 Braille RNIB.

Rhannu'r stori