
Gyda chystadleuaeth yr Ewros 2025 ychydig fisoedd i ffwrdd, mae pêl-droed menywod yn parhau i ddenu mwy o sylw. Nawr mae ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr proffesiynol benywaidd a'r lefelau lactad maen nhw'n eu cynhyrchu yn ystod ymarfer corff.
Wedi'i nodi fel y tanwydd dewisol ar gyfer celloedd nerfol a chyhyrau, mae ymarfer corff caled yn arwain at ryddhau lactad i lif y gwaed ond gall lefelau uchel fod yn arwydd bod y corff dan straen.
Mae gwyddonwyr yn ceisio gweld a yw'n bosib amcangyfrif faint o lactad bydd person yn ei gynhyrchu yn seiliedig ar nodweddion corfforol penodol sef hyd bys a thaldra.
Mae gwyddonwyr eisoes yn gwybod bod y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy unigolyn, a elwir yn gymhareb 2D:4D yn cydberthyn â’i berfformiad wrth redeg hirbell, oedran wrth gael trawiad ar y galon a difrifoldeb Covid-19.
Nawr mae'r Athro John Manning, o dîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM) Abertawe, wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Cyprus, Gwlad Pwyl a Sbaen i fonitro perfformiad pêl-droedwyr proffesiynol gwrywaidd a benywaidd.
Dengys dwy astudiaeth ddiweddar groniad cyflym o lactad mewn chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd yn ystod profion melin droed wrth redeg cyflymdra hyd at 16 cilomedr yr awr.
Mae canfyddiadau diweddaraf y tîm sy'n amlygu canlyniadau'r menywod wedi'u cyhoeddi gan y cyfnodolyn Early Human Development ac yn dilyn papur y llynedd examining male players.
Roedd rhai pêl-droedwyr yn dangos cynnydd bach iawn mewn lactad tra oedd eraill yn cofnodi cynnydd cyflym. Mewn gwrywod, cymhareb bysedd, neu'r 2D:4D - hyd cymharol y mynegfys (neu'r ail fys) a'r bys modrwy (4ydd) - oedd y rhagfynegydd cryfaf o lactad.
Meddai'r Athro Manning: "Roedd dynion â bys modrwy hir o'u cymharu â'u mynegfys yn cynhyrchu dim ond ychydig o lactad. I fenywod, roedd dau ragfynegydd, taldra a'r 2D:4D. Roedd lefelau lactad yn isel i fenywod tal a menywod â bys modrwy hir o'u cymharu â'u mynegfys. Credir mai’r cysylltiad yma yw'r cydbwysedd testosteron ac oestrogen yn y groth ac yn ystod yr arddegau."
Mae bys modrwy hir yn nodi lefelau uwch o destosteron cyn geni, ac mae mynegfys hir yn nodi lefelau uwch o oestrogen cyn geni. Yn gyffredinol, o'u cymharu â menywod, mae gan ddynion fysedd modrwy hirach, ond o'u cymharu â dynion, mae gan fenywod fynegfysedd hirach.
Meddai: "Mae dynion sydd wedi profi testosteron uchel ac oestrogen isel (bysedd modrwy hir) cyn geni a menywod sydd wedi profi testosteron uchel ac oestrogen isel cyn geni (bysedd modrwy hir) ac yn ystod eu harddegau (menywod tal) yn cynhyrchu lefelau isel o lactad mewn prawf melin droed cyflym.
"Mae gan y canlyniadau hyn oblygiadau y tu hwnt i bêl-droed - mewn chwaraeon gan gynnwys rhedeg hirbell yn ogystal â lleoliadau clinigol lle mae lactad uchel yn cael ei ganfod mewn cyflyrau iechyd difrifol megis ar ôl trawiad ar y galon.”
Mae'r Athro Manning wedi arloesi gwaith sy'n archwilio'r berthynas 2D:4D gydag amrywiaeth o fesurau ffrwythlondeb, iechyd ac ymddygiad. Mae ei ymchwil ddiweddaraf wedi archwilio'r cysylltiad rhwng cymhareb bysedd a defnydd o ocsigen mewn pêl-droedwyr a hefyd wedi edrych ar y cysylltiad rhwng hyd bysedd ac arferion yfed alcohol person.