Maes o goedyn pren gyda choedwigaeth yn y cefndir

Llun: Shutterstock

Dywed ymchwilwyr fod digolledu bioamrywiaeth yn gweithio orau ar y cyd â mesurau adferiad hirdymor, y dirwedd iawn a digon o dir ar gael i’w adfer.

Gallai astudiaeth newydd, sy'n nodi'r amodau ecolegol angenrheidiol ar gyfer gwrthbwyso bioamrywiaeth er mwyn cyflawni nodau cadwraeth, ddarparu arweiniad pwysig i lywodraethau a diwydiannau wrth iddynt ehangu polisïau ar gyfer cynnydd bioamrywiaeth net ac adfer natur.

Defnyddir gwrthbwyso bioamrywiaeth yn gynyddol i wneud iawn am niwed amgylcheddol a achoswyd gan ddatblygu. Drwy'r broses hon, mae colled bioamrywiaeth mewn un lleoliad yn cael ei gwrthbwyso drwy adfer neu warchod cynefin mewn man arall, â'r nod o sicrhau nad oes colled bioamrywiaeth net.

Mae'r ymchwil ddiweddaraf, dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) a Forest Research, yn dangos bod mesurau gwrthbwyso bioamrywiaeth yn llawer mwy tebygol o lwyddo pan fo'r ardaloedd adfer yn fwy na'r cynefinoedd yr effeithir arnynt, pan gânt eu gwarchod dros gyfnodau amser hir a phan gânt eu cynllunio gan ystyried sut mae ecosystemau'n adfer dros amser.

Mae'r canfyddiadau'n mynd i'r afael ag un o'r prif heriau mewn polisi cadwraeth modern - sut i ddigolledu am golledion bioamrywiaeth a achosir gan ddatblygu pan fo cymdeithasau'n parhau i alw am dir ar gyfer tai, isadeiledd, cynhyrchu bwyd a thwf economaidd.

Fodd bynnag, mae'r astudiaeth yn dangos bod canlyniadau bioamrywiaeth yn dibynnu ar gylchoedd o golli cynefinoedd, adfer ac adfer ecolegol yn cael eu hailadrodd dros ddegawdau. Pan fo cynefinoedd sydd newydd gael eu hadfer yn disodli ecosystemau aeddfed, gall bioamrywiaeth ddirywio am gyfnodau estynedig cyn i weithrediadau ecolegol ymadfer. Mewn rhai achosion, efallai na fyddant byth yn ymadfer os caiff cynefinoedd eu trosi at ddibenion eraill yn rhy gyflym.

Gan ddefnyddio efelychiadau ecolegol ar raddfa fawr, bu'r ymchwilwyr yn archwilio sut gwnaeth coedwigoedd a rhywogaethau sy'n ddibynnol ar gynefin ymateb i gylchoedd ailadroddus o ddatblygu ac adfer dros ganrifoedd. Roedd y model yn ymgorffori olyniaeth coedwigoedd, newid mewn tirweddau, rhywogaethau'n ailsefydlu mewn cynefin newydd a chyfyngiadau ar argaeledd tir.

Dengys y canlyniadau fod canlyniadau gwrthbwyso'n dibynnu ar:

  • raddfa'r digolledu;
  • pa mor hir mae'r dirwedd yn cael ei gwarchod drwy gadwraeth;
  • cyfradd trosi cynefinoedd; ac,
  • a oedd digon o dir ar gael ar gyfer gwaith adfer.

Canfu'r astudiaeth hefyd fod cyfraddau uchel o golled cynefinoedd barhaus yn lleihau'n sylweddol y debygoliaeth y gallai mesurau gwrthbwyso gynnal bioamrywiaeth, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau sy'n dibynnu ar ecosystemau aeddfed.

Meddai'r prif awdur, Dr Konstans Wells, o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe: "Mae mesurau gwrthbwyso bioamrywiaeth yn cael eu gwerthuso'n aml ar sail enillion cynefinoedd tymor byr, ond mae ecosystemau'n adfer dros raddfeydd amser llawer hirach. Os yw cynefinoedd aeddfed yn cael eu dileu a'u disodli gan safleoedd sydd newydd gael eu hadfer, does dim modd osgoi'r diffyg ecolegol wrth i'r ecosystemau hynny ymadfer.”

Mae'r ymchwilwyr yn esbonio bod hyn yn creu her sylfaenol i bolisi bioamrywiaeth. Yn ymarferol, mae datblygu fel arfer yn dileu cynefinoedd o ansawdd ecolegol cymharol uchel, ond caiff mesurau digolledu eu rhoi ar waith fel arfer ar dir mwy dirywiedig achos bod yr ardaloedd hyn ar gael i'w hadfer. O ganlyniad, yn anaml y mae digolledu bioamrywiaeth yn weithred bur o gyfnewid gwerth ecolegol cyfartal.

Gwnaeth y cyd-awduron, yr Athro Luca Börger a Dr Miguel Lurgi gymharu'r her â "chyfnewid potel lawn o'ch hoff ddiod am sawl potel wag - os nad yw'r poteli hynny byth yn cael eu hail-lenwi, mae'r cyfnewid yn ddi-werth yn y bôn".

Dengys yr astudiaeth fod sawl ffactor yn llywio a fydd y poteli hynny'n ail-lenwi: cyfraddau adfer ecolegol, cyd-destun y dirwedd ac a fydd poblogaethau rhywogaethau'n gallu parhau'n ddigon hir i'r cynefinoedd wedi'u hadfer ddod yn addas eto.

Mae'r ymchwilwyr yn pwysleisio nad yw eu canfyddiadau'n ddadl yn erbyn gwrthbwyso bioamrywiaeth, ond eu bod yn hytrach yn nodi'r amodau lle mae gwrthbwyso'n fwy tebygol o lwyddo.

Meddai'r Athro James Bullock o UKCEH: "Gall dwy dirwedd gynnwys ardaloedd coedwigoedd o'r un maint, ond gall eu gweithrediad ecolegol fod yn wahanol iawn, gan ddibynnu ar oedran a chysylltedd cynefinoedd ac a yw rhywogaethau'n gallu parhau yn ystod y cyfnod adfer."

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r canfyddiadau'n amlygu pwysigrwydd integreiddio mesurau gwrthbwyso bioamrywiaeth â strategaethau ehangach sy'n blaenoriaethu osgoi colli cynefinoedd.

Daw'r awduron i'r casgliad bod digolledu bioamrywiaeth llwyddiannus yn galw am bolisïau sy'n gyson â realiti ecolegol - mae ecosystemau'n adfer yn raddol, mae rhywogaethau'n dibynnu ar barhad hirdymor cynefinoedd a chaiff canlyniadau adfer eu llywio gan brosesau sy'n datblygu dros ddegawdau.

Cyhoeddir Optimizing biodiversity offsetting for habitat succession and colonization dynamics yn Conservation Biology

 

Rhannu'r stori