Rwyf wedi cael y fraint o weithio i brifysgolion yng Ngogledd Iwerddon, yn Lloegr ac, ers 2021, yng Nghymru ac, o ganlyniad i hynny, mae gennyf brofiad o'r sector addysg uwch yn nhair o bedair cenedl y Deyrnas Unedig.
Er bod nifer o agweddau a heriau cyffredin ar draws y cenhedloedd, rhaid i mi ddweud fy mod wedi canfod bod y dirwedd addysg uwch yng Nghymru yn hynod gefnogol a cholegol. Nid wyf yn honni nad oes cystadleuaeth am adnoddau a myfyrwyr, ond mae'n wir bod prifysgolion yng Nghymru'n cydweithredu â'i gilydd ar draws pileri allweddol dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi ac maent wedi’u cysylltu’n dda drwy gyrff megis Prifysgolion Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru.
Wrth gwrs, mae hyn yn deillio'n rhannol o'r ffaith bod y sector addysg uwch yng Nghymru'n gymharol fach ac agos gyda naw sefydliad addysg uwch. Mae hefyd yn deillio o'r ffaith bod balchder cenedlaethol a hunaniaeth unigryw Cymru – a gynrychiolir yn hyfryd gan yr iaith Gymraeg, diwylliant llenyddol a cherddorol cyfoethog Cymru ac, wrth gwrs, ar y meysydd chwarae – yn uno'r sector. I adlewyrchu hyn, mae'r digwyddiad Varsity blynyddol rhwng Abertawe a Chaerdydd yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yn y DU o ran cwmpas a nifer y cefnogwyr.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru a'n rheoleiddiwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn hyrwyddo amgylchedd cefnogol ac yn gwerthfawrogi rôl hollbwysig y sector prifysgolion, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae'r ddau gorff yn cyfathrebu'n gadarnhaol â ni ac yn wirioneddol ymatebol i adborth ac awgrymiadau. Efallai y dylid disgwyl hyn o ystyried cyfansoddiad gwleidyddol Llywodraeth Cymru, natur Cytundeb Cydweithio Llafur Cymru â Phlaid Cymru, a'r ymrwymiad i bolisïau sy'n gynhwysol yn gymdeithasol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a dorrodd dir newydd. Yn ogystal, nid ydym wedi cael yr un “rhyfeloedd diwylliannol” na’r drafodaeth am y rhyddid i lefaru yn yr un ffordd â'n ffrindiau yn Lloegr, hyd yn oed i'r graddau lle mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi datgan bod Bil Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) Llywodraeth y DU yn “sylfaenol ddiffygiol a chamarweiniol”.
Gwahaniaeth mawr arall rhwng Cymru a Lloegr yw nad yw cyfranogi yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu'n un o amodau cyllido CCAUC. Daeth y prifysgolion yng Nghymru ynghyd yn haf 2022 a chytunwyd ar y cyd i beidio â bod yn rhan o'r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, gan osgoi'r ymrwymiad sylweddol o ran adnoddau sy'n cyd-fynd ag ef.
Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n creu ei Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn disodli CCAUC ac yn cymryd cyfrifoldeb am addysg ôl-16 yn ei chyfanrwydd, o brentisiaethau a hyfforddiant i addysg bellach ac addysg uwch, a chan gynnwys addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned. Y Comisiwn fydd yr unig awdurdod cenedlaethol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru a bydd yn hyrwyddo cydweithredu a chysondeb ar draws addysg bellach ac addysg uwch er mwyn creu rhagor o lwybrau i ddysgwyr ar bob lefel. Bydd amod newydd hefyd fod sefydliadau yn cefnogi lles staff a myfyrwyr er mwyn cofrestru.
Disgwylir i'r Comisiwn fod ar waith erbyn 2024, a chadarnhawyd erbyn hyn mai'r Athro Fonesig Julie Lydon, a fu gynt yn Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, a'r Athro David Sweeney, a fu gynt yn Gadeirydd Gweithredol Research England, fydd ei Gadeirydd a'i Ddirprwy Gadeirydd yn y drefn honno.
Mae hyn yn gysylltiedig â chred Llywodraeth Cymru yng ngwerth symudedd rhyngwladol a'r buddion i bob myfyriwr sy'n gallu deillio o safbwyntiau rhyngwladol. Wrth i lawer o'r rhethreg yn genedlaethol ymwneud â chyfyngu ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol, mae wedi bod yn galonogol gweld ymrwymiad Cymru i fod yn agored, yn groesawgar ac yn edrych tuag allan. Fodd bynnag, a hithau'n rhan o'r DU, mae Cymru'n parhau i fod yn destun unrhyw gyfyngiadau y gall y Llywodraeth yn San Steffan eu gosod ar fyfyrwyr rhyngwladol, gan nad yw mudo'n faes polisi datganoledig.
O ran symudedd myfyrwyr, ymatebodd Llywodraeth Cymru i ymadawiad y DU o raglen Erasmus drwy greu Taith, Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu gwerth £65m a fydd yn ariannu 15,000 o gyfranogwyr yng Nghymru (o addysg uwch, addysg bellach, addysg alwedigaethol, addysg oedolion, gwaith ieuenctid ac ysgolion) i fanteisio ar gyfleoedd symudedd allanol rhwng 2022 a 2026. Bydd y rhaglen hefyd yn helpu i dderbyn 10,000 o fyfyrwyr ychwanegol o'r tu hwnt i Gymru. Bwriad Taith yw galluogi rhagor o bobl ym maes addysg i gael profiad o astudio neu weithio dramor, ond mae hefyd yn cyflwyno neges eglur ynghylch uchelgeisiau byd-eang Cymru.
Fodd bynnag, mae nifer o heriau sy'n unigryw i gyd-destun Cymru.
Yn gyntaf, mae Cymru'n derbyn llai o gyllid fesul pen o'r boblogaeth ar gyfer addysg na'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr o ganlyniad i'w ffïoedd is. Mae’r ffïoedd dysgu yng Nghymru a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn £9,000, o'u cymharu â £9,250 yn Lloegr, sy'n golygu bod prifysgolion Cymru dan anfantais ariannol sylweddol wrth dderbyn myfyrwyr bob blwyddyn. Mae'r ffaith bod Cymru'n derbyn llai o gymorthdaliadau am bynciau drutach, sydd wedi cael eu dyfarnu ers 2019/20 yn unig, yn ychwanegu at hyn, gan greu pwysau ariannol ychwanegol ar y sector.
Mae hefyd yn werth amlygu lefel hael y cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Mae argaeledd grantiau Llywodraeth Cymru rhwng £1,000 ac £8,100 y flwyddyn (£10,124 os ydynt yn astudio yn Llundain) – ni waeth ble mae myfyrwyr yn penderfynu astudio – yn golygu i bob pwrpas fod cyllid Llywodraeth Cymru'n cefnogi ffïoedd uwch yn Lloegr drwy ariannu myfyrwyr o Gymru, ond nid yw'n cefnogi pennu ffïoedd gwerth £9,250 yng Nghymru.
Mae Cyllideb Ddrafft 2023-24 Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos gostyngiad mewn termau real yn yr hyn a ddyrennir i addysg uwch, sy'n cyferbynnu â'r cynnydd yng nghyllid QR yn Lloegr eleni, ac nad yw'n adlewyrchu gwir gost addysgu, ymchwil ac arloesi, yr argyfwng costau byw, a heriau ariannol eraill sy'n wynebu'r sector, gan gynnwys dibynnu ar ffïoedd rhyngwladol a cholli cyllid Ewropeaidd. Derbyniodd Cymru oddeutu £400m y flwyddyn gan Gronfeydd Strwythurol o 2014 tan 2020 ac, ar hyn o bryd, bydd cyllid o Gronfa Ffyniant Bro a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU mwy na £1 biliwn yn llai na'r lefelau blaenorol erbyn mis Mawrth 2025. Mae'r ffordd y mae'r cronfeydd “olynol” hyn yn cael ei rheoli'n her arall yma: mae Llywodraeth Cymru, a fabwysiadodd ymagwedd strategol, Cymru gyfan at benderfyniadau cyllid, yn cael ei hepgor gan Lywodraeth y DU o blaid gwneud penderfyniadau mewn modd hynod ddatganoledig, gan ddosbarthu cyllid drwy 22 awdurdod lleol Cymru.
Rhaid i ni hefyd gydnabod bod prifysgolion Cymru'n rhannu ceisiadau gan israddedigion cartref â sefydliadau yn Lloegr yn bennaf. Felly, er bod sefydliadau addysg uwch yng Nghymru'n gydweithredol ac yn cael eu cefnogi'n dda, maent yn rhan o sector addysg uwch y DU ac, o ganlyniad i hynny, maent yn cystadlu mewn marchnad genedlaethol a rhyngwladol nad yw bob amser yn cydnabod y gwahaniaethau mân rhwng sectorau addysg uwch gwahanol y DU. Gan fod heriau cyllido a buddsoddi annigonol yn creu maes chwarae sydd braidd yn anghyfartal, mae'n galonogol gweld pa mor dda y mae prifysgolion Cymru'n gallu cystadlu ar hyn o bryd.
Yn olaf, ac efallai fod hwn yn faes y gall y Comisiwn newydd geisio mynd i'r afael ag ef yn gyflym, mae'r dirwedd prentisiaethau yng Nghymru'n llai helaeth nag ydyw yn Lloegr. Er enghraifft, mae prentisiaethau gradd yng Nghymru ar gael mewn llond llaw o feysydd pwnc yn unig ar hyn o bryd, megis TGCh, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, ac nid oes tebygolrwydd o gyflwyno rhaglenni newydd cyn 2024.
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymdeimlad go iawn yma fod prifysgolion Cymru'n cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cydnabod am yr effeithiau y maent yn eu cael, o safbwynt cefnogi addysg, sgiliau a datblygu economaidd, yn ogystal â'r cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol y maent yn eu cyfrannu at hanfod y genedl ac enw da Cymru ledled y byd.
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl hon yn gyntaf gan Gymdeithas Penaethiaid Gweinyddu Prifysgolion (AHUA).