Wrth iddo gydio yn rôl Cadeirydd Prifysgolion Cymru, mae'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn edrych ar rôl prifysgolion yng Nghymru, heddiw ac yn y dyfodol.
Ers i mi ailymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2019, mae sector prifysgolion Cymru wedi profi cynnwrf a newid sylweddol. O effaith hirhoedlog y pandemig i’r diwygiadau rheoleiddio a chyllido sylweddol sydd ar y gweill ar hyn o bryd; nodweddwyd y pum mlynedd diwethaf gan yr angen i baratoi, addasu ac ymateb.
Trwy gydol y cyfnod hwn, bu cryn ddadlau cyhoeddus ynghylch beth – ac ar gyfer pwy – yw prifysgolion.
Wrth i mi ymgymryd â rôl Cadeirydd Prifysgolion Cymru ar ddechrau blwyddyn newydd, mae hwn yn teimlo fel amser priodol i bwyso a mesur, a myfyrio ar y cwestiwn sylfaenol hwn a’r amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd.
Yn aml, mae’r drafodaeth am brifysgolion yn canolbwyntio ar y problemau sydd o’n blaenau. Bydd y pwysau ariannol sy’n wynebu ein sector addysg uwch yn cael sylw amlwg. Fel y nododd fy rhagflaenydd mewn ymateb i gyllideb 2024-25 Llywodraeth Cymru, mae’r amgylchedd ariannol yr ydym yn gweithredu ynddo yn un o’r rhai mwyaf heriol a welwyd ers blynyddoedd lawer.
Yn ogystal â cholli arian o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd – a chwaraeodd rôl ganolog wrth gefnogi ymchwil, arloesedd, a chynyddu sgiliau yng Nghymru – mae chwyddiant wedi cyflymu erydiad gwerth y cyllido, y grantiau a’r ffioedd a dderbynnir gan brifysgolion. Ar hyn o bryd, nid yw'r incwm ar gyfer ymchwil nac addysgu israddedig domestig yn talu costau darpariaeth.
Ar adegau fel hyn, gyda’n sector yn wynebu gwahanol bwysau, gall fod yn anodd parhau i fod yn optimistaidd, chwilio am gyfleoedd newydd a mynegi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Mae ein hymdeimlad o bwrpas a’n cenhadaeth graidd yn dod yn fwyfwy pwysig yn yr amgylchiadau heriol hyn.
Fel cymdeithas, rydym ar drothwy cyfnod o newid cyflym yn y gweithle, economïau byd-eang cyfnewidiol a’r posibilrwydd o ailstrwythuro ein tirwedd alwedigaethol. Er y gall asesiadau ynghylch maint y newid a’r risg i swyddi amrywio, mae consensws yn dod i’r amlwg y bydd sgiliau trosglwyddadwy lefel uchel yn bwysicach nag erioed.
Ac eto, mae gan Gymru boblogaeth sydd, ar y cyfan, yn llai cymwysedig na phoblogaeth y DU. Caiff hyn ei ddwysáu gan y bwlch cyfranogiad cynyddol rhwng Cymru a gweddill y DU, gyda llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn dewis mynd i addysg uwch.
Mae sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan ddod â’r sectorau addysg ôl-16 ynghyd mewn ffordd sy’n unigryw yn y DU, yn rhoi cyfle gwirioneddol i Gymru fynd i’r afael â’r broblem hon. Ar adeg pan mae’n ymddangos bod llai o bobl ifanc yn dewis aros mewn addysg ôl-16, mae gan y Comisiwn gyfle i ddod i ddeall i ble mae ein pobl ifanc yn mynd a pham nad ydynt yn dewis aros mewn addysg ac uwchsgilio.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae newid gwleidyddol hefyd ar y gorwel. Gydag etholiad ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru ar y gweill ar hyn o bryd, cyn bo hir bydd gennym Brif Weinidog newydd yng Nghymru ac, yn y DU, mae Prif Weinidog y DU wedi cadarnhau y bydd etholiad cyffredinol yn 2024. Bydd canlyniadau'r ddwy broses yn arwain at oblygiadau i'n sector ni yma yng Nghymru.
Er bod addysg yn faes datganoledig, mae goblygiadau uniongyrchol i brifysgolion Cymru yn sgil y penderfyniadau polisi a wneir gan Lywodraeth y DU. Mae gennym feysydd o seilwaith a rennir - bydd penderfyniadau ar wariant neu ymagwedd gan Lywodraeth y DU yn mynnu ymateb gan Lywodraeth Cymru; mae newid yn lefel y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr yn enghraifft glir.
Er gwaethaf yr heriau a’r ansicrwydd sydd o’n blaenau, rhaid i ni hefyd groesawu’r cyfleoedd unigryw sydd ar gael i’n sector. Mae ein prifysgolion mewn sefyllfa dda i gefnogi llawer o elfennau sylfaenol ein cymdeithas yng Nghymru; boed hynny’n ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer y gwasanaeth iechyd, cefnogi athrawon ac ysgolion, neu ddatblygu ffyrdd newydd o gyflawni sero net. Mae gennym brofiad unigryw o gydweithredu ar draws sectorau, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r sectorau cyhoeddus a phreifat i gyflawni newid ar raddfa fawr i’n rhanbarthau, trwy ein cyfranogiad mewn mentrau fel Bargeinion Dinesig, neu Borthladdoedd Rhydd ac Ardaloedd Buddsoddi ar gyfer y dyfodol. Ac yng Nghymru, rydym yn elwa o gynlluniau cydweithio; mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru – menter sy’n cynnwys pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru – yn ein galluogi i gyfuno ymdrech ac adnoddau i ysgogi ymchwil a datblygiad yn ein gwlad, i gefnogi strategaeth arloesi uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.
Felly, beth yw’r ffordd orau i ni – fel prifysgolion – fynegi ein pwrpas pan fo’n gwaith mor eang ac amrywiol? O addysgu a all agor gorwelion addysgol newydd, i'r ymchwil ac arloesi sy'n cael effaith wirioneddol ar iechyd, ynni, hinsawdd. O ddarparu 250,000 o ddiwrnodau o ddatblygiad proffesiynol i gyflogwyr bob blwyddyn, i fod yn gyflogwyr mawr yn ein rhinwedd ein hunain.
Efallai y daw’r cwestiwn yn haws i’w ateb pan edrychwn ar y lleoedd a’r bobl o’n cwmpas a’r effaith y mae prifysgolion wedi’i chael ar fywydau a bywoliaethau, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae prifysgolion yng Nghymru’n falch o rannu ymdeimlad cryf o genhadaeth ddinesig, sydd wedi’i gwreiddio yn anghenion ein rhanbarthau a’n gwlad, a cheisio cefnogi ein cymunedau – yn lleol ac yn fyd-eang – i ddatblygu cymdeithas fwy ffyniannus, cydnerth a chyfartal ar ein cyfer ni i gyd.
Eleni, bydd Prifysgolion Cymru’n lansio ymgyrch i arddangos straeon unigolion sydd wedi profi effaith drawsnewidiol addysg uwch yn uniongyrchol. O Brifysgol Abertawe, rydym yn falch o rannu stori Caitlin, nyrs sy'n hollol fyddar. Yn ystod ei hamser gyda’n prifysgol, mae hi wedi cwblhau gradd mewn nyrsio, gradd Meistr mewn addysg ar gyfer proffesiynwyr gofal iechyd, ac wedi derbyn Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil. Mae Caitlin ei hun wedi dweud bod y brifysgol wedi newid trywydd ei bywyd.
Mae stori Caitlin yn unigryw ac eto'n nodweddiadol o gymaint o straeon eraill am y rhai y mae eu bywydau'n wahanol, mewn ffyrdd bach a mawr, o ganlyniad i brifysgolion.
Nid oes diffiniad unigol o beth yw prifysgol neu beth ddylai fod; rydym mor amrywiol ag yr ydym yn debyg. Ond mae’r hyn a wnawn dros bobl a lleoedd, a’r cyfrifoldeb mae hynny’n ei greu, yn bwynt cyswllt a rennir. Wrth i ni symud i’r dyfodol sy’n fwyfwy ansicr, a’r heriau a allai ddod yn sgil hynny, dyna’r ffaith fwyaf blaenllaw yn ein meddyliau.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y Western Mail.