Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01312
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£29,959 i £33,482 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Rhag 2025
Dyddiad Cyfweliad
17 Rhag 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Contract: Swydd am gyfnod penodol yw hon, tan 30 Medi 2026 

Mae tair o brifysgolion mwyaf uchelgeisiol a gweithredol ym maes ymchwil y DU yn gweithio ar brosiect SUSTAIN: Sheffield, Abertawe a Warwick, ynghyd â'r diwydiant yn y DU sy'n cynhyrchu'r lefelau uchaf o CO2 a'i gadwyn gyflenwi. Y weledigaeth a rennir gan bartneriaid SUSTAIN yw trawsnewid y gadwyn gyflenwi dur o ddibyniaeth ar gynhyrchion nwyddau sy'n ddwys o ran CO2 i sector hyblyg ac ymatebol sy’n gwneud defnydd llawer mwy effeithiol o ynni ac adnoddau.

Mae'r Uwch Gynorthwy-ydd Gweinyddol yn gyfrifol am gefnogi Cyfarwyddwr/Rheolwr/Prif Ymchwilydd y prosiect fel rhan o dîm prosiect wrth weinyddu prosiectau yn y Brifysgol.

Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o swyddogaethau gweinyddol, gan gynnwys gweinyddu cynlluniau prosiectau, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, goruchwylio/cynorthwyo gyda chyllidebau, monitro ac adrodd, mewnbynnu data a darparu cymorth gweinyddol ar gamau gwahanol y prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chwblhau'r prosiect.

Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys ymdrin ag amrywiaeth eang o broblemau a’u datrys, rhai a fydd yn aml yn gyfrinachol, yn sensitif neu ar frys, gan arfer barn gadarn mewn perthynas â'r camau gweithredu mwyaf priodol.

  1. Gweinyddu/cydlynu prosiectau – cefnogi’r rheolwyr gyda phrosiectau’r EPSRC drwy gyfrifoldebau gweinyddol yn unol â Fframwaith Prosiectau a Newid y Brifysgol. Helpu i weinyddu'r prosiectau er mwyn sicrhau bod y canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni yn unol ag amserlenni, costau ac ansawdd yr holl dasgau gweinyddol a ffrydiau gwaith dan eich rheolaeth. Cynorthwyo wrth gyflawni prosiect drwy ei lywodraethu a'i allbynnau allweddol. Sicrhau bod ffeiliau gweinyddol a ffeiliau’r prosiect (papur a digidol) yn gywir ac yn gyfoes yn unol â gofynion y Brifysgol a'r cyllidwr.
  2. Cynllunio, Monitro ac Adrodd – cynorthwyo wrth weinyddu prosiectau ym meysydd: datblygu cynlluniau, amserlenni a chyllidebau prosiectau, rheoli dogfennau prosiectau, monitro, adrodd i noddwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol, a rheoli ariannol y prosiect, ymdrin â materion archwilio yn unol â gofynion cyllidwyr a'r Brifysgol, gan gydlynu â'r gwasanaethau proffesiynol perthnasol pan fo'n briodol.
  3. Cyfathrebu a gweinyddu rhanddeiliaid – trefnu cyfarfodydd a phwyllgorau prosiectau, gan gynnwys paratoi dogfennau a gwybodaeth ar gyfer timau mewnol perthnasol a rhanddeiliaid perthnasol. Gwasanaethu cyfarfodydd prosiectau yn unol â threfniadau llywodraethu prosiectau. Mae hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, dosbarthu agendâu, cymryd cofnodion a chofnodi penderfyniadau (e.e. tasgau a glustnodir a chamau nesaf) a chamau dilynol.
  4. Dadansoddi Data - casglu, dadansoddi a dehongli data, gan gynnwys data ariannol, o amrywiaeth eang o ffynonellau mewnol ac allanol. Llunio adroddiadau, dogfennau archwilio a gwybodaeth gyffredinol am brosiectau i gefnogi gofynion prosiectau.
  5. Risgiau a phroblemau – rhoi cymorth gweinyddol wrth reoli risgiau a phroblemau'r prosiect.

Allgymorth - Cynorthwyo'r Swyddog Allgymorth/Rheolwr Prosiect wrth ddiweddaru'r wefan a'r cyfryngau cymdeithasol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr