- Rhif y Swydd
- SU01321
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 18 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Cameron Pleydell-Pearce c.pleydell-pearce@swansea.ac.uk
- Mrs Sarah Roberts S.A.Roberts@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae prosiect SUSTAIN yn cynnwys tair o'r prifysgolion mwyaf uchelgeisiol ac sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar ymchwil yn y DU; sef Prifysgol Sheffield, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Warick ynghyd â'r diwydiant sy'n cynhyrchu’r lefelau uchaf o CO2 yn y DU a'i gadwyn gyflenwi. Y weledigaeth a rennir gan bartneriaid SUSTAIN yw trawsnewid y gadwyn gyflenwi dur o ddibyniaeth ar gynhyrchion nwyddau sy'n ddwys o ran CO2 i sector hyblyg ac ymatebol sy’n gwneud defnydd llawer mwy effeithiol o ynni ac adnoddau.
Prif Ddiben y Swydd
- Meithrin a chynnal rhwydweithiau cryf ar draws y byd academaidd, byd diwydiant a byd polisi i gefnogi ymchwil gydweithredol ac uchafu proffil ac effaith y prosiect.
- Cynllunio, rheoli a darparu cymorth gweithredol ar gyfer cynnal cynhadledd flynyddol SUSTAIN.
- Datblygu a chyflwyno cynllun lledaenu ac ymgysylltu strategol, mewn cydweithrediad â'r Rheolwr Prosiect a'r Uwch Gynorthwy-ydd Gweinyddol, gan dargedu cynulleidfaoedd academaidd, diwydiannol, llywodraeth a chyhoeddus drwy gydol cylch bywyd y prosiect.
- Hyrwyddo'r prosiect yn genedlaethol, gan sicrhau presenoldeb cryf ledled y DU ar draws y sefydliadau prif ganolfan a lloerennau a rhwydweithiau cysylltiedig.
- Creu a rheoli cynnwys amlgyfrwng o safon i gyfleu nodau, cyflawniadau a phartneriaethau prosiect ar draws platfformau digidol, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a'r wasg.
- Cefnogi datblygu talent a phroffil, gan gynnwys cysylltu â myfyrwyr a staff i hyrwyddo cyfleoedd ar draws sefydliadau partner i wella'r biblinell sgiliau ar gyfer y byd academaidd a byd diwydiant. Datblygu cynlluniau dyrannu adnoddau'r prosiect, eu rhoi ar waith a'u diweddaru, gan ystyried argaeledd ac amseru
- Llunio cyllideb y prosiect a chytuno arni, a rheoli rhagolygon a gwir gostau yn erbyn y gyllideb hon
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr